Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

,Y LLOFFT FACH;

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD IX. Y Llojjt Fach" yn son am Rai a ddaethant i Fewn. Safai Robin Bach rywle tua'r canol y'mhlith y dychweledigion nid o ran rhif nac oedran, end o ran cymeriad a defnyddioldeb. Un diddrwg didda oedd y 'sgubellwr; ond prin y gallesid d'weyd hyny am lawer o'r lleill, a'r nifer liosocaf o honynt. Yr oeddynt yn bendant iawn eu da, ac yn bendant iawn eu drwg. Yr wyf wedi addo eisoes i son am danynt, a chystal imi wneud hyny ar unwaith, am wn I-a gwell, hwyrach, os wyf am eu cael oddiar y ffordd yn brydlon a theidi. Mi gymeraf un teulu am y tro. Y rhyfedda' o honynt ar lawer ystyr oedd Sam Wmjfras. Glowr oedd Sam wrth ei alwedigaetb, ac yr oedd mor adnabyddus yn y gweithfeydd ag ydoedd yn y parthau hyn. Trampiai lawer yn ol ac y'mlaen, a deuai adref- lawer llymach nag yr elai i ffwrdd. Oblegid y wlad a gyfrifai ei gartref. Yr oedd ei dad a'i fam wedi marw er ys blynyddoedd; ond yr oedd ganddo wraig a dau o blant yn byw yn y pentref isa', a brawd yn ail was yn Abercarw. Sut yr oedd ei deulu'n byw tra byddai Sam yn y "gweitbie," goreu y gwyddai y cym'dogion ond nis gallasai fod yn waeth arnynt na phan y byddai gartre'. Yr oedd dau dafarn yn y pentref, un bob pen iddo, yn gofalu na chae'r teithiwr blin farw o syched cyn cyraedd y pen arali. Rhoddai Sam ei gwsmer- iaeth yn ddibartiol i'r ddau, ond nid yr un pryd. Pan fyddai gormod o sialc ar gyfer ei enw yn y naill, symudai i'r Hall nes elai'r aflwydd heibio. Ac nid yn anil y byddai galw eto ar Sim, oblegid yr oedd rhywbeth yn y gwalch ag oedd pobl yn ei hoffi drwy'r cwbl, a gallai adrodd 'stori a chanu can cystal a'r goreu. Pan fyddai wedi myn'd i'r pen arno am geiniogau, gweithiai ychydig ar y tir neu yn y gerddi; ac addefai ei elynion gwaetha', os ceid y crwt i dynu ei got ac i gydio mewn caib a rhaw, y gwnai ddiwrnod o waith oedd yn bleser edrych arno. Oblegid nid diogi oedd ei bechod gwreiddiol," ond rhyw hen ysfa ddwl at lercian a llymeitian; ac yr oedd diogi'n ddiddadl wedi dod yn un o'r canghenau praffaf arno er's blyn- yddoedd. A chware' teg i Sam, nid oedd wedi bod yn ffodus o gwbl yn ei ddewisiad o gydmar bywyd. Hen groten benffol o Saesnes ydoedd, a ddaethai i was'naethu i Brynbras o ryw ysgol neu gilydd, ac heb fod damed callach ar ol priodi na chyn hyny. Chwi a'i gwelech yr amser a fynech bron, bryd bynag yr aech drwy'r pen- tref, i fyny neu i lawr, yn eistedd ar y trothwy a'i gwallt yn ei gwyneb, a'i gwddf yn agored, a'i brest yn hongian, a'i breichiau'n ddi-lewys, a'i chywion yn chware' yn y baw yn ymyl, mor llawen a'r gog, ac mor hapus a'r dydd yn hir. Yr oedd digon o 'stoc o synwyr gan Sam, pe dewisai ei ddwyn i'r farchnad; ond yr oedd ei 'stoc hi, druan, yn brin ei wala, ac yr oedd cymaint ag oedd ganddi heb fod o'r math goreu. Sut bynag, yr oedd ganddynt olwg anhygoel ar eu gilydd, a gwae neb a ddywedai air yn fach am y naill wrth y Hall. Onid yw deddf atdaliad yn ddeddf ryfedd ? Credai Sam nad oedd bertach na ffelach Susan yn y plwy' chwaithach y pentre'; a chredai Susan am Sam, mai efe oedd y bachgen mwya' hamswn yn y byd. Ac am y plant-yr oedd un yn bengoch a'r Hall yn benddu—cydunai'r tad a'r fam i'w galw'n angelion y'nghanol eu baw i gyd. A chytunai'r pentrefwyr nad o'ent y'mhell o'u lie, heb fanylu y'mhellach. Yr wyf wedi ymdroi cy'd y'nghwmni Sam dan bechod er mwyn mawrygu'r gras a'i cadwodd oblegid mae Sam dan ras yn siwr o fod yn un o gofgolofnau rhyfeddaf trugaredd yn yr ardaloedd yma. Ac heb ymdroi rhagor, mi ddeuaf at drawsgyweiriad mawr ei fywyd. Yr oedd yna ryw barotoad dystaw ar gyfer y cyfnewidiad mawr wedi bod y'mywyd Sam Wmjfras er's dros haner blwyddyn cyn iddo dd'od. 0 leia', dyna fel oedd pobl yn siarad wedi iddo dd'od. Yr ydym yn gallu bod yn wybodus y tu hwnt ar ol i bethau basio ac yr wyf wedi sylwi 'sgoroedd o weithiau taw y rhai mwyaf anwybodus cyn hyny sy'n troi allan yr ysgolheigion penaf wed'yn. Ond yr oedd yna fwy o sail i'r siarad hwn am Sam nag oedd i lawer siarad o'r fath. Mae'n anodd rhoi cyfri' am ryw awelon tro fel hyn sy'n d'od heibio i ddynion, ac yn rhy anodd ar wahan i'r Ysbryd Mawr. Daeth rhai adnodau i'r wyneb yn amser y Diwygiad a gole' Duw ynddynt, ac un o honynt yw yr adnod hono sy'n son am y gwynt, leied a wyddom yn ei gylch; ac felly taw mawr mor lleied a wyddom am y dynion ag y mae'r gwynt nefol wedi dechre' chw'thu arnynt. Nid yn y cwrdd y dechreuodd Sam deimlo'r gwynt; ond 'does dim dowt nad oedd y gwynt wedi bod yn chw'thu arno amser hir cyn iddo ddrwgdybio beth ydoedd, a taw o dan ei ddylanwad yr aeth i'r cwrdd am y tro cyntaf wedi iddo dyfu'n llanc. Cafodd waith cyson mewn lefel lo oedd wedi cael ei hail agor gerllaw a chan mai glowr ydoedd, yr oedd y gwaith yn fwy cydnaws a'i anian na'r labro didalent oedd yn disgyn i'w ran fynycha'. A chymerodd ato yn ddistelc. Dechreuodd hyny ro'i cysondeb i'w fywyd. Ar ol d'od i'r ty o'r gwaith, yr oedd y rhwd oedd wedi magu yn ei esgyrn yn ei wneud yn rhy'stiff i godi o'i gader; a chysgu y byddai'n gyffredin tan amser gwely. 0 dipyn i beth, llithrodd nosweithiau a diwrnodau heibio heb ei fod wedi t'w'llu drws y ddau dafarn. Methai'r hen gwmni a deall beth oedd wedi d'od o hono. Tybiai un neu ddau ei fod wedi cymeryd tramp arall: ond yr oedd yno rywun wedi ei wel'd ben bore', ac yr oedd yno rywun arall wedi ei wel'd fin nos. 'Doedd dim bias ar y ddiod a'r gymdeithas heb 'stori Sam, ac felly ciliodd rhai o'r cwsmeriaid. Wnaiff hyn mo'r tro," ebe gwr y Llew Brith ac aeth i holi Susan. Chwardd- odd hono am ei ben, a chafodd lai o sens ganddi nag arfer. Hwyrach iddi roi mwy iddo, ond ei fod o natur gwahanol i'r hyn oedd e'n ddisgwyl. Sylwodd y pentrefwyr yn fuan fod gwraig Sam yn d'od yn fwy o ffrind a'r dw'r, a'r grib, a'r ty, a bod pengoch a penddu yn d'od yn lanach angelion bob dydd. Sibrydid fod y ty wedi myn'd drwy drawsnewidiad rhyfedd, a'r tenantiaid drwy weddnewidiad rhyfeddach. O fel yr oedd y gwynt yn chw'thu ar y gerddi, ac yn dechreu gwasgar y peraroglau. Mae'r gwahoddiad wedi myn'd allan "Deued f'an- wylyd i'w ardd, a bwytaed o'i ffrwyth peraidd ei hun." Dyna fel y bu pethau am bedwar mis, a dyna fel yr oedd pethau pan dorodd Diwygiad JDafydd Morus allan, ac y cariwyd y gwreichion i'r eglwysi pell ac agos. Tynwyd Sam Wmjfras a'i deulu i mewn i'r dylanwad. Er fod ganddynt yn agos i ddwy filldir i fyn'd i'r capel, a dwy filldir i ddychwelyd, nid wyf y'meddwl iddynt fod yn absenol o un cwrdd yn ystod y ddeufis cyn iddynt ildio. Eisteddent gyda'u gilydd ar un o'r ffyrmau sefydlog yma, yn union gyferbyn a'r drws. Ni chodent i ganu, ond plygent i wylo ac yr oedd llygaid pengoch a penddu fel deubar o ser yn cymeryd y cwbl i fewn, ac yn rhoi llawer allan. Yr oedd yn amlwg ei bod yn fwydr galed bob nos. Nid oedd cyfeillach ar ol, ond yr oedd yr ymchweliadau yn cymeryd lie yn ystod y cwrdd. Pan fyddai brawd ar ei liniau, gwesgid ochenaid drom allan o ryw druan-" 0 Dduw, be"na I? "-a dyna'r hen we'ydd ato fel saeth oddiar fwa, ac yn d'weyd wrtho beth oedd yr Arglwydd am iddo wneud— Edifarhewch a dychwelwch ac nid anfynych y byddai'r drafodaeth sanctaidd wedi ei setlo cyn i'r gweddiwr godi. Hwyrach taw canu hen benill am y seithfed tro a ddygai'r muriau i lawr; ac ami y clywyd gwaedd uwchlaw y nodau uchaf yn y don a dd'wedai am y dymchweliad. Neu hwyrach mai dwy funud o ddystawrwydd oedd eisiau i ddwyn y ddadl i bwynt. Gwelais ragor nag un yn ymhollti'n ddrylliau, yn cwympo ar draws eu cym'dogion, ac yn rhwygo'r lie a'u llefau, pan oedd pawb eraill yn ddystaw, a neb ond Ysbryd Duw y'myn'd heibio, fel gwynt nerthol yn rhuthro. Ond yr oedd Sam a'i deulu y'myn'd allan bob nos hebroi euhunain i fyny, a'r bobl yn synu, a Duw yn parotoi. O'r diwedd, daeth amser Duw i ben. Yr oedd y Llofft Fach yri llawn chwarter awr cyn amser dechre', a'r diweddariaid yn tyru o gwm- pas y drws oddiallan. Bum yn ofni y buasent yn symud i'r capel oherwydd y tyndra, ac y collaswn yr olygfa, yr hyn ni fynaswn ar un cyfrif. Yr oedd rhywbeth yn yr awyr heno. Yr oedd y lie yn llawn trydan. Yr oedd dau neu dri o wrandawyr yn bresenol heblaw Sam a'i wraig ac yr wyf y'meddwl fod yna ddymun- iad dystaw yn codi o galon pob un am i'r lew goncro cyn diwedd y cwrdd. Dyma rywun yn taro allan— Y Gwr wrth ffynon Jacob Eisteddodd gynt i lawr, Dramwyodd drwy Samaria- Tramwyed yma'n awr; 'Roedd syched arno yno Am gael eu hachub hwy Mae syched arno eto Am achub llawer mwy," Canai rhai ar eu traed, ac eraill ar eu heistedd. Edrychent y'ngwynebau eu gilydd wrth ganu- cydiai rhai yn nwylo'r lleill, heb wybod yn y byd beth yr oeddynt yn ei wneud—cwympai eraill ar eu gliniau, a chanent a gweddient bob yn ail. Yr oedd yr hen benill wedi disgyn fel gwreichionen i ganol casgen o bowdwr. Aeth yn ffrwydriad cyn pen eiliad. Yr oedd deufis o gyffroad crefyddol dibaid wedi gyru'r bobl yn haner gwallgof; a phan ddaethant atynt eu hunain, pwy welent yn penlinio yn y fan draw ond gwr y Ddoldir a gwas Cyrnol Pari, ac yn y fan acw neb llai na Sam Wmjfras a Susan ei wraig, a pengoch a penddu cydrhyng- ddynt. Gwaeddai Sam yn Gymraeg, a Susan mewn llediaith Seisnig, am i'r Arglwydd eu hachub. Gwaeddai'r ddau blentyn hefyd ryw- beth eu goreu. Ond ni chafodd yr Arglwydd drafferth o gwbl i'w deall na'u gwrando, oblegid yr oedd y teulu'n gyfan ar y ffordd i ogoniant, a'r sicrwydd yn eu mynwes cyn wyth o'r gloch. Fel pe wedi cael y neges a geisient, dyma'r bobl allan; ac nid oedd dim i'w glywed ar hyd y ffyrdd ond Diolch Iddo, Byth am gofio llwch y llawr." Bu Sam yn aelod byw iawn o'r eglwys yma am flynyddau. Yr oedd yn un o'r rhai mwya' gostyngedig a pharod i waith. Meddai ar glust nodedig at gerddoriaeth, ac efe oedd y cyntaf i ddysgu Sol-ffa i'r bobl ieuainc yn y parthau hyn. Cafodd drafferth anghyffredin gyda'r hen stoics cyn iddo lwyddo i wneud lie i'r gyfundrefn newydd. Yr wyf yn cofio'n dda y noson y daeth a'r peth ger eu bron. Yr oeddynt wedi cael "inclwm" o natur y peth cyn hyny, ac yr oedd Sam wedi gofalu am gopi neu ddau i'w ddangos iddynt, ac i'w ganu, pe b'ai angen'. Chwi allech feddwl fod yao "gwrtmarsial" i fod, gan mor bwysig yr ymddangosent; a taw Sam oedd ar ei dreial. Yr oedd pob un a'i spectol ar ei drwyn yn 'sbio ar y nodau, a phob un a'i law y tu ol i'w glust yn gwrando ar Sam yn egluro. Digwyddai fod "tra-la-la" yn cydredeg a'r nodau weithiau; ac wedi gwel'd rheiny, rhoddodd Simon Pitars wers ofnadwy i Sam, druan, ar y pechod o fod yn fraich i blant Lot "-tarawodd ei wydrau yn y cas, ac aeth allan heb dd'weyd "Nos Da." Yr oedd