Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Wear WALTON'S Good Clothes. WINTER dh\ OVERCOATS M. ,A| Made to Order or ready to wear. From29f6 gli All the newest fashion- t able materials—Cheviots, Tweeds, Beavers, Meltons, &c. Write for sample cuttings or call and ||jjjjw inspect the Cloths. ISAAC WALTON & CO., LTD., 97, 99 & IOI, NEWJNGTON CAUSEWAY, S.E. 1, 3, 5, 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. 518,520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. 442, 444 & 446, HOLLOWAY ROAD, N.
BEDDFAEN DEWI GLAN DULAS.
News
Cite
Share
BEDDFAEN DEWI GLAN DULAS. Gan loan Eryri. Dair blynedd yn ol cychwynwyd yn benaf gyda'r symudiad hwn gan y diweddar Owen R. Jones, Granville, Robert W. Jones, West Pawlet, a'r ysgrifenydd, a bu yn sefyll ac yn syrthio o flaen y dyffryn hwn a'r wlad fawr i gyd ar hyd yr amser a nodwyd. Yr oeddym yn meddwl ar y dechreu, gan fod y diweddar Dewi yn ei ddydd mor boblogaidd fel bardd, y buasai y symudiad yn cymeryd yn ffafriol, ond drwg genym mai fel arall y bu. Cafodd y pwyllgor rai gweithiau ergydion gan rai llechwraidd o'r tu ol i'r gwrych, fel na buasai y bai o'i aflwydd- iant yn gorphwys arnynt hwy, ond y ffaith yw fod y pwyllgor wedi gwneyd yr hyn oedd yn eu gallu i wneyd y symudiad yn llwyddiant, a chostiodd lawer o amser ac arian i rai o honom, heblaw poen a phryder. Wedi blino yn disgwyl wrth rai lleoedd oeddynt wedi addaw casglu at y mudiad, penderfynodd y pwyllgor ddau fis yn ol gau y drysorfa, a cheisio beddfaen gwerth yr arian oedd mewn llaw, a gosod ar ei fedd cyn i'r gauaf ein goddiweddyd. Cydnabyddwyd y tanysgrifiadau fel y daethant i law drwy y Drych. Y cyfanswm dderbyniwyd yw 62.20 doleri. Dydd Llun, Tachwedd 22ain, gosodwyd beddfaen fechan hardd, gyflawn werth y swm a nodwyd ar fedd Dewi, gan y cymrawd siriol Griffith E. Roberts, Fair Haven, ac arni yn gerfiedig yr englyn canlynol, un o ddau fuddugol yn Eistedd- fod Granville, 1896, er cof am y gwrthrych, gan yr ysgrifenydd Gwladwr hyglo:), eisteddfodydd-a bardd Oedd yn bei englynydd, Ac eneidlawn gain awdlydd Ydoedd ef ar hyd ei ddydd. Dymuna y pwyllgor dalu eu diolchgarwch gwresocaf i Robert J. Roberts, West Pawlet, am ei garedigrwydd yn anfon llwyth o gerig i'r fynwent ar ei gost ei hun i wneyd y gwaith o dan y beddfaen. Derbyniodd y trysorydd ar ol cau y drysorfa 2.00 doleri gan David D. Owen, Granville, sef ei rodd ef a dau gyfaill eraill. Talwyd y ddwy ddolar hyn am wneyd y gwaith dan y beddfaen. Mae y pwyllgor yn ddiolchgar i bawb sydd wedi eu cynorthwyo yn y mudiad teilwng hwn. Da genym ddeall fod y lienor coeth Carneddog, Beddgelert, Arfon, yn casglu gweithiau Dewi ac yn bwriadu eu cyhoeddi yn gyfrol hardd. Rhwydd hynt iddo, a chofion caredig ato —O'r Drych.
[No title]
News
Cite
Share
YNG Nghofiant y Gohebydd," sydd newydd ei gyhoeddi, ceir cyfeiriad doniol at Talhaiarn yn adrodd ei gyfieithiad o "Tam O'Shanter yn Eisteddfod Llandudno yn 1864. Rhag na welodd llawer o'n darllenwyr mo'r cyfieithiad hwnnw, rhoddwn iddynt y tamaid a ganlyn o hono :— Pan fydd cymhedrol, ddoniol ddynion, Yn teithio tuag adre'n hylon A'r rhai a hoffant felus dwrw, Yn troi i'r dafarn i gael cwrw, Ar ol bod yn y ffair neu farchnad, Yn gwerthu yd, neu farch, neu ddafad Y byddwn hefo'r pot a'r bibell, Os bydd arian yn y llogell, Yn yfed, rafio, ac yn canu, Mewn da fwriad yn difyru Heb feddwl fawr am gychwyn adre', Heb hidio syrthio, rholio'n rhywle Heb feddwl am ein gwragedd druain, Y rhai a faent yn uchel ochain Neu 'fallai'n sori, drwynau surion, Gan ddwfn fyfyrio gwers i'r dynion Neu 'fallai'n cuchio yn anghynes, Wrth borthi llid i'w gadw'n gynhes. Cadd Huw hyll brawf o'r gwir a ddywedais, Wrth deithio adre' yn ddifalais 0 farchnad Dinbych, yn bur feddw, 'Rol gwario'i arian am hen gwrw Nodedig yw hen Ddinbych dirion, Am ferched heirdd, a dynion dewrion. "VVE are a sombre people," said Dr. Cynddylan Jones at Newton, Porthcawl, the other evening. No one is well dressed unless he is in black; we want our Bibles bound in black for the house, for the schools, for the pulpit; and you see my ministerial brethren and myself dress for the blackest!"
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddington Green- 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0, 3.0, a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary. Camberwell New Road- 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow— ILO a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Parch. F. Knoyle, B.A. 6.45, J. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.30, Parch. S. E. Prytherch. 6.30, P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Parch. LI. Edwards, M.A. 6.30, G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45, Parch. P. Hughes Griffiths. 6.30, >> S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, Parch. R H. Hughes, B.D., Utica. 6.30, D. Oliver. Shirland Road 10.45, Parch. R. O. Williams. 6.30, 51 W. Davies, Llantwit Major. Holloway 10.30, Parch. W. Davies, Llantwit Major. 6.30, R O.Williams. Hammersmith 11.0, Parch. J. E. Davies, M.A. 6.30, j) 'F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0, Mr. E. Edwards, B.A. 6.30, Parch. J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0. Supply Willesden Green. 6.30, Parch. J. Pritchard, B.A., B.D., Ccsarea. Walham Green. 10.30, Supply Tottenham. 6.30, Mr. T. Huws-Davies, B.Sc. Willesden Green 11.0, Parch. J. Pritchaid, B.A., B.D., Cesarea. 6.30, Lewisham 11.0, Parch, D. Oliver. 6.30, 5) R. H. Hughes, B.D., Utica. Tottenham 11.0, Mr. T. lluws-Davies, B. Sc. 6.30, Walthamstow 11.0, Parch. G. H. Havard, M.A. 6.30, LI. Edwards, M.A. Wood Green 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, Mr. E. Edwards, B.A. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. E. Owen, B.A. 6.30, D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea— 11.0, Parch. H. Elvet Lewis. 6.30, J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- 11.0a6.30. Woolwich, Parson's Hill— 11.0 a 6.30, Parch. LI. Bowyer. Battersea Rise- i i. o a 6.30. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus i i. o a 6.30. Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham-I 1.0 a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEY AID. City Road- 11.0, Mr. D. Thomas. 6.30, Parch. T. Jones. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. H. Watkin. Poplar, Duff Street- 3.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. E. Evans. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth v fan bellaf,
Advertising
Advertising
Cite
Share
BELL ORGANS I PIANOS. We are the actual manufacturers, and our instruments speak for themselves. Prices from 20 to 1 70 guineas. CATALOGUES FREE UPON APPLICATION THE BELL PIANO & ORGAN CO., Ltd., 49, Holborn Viaduct, London, B.C.
CYMRU A'R ETHOLIAD CYFFREDINOL.
News
Cite
Share
astud a chymeradwyol i Mr. Lloyd George. .rl Mae yn amlwg fod bod yn Gymro yn fantais i ddyn hyd yn nod yn Lloegr y dyddiau hyn. AR yr unfed-awr-ar-ddeg daeth gwrthwynebydd i Mr. Vaughan Davies i'r maes yng Ngher- edigion. Mr. Morgan Richardson, y cyfreithiwr o Aberteifi, yw y gwr. Mae yn dirfeddianwr, ac yn bur adnabyddus yn y rhan ddeheuol o'r sir. Ond ca gryn waith i berswadio mwyafrif o'r Cardis ei fod yn debyg o'u cynrychioli yn well na Mr. Vaughan Davies. FE gofir am y driniaeth enbyd a gafodd Mr. Lloyd George gan gefnogwyr Mr. Chamberlain yn Birmingham. Yr wythnos ddiweddaf cafodd Mr. Chamberlain ei hun driniaeth lied chwerw yn Derby. Ond y cyntaf i ysgrifenu llythyr yn condemnio y cynhyrfwyr oedd Llywydd Bwrdd Masnach. Mae'r Cymro nid yn unig yn ym- laddwr ond yn foneddwr hefyd. Nis gellir dweyd hynny am bawb. PENDERFVNODD Gwyddelod Caerdydd eu bod i roddi eu cefnogaeth i Mr Ivor Guest, yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Gan fod yno ryw 700 o honynt yn meddu pleidleisiau bernir y bydd i hyn effeithio yn fawr ar ganlyniad yr etholiad. GWRTHODODD Sir Fortescue Flannery gyfar- fod dirprwyaeth o Gyngor Eglwysi Rhyddion Caerdydd a ewyllysiai wybod ei farn ar bwnc Addysg a phwnc y Dadgysylltiad. Yr esgus a roddodd y Marchog ydoedd ei fod yn rhy brysur. DIGWYDDODD tro doniol yn Llanelli y Sul diweddaf. Aeth yr ymgeisydd Ceidwadol i gapel Ymneiliduol y bore ac i un arall yn yr hwyr. Yn y capel a anrhydeddwyd a'i bresenoldeb yr hwyr gwneid casgliad drwy y dydd at Drysorfa y Cadymgyrch, a phan aeth y blwch heibio iddo bwriodd yr ymgeisydd anrhydeddus swm da i'r drysorfa. Bygythia rhai o'i gefnogwyr mwyaf selog dynnu eu cefnogaeth oddiwrtho oherwydd ei fod wedi helpu y gwrthryfel." SYNDOD mawr i lawer oedd gweled y Parch. Edwin Jones, Ficer Eglwys Fair, Bangor, yng nghynadledd y Dadgysylltwyr yng Nghaer- narfon y dydd o'r blaen. Ond nid dyma y tro cyntaf i Mr. Jones ddangos ei fod yn barnu drosto ei hun ar bynciau pwysig.