Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Pobl a Phethau yng 'Nghymr…

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymr MAE'R Cynghorydd Pierce, o Feddgelert, wedi rhoddi rhybudd y bydd yn cynnyg yng nghyfarfod nesaf Cyngor Sir Arfon i ostwng n y 11 cyflogau y swyddogion yng ngwyneb iselder masnach. Tebyg mai credu y dylai cyflogau clarcod godi a gostwng yn ol y prinder neu y cyflenwad y mae y Cynghorydd. DYWED y Daily Chronicle mai un o waed Cymreig oedd y diweddar Mr. Yerkes, y miliyn- ydd Americanaidd, a'i fod yn disgyn o'r Crynwyr Cymreig a ymfudasant i Pensylvania yn yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg. Pwy a ymgymer ag ysgrifenu hanes Crynwyr Cymreig America ? Byddai yn sicr o fod yn ddyddorol dros ben. Y PARCH. Hermas Evans, o Gwm Tawe, a ennillcdd y gadair yn Eisteddfod Meirion y Calan. Efe a'i hennillodd yno y llynedd hefyd. Troed ei wyneb i gyfeiriad arall bellach. Bu ystorm enbyd yng nghyfarfod Cyngor Trefol Aberystwyth yr wythnos ddiweddaf. Torodcl y cadeirydd y Cyngor i fynu ddwywaith, ac ni wnaed dim gwaith yn y diwedd. Ond nid unrhyw Gymro, eithr ysbrigyn o Sais didoriad, mab golygydd y Cambriati News, oedd yn gyfrifol am yr helynt flin. Yr oedd ei iaith yn union yr hyn fuasid yn ddisgwyl wrth gofio ymha ysgol y dysgwyd ef. DYWEDODD yr Archddiacon Thomas wrth aelodau Clwb Tir Powys, y dydd o'r blaen, mai ym mynwent Llanerfy], Maldwyn, y mae y beddargraff Cristionogol hynaf y g\vyr neb am dano. BLIN genym hysbysu am farwolaeth y Parch. R. Ambrose Jones, Rhewl, gweinidog y Meth- odistiaid, neu fel yr adnabyddid ef yn fwy cyffredin, "Emrys ap Iwan." Yr oedd ers rhai blynyddoedd yn gwaelu, a bu raid iddo fyned dan driniaeth lawfeddygol galed fwy nag un- waith. Brodor o Abergele ydoedd. Aeth i'r weinidogaeth yn 1883, a bu am rai blynyddoedd Z, yn gofalu am eglwys y Tabernacl, Rhuthyn. Bugeiliai eglwysi Rhydycilgwyn a Llanbedr, Dyffryn Clwyd, hyd ei farwolaeth. Ond fel ys- grifenwr a lienor o dan yr enw Emrys ap Iwan" y daeth ei genedl i wybod am dano. Cyhoeddwyd peth wmbredd o gynyrchion ei -so,rl ysgrifell yn y gwahanol bapurau a'r cyfnodolion Cymreig. Ieithyddiaeth ydoedd prif bwnc ei astudiaeth, ac yr oedd ganddo ei syniadau ei hun am orgraff a chystrawen. Gwae i'r golygydd a newidiai ddim ar y naill na'r llall. Bydd yn chwith iawn heb wr o gymaint o wreiddioldeb. EGLWYS henafol iawn yw eglwys Tregaron, ac mae ei choflyfrau yn myned yn ol yn mhell iawn i'r oesau a fu, a chedwir hwy mewn cyflwr rhagorol hyd heddyw. Yn unol a'i hoffder at hen bethau y mae yn cadw ei chymeriad ynglyn a chyfarfod y Nadolig, oherwydd ar y dydd hwnnw ers dros chwarter canrif y mae'r cor wedi canu'r anthem Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid er mawr foddhad i'r gynull- eidfa sy'n addoli yn y lie. MAE Methodistiaid Llanilar am droi yr achos yn Saesneg. Bydd cael Inglis Cos" mewn rhan mor wledig a Chymreig yn sicr o fod yn hylldra. Y mae'r Cwrdd Misol yn ystyried y mater, meddir. MAE'R Esgob Jayne, Caer, yn anog ei holl bleidwyr i sefyll yn gadarn tros y Ddeddf Addysg. Tipyn o gamp fydd cael yr etholwr cyffredin i syrthio mor isel a Thy'r Arglwyddi, a chefnogi y Ddeddf hon. ADWAENIR y Parch. J. Puleston Jones fel y pregethwr dall yn Ngogledd Cymru, ond gallodd I gerdded o Bettws-y coed adref i Dinorwig— pellder o 16 milldir heb un cyfarwyddyd trannoeth i'r Nadolig diweddaf. MAE'R ddarlith ar uJapan a draddodwyd gan Mr. D. Davies,, Llandinam, yn Jewin beth amser yn ol yn dra phoblogaidd, a'r wythnos ddiweddaf bu yn yr. Amwythig yn ei rhoddi o flaen cynulliad mawr er budd un o achosion crefyddol y dref. AETH y si ar led ddechreu yr wythnos fod Evan Roberts, y Diwygiwr, wedi etifeddu blwydd-dal o £260 ar ol y diweddar Mr. Richard Davies, ond dywedir yn awr nad yw'r. newydd yn wir. Mae'n debyg mai mewn dull arall y cofiodd yr hen batriarch am y Diwygiwr. Ceir gweled pan y profir yr ewyllys.

CLEBER O'R CLWB.

CYMRU A'R ETHOLIAD CYFFREDINOL.