Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CLEBER O'R CLWB.

News
Cite
Share

CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] Y GORLIFIAD Rhyddfrydol oedd pwnc penat yr aelodau yr wythnos hon. Yr oedd cynrych- iolwyr o bob sir yng Nghymru yn bresenol nos Fercher yn yr ymgom a gaed, ac 'roedd yn ddoniol i wrando arnynt yn adrodd eu helynt- ion ac yn egluro pa fodd yr ennillasant neu y'u gorchfygwyd—yn ol eu barnau gwleidyddol. Yr oedd y rhesymau yn gwahaniaethu bron ym mhob sir, ac 'roedd yn fath o amheuthyn i'w clywed ar ol darllen eglurhad yr ymgeiswyr aflwyddianus yn Lloegr, y rhai, yn ol y papyrau newydd, a hona.nt mai celwyddau y blaid wrth- wynebol oedd prif achos iddynt golli y sedd. Gofynwch i Dori aflwyddianus—ac mae eu rhif yn lleng—ac fe ddywed wrthych yn sionc mai celwyddau digywilydd y Radicaliaid oedd achos ei aflwyddiant; a phan gyfarfyddwch a Radical, wedi cael ei droi o'i sedd, neu wedi methu a chipio sedd mewn etholaeth gyfleus, dywed mai celwyddau haerllug y Toris oedd yr unig achos. OND y mae'n foddhad arbenig i ni, ar derfyn yr ornest, i ddeall fel hyn beth oedd y prif elfenau a droisant y fantol yn yr ymgyrch. Os yw'r naill blaid a'r Hall yn berffaith foddlawn mai i gelwydd yr wrthblaid y maent yn ddyledus am eu curfa, yna 'does dim am dani ond ceisio eu curo ar eu tir eu hunain pan ddaw'r cyfle nesaf. Y pwnc yw, pwy sydd i benderfynu ar adeg fel hyn beth sy'n wir a pheth sy'n gelwydd, oher- wydd y mae safon y naill blaid wleidyddol a'r llall yn eu gosod ar unwaith mewn gwahanol fyd, fel nas gellir penderfynu ar sylfaen o wir- ionedd ac anwiredd i ddechreu, a'r unig ffordd yw eu gadael i'w hymladd hi allan hyd yr eithaf. Dyna'r hanes am y miri et-holiadol yma o'r dechreu, a dyna fydd yr hanes tra y parhao y gyfundrefn bresenol mewn grym. BETH am danom ni yng Nghymru ? Yno y mae byd gwahanol i'r hyn a geir yn Llundain a siroedd Lloegr. Mae'r Cymro yn cymeryd ei wleidyddiaeth yn fwy difrifol, ac er mai capel ac eglwys yw'r safon, fel rheol, y mae'n rhaid addef fod a fyno deall a'r mater hefyd. Ceisia y Cymro ddod o hyd i'r prif faterion' a drinir gan ein harweinwyr, a phleidia y naill a'r llall yn ol eu dylanwad neu eu perthynas arbenig a ni fel cenedl. Yn yr ymgyrch bresenol rhoddid cymaint o fri ar Ddadgysylltiad ag a roed ar Ddiffyndollaeth,—Ymreolaeth i Gymru ag a roddid i Ymreolaeth yng ngwlad y Gwyddel. Mewn gair, y mae'r Cymro yn ddigon hunanol i gredu bellach fod ei bynciau ef yn llawn mor bwysig, os nad yn bwysicach, na'r materion a geisir eu fgwthio o bryd i bryd ar y Ty, yn ym- wneyd ond a rhanau ereill o'r Deyrnas yn unig. CWYNAI un o fechgyn sir Fon fod yr ysgolion presenol yn cael eu harfer i broselytio y plant o fod yn Doriaid uniawngred i fod yn fath o Sosialiaid digredo. Seiliai y ffaith ar yr hyn a welodd mewn ysgol. arbenig ar adeg y Nadolig diweddaf. Pan drodd i fewn i ysgol wledig synwyd ef pan welodd ar y blackboard ddarlun lied gywir o ben C.-B. a'r geiriau a ganlyn oddi- tano— FOTIWCH DROS C.-B., A CHWI A GEWCH DDADGYSYLLTIAD. Gyferbyn a hwn, ar y rhan arall o'r astell ddu, yr oedd darlun o Mr. Chamberlain wedi ei dynu ar gynllun y cartoonists cyffredin, ac odditano y geiriau hyn yn Saesneg- VOTE FOR CHAMBERLAIN, AND WE IN ANGLESEA WILL HAVE TO EAT HORSE FLESH. Yr oedd y peth mor anheg ac anwireddus yn ei olwg fel y protestiai mewn modd pendant yn erbyn troi'r ysgolion dyddiol yn fath o fagwrfeydd i gredoau'r capeli a'r man wleidyddwyr cul a frithent y wlad ar derfyn pob etholiad. Y PETHAU mwyaf anfoddhaol yn Nghymru adeg yr etholiad presennol oedd y gornestau tair onglog. Yn Merthyr yr oedd yn amlwg fod Mr. Keir Hardie wedi cael cryn ddylanwad ar y gweithwyr yno, ond yr oedd yn resyn gweled Cymro fel Mr. Radcliffe yn cael ei daflu allan a Scotyn a Sais-Gymro yn en ill y sedd. Pe bae Henry Richard yn dod 'nol yn awr byddai yn ddolur calon iddo weled ei hen etholaeth wedi syrthio mor isel. Feallai y ceir mwy o amser adeg yr etholiad nesaf er gosod y gwahanol ymgeiswyr a'u daliadau ger bron y werin. Y n yr ymgyrch ddiweddar yr unig esgusawd a ellir wneyd ar ran Merthyr yw na chafodd amser i adnabod Mr. Radcliffe.

A DASTARDLY ATTEMPT.

Advertising

Am Gymry Llundain.