Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CYMRU A'R ETHOLIAD.

Advertising

Y LLOFFT FACH;.

News
Cite
Share

a'r merched i'r frawdoliaeth yn un lwmp gyda'u gilydd, yn siarad a hwy yn y modd mwyaf cyffredinol, ac yn eu croesawu 'nghyd fel pe baent i gyd bron yr un gyfer yn debyg i stiwdents mewn coleg. Wedi i'r olaf ddybenu ei 'stori,— "'Rhoswch ch'i," ebe Phil Lhvyd, dan godi'n araf, taro'i droed ar y ffwrwm o'i flaen, a'i law ar ei ben lin—" 'rhoswch ch'i, 'rydan ni 'nabod y plant 'ma bob un, ond ydan ni ? a ma' hyny'n peri i mi feddwl na ddylen ni ddim i gadel nhw i basio mor ddigownt, heb ofyn rhwbeth iddyn' nhw. Mi fydd o fantes i ni, a mi fydd o fantes iddyn' nhwthe hefyd." Yr oedd gwynebau'r hen gynghorwyr yn dangos anghymeradwyaeth er ys meityn, a braidd yn anesmwyth y teimlai'r ymgeiswyr o'r ochr arall; ond yn ei flaen yr aeth Phil Llwyd, a'i lygad ar Robin. Pan ddywedaf wrthych taw gwr y Brynbras oedd Phil Lhvyd, chwi faddeu- wch i Robin am gredu taw ei fficso fe oedd ei amcan, a dim arall. "Mi ddechreua' gyda Robin Lm yma. Wyddost ti dy fod yn bechadur, Robin ? Chwi wyddoch well lawer," ebe Robin, "ond f'alle 'dydach ch'i ddim yn foddlon cyfadde'. 'Sgubellwr ydw I." Taflodd Phil gil ei I) gad i gyfeiriad LLiws y scwl. Nid dyna o'wn i'n feddwl. Wyt ti'n gw'bod dy fod ti'n ddrwg, Robin ? yn bechadur, wyddost ? Dim mwy na ch'ithe, wlrionedd-i," oedd yr atebiad. Yr oedd y gair yna yn fath o air llanw gan yr hen law fynychaf. Wei, mi 'rydw i'n bechadur, Robin, ac yn bechadur mawr." "Mae pawb yn gw'bod hyny,ebe Robin; peidiwch ch'i treio 'nghal I i yfed 'ch eawl ch'i, Phil Llwyd." Glwest ti son am Iesu Grist, Robin ?" "Do." Be' ddyliet ti o hono ? Wei, os 'di'r cwbwl mae nhw'n weud yn wir, dyn gas y ram tosta' oedd o. Ond ma' nhw'n gweud digon o glwydde nes yma na hyny, more's the pity." Un arall o ffrindiau Robin. "Oes genLÎ ened, Robin?" oedd y cwestiwn nesaf. Ond yr ojdd Robin wedi cael digon o'i holi, a thrwy ei fod eisoes yn ddrwgdybus o Phil Llwyd,, trodd y byrddau arno yn reit ddiseremoni fel hyn- Pam 'dach chi'n fficso arna' I o hyd ? F'alle gwed rhai'n bod nhw'n wa'th na ch'i, PIlz'! llwyd, ac y gwedan nhw wrthoch ch'i am Iesu Grist, os 'dach ch'i'n mo'yn cat gafel arno fo. Pam na chaiff chap lonydd tra bo fo'n llonydd ? 'Doedd dim dyben dilyn Robin y'mhellach y ffordd yna. Ond er fod gwr y Brynbras wedi gwneud cas rhagorol, nid yn unig o Robin Bach, eithr o haner dwsin eraill yn yr un fintai, barnwyd taw gwell oedd eu gadael i fyn'd gyda'r gweddill, rhag y buasai yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Ac felly y bu, Bu Robin yn aelod teithiol yma am rai blynyddau. Sonir am bregethwyr a gweinidog- ion teithiol, paham nad yw yr un mor briodol i siarad am aelodau teithiol ? Adwaenwn lu o honynt, a mwy o grefydd yn eu coesau nag yn unman arall. Yr oedd Robin, druan, yn fwy esgusodol na'u haner. Pwdu oedd ei bechod parod, ac y mae yn bechod yr un mor barod i amryw a ystyriant eu hunain flynyddoedd yn gallach na Robin. Canlyniad y pwdu oedd y collid Robin yn sydyn am ddau neu dri Sul, ond dychwelai eilwaith cyn pen y mis fel pe na bai wedi digwydd. Gofynwyd iddo gan rywun pan ar ystrai felly, sut yr hoffai ei le newydd, gan gyfeirio at ei aelodaeth eglwysig "0," ebe Robin, mae'r gwr bynheddig yn drymp. Ond wirionedd-i, ma' agents comon gento, morels the pity Nid oedd Robin yn medru ar lyfr, ac ni chododd uwchlaw clas y wyddor yn yr Ysgol Sul tra fu byw. Medrai adrodd darnau o ad- nodau hwnt ac yma, ac yr oedd yn hyddysg mewn hen lafar-eiriau gwledig, ac ambell hen weddel. Cymysgai hwynt yn 'smala yn y gy- feillach weithiau. Pysgotai yr hen we'ydd am air neu adnod gan rywun ar ddiwedd seiat un tro- De'wch, de'wch, tamed eto, f'alle taw hwnw ,-Ilrlth 'n cylla ni Dyma Robin i fyny fel ergyd o wn, ac meddai: Ma' gen I adnod, Tomos." "Gad i chlwed hi, machgen i." "Cadw d'afraid erbyn dy raid, a phan hen- eiddia ni 'medy a ti "Robin bach, nid adnod ydi hona i gyd," ebe Tomos. Diareb -—— end cyn i Tomoi gael amser 1 gwpla ei feirniadaeth, torodd Robin ar ei draws— Diareb diareb ebai, fel pe bai yn treio ei oreu adgofio hen ffrind wrth ei enw. Ond am rai'r fantais o bob dowt iddo, ta pwy oedd, ychwanegodd—" Diareb neu beidio, mae- o ddigori gwir!" Gan nad oedd lie i nesu hwnt, terfynwyd y gyfeillach. Ac am wn I nad eystal i minau der- fynu'r benod, a myn'd i warchod. Deuaf heibio i blant y diwygiad yn eu tro, ac hwyrach y try Robin i fyny yn eu plith. (1' 'LV b ar/u71I ).