Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
WELSH NAVAL RESERVE.
News
Cite
Share
WELSH NAVAL RESERVE. In accordance with arrangements made a few days ago, the President of the Board of Trade (Mr Lloyd-George) and other Welsh members present at Carnarvon, received on Tuesday, a deputation representing various public bodies in support of a protest against the proposal of the Admiralty to abolish the Naval Reserve stations in Wales. Mr. Lloyd-George said that the question should be treated as a Welsh case. It was in his opinion, monstrous that the Government should think of removing from Wales the largest of its batteries, to which were attached 800 men, while permitting batteries to remain in other parts of the country. Sir Alfred Thomas expressed his deepest sympathy with the deputation. He anticipated no difficulty in having the whole of the Welsh members to wait upon the Admiralty. It was announced by the town-clerk that the Admiralty had intimated their willingness to receive a deputation after the general election. In the meantime it was resolved to prepare a full statement of the case.
APPELIAD
News
Cite
Share
APPELIAD Cynghor Eglwysi Rhyddion Cymraeg Llundain. Dymuna yr Undeb uchod grefu ar bob Cymro a Chymraes drwy Lundain benbaladr i wneyd pob peth yn eu gallu i sicrhau dychweliad yr ymgeiswyr Rhyddfrydol i'r Senedd gyda mwy- afrif mawr. Nid yw yn ddichonadwy i neb yn ei iawn bwyll, oddigerth y rhai ydynt am roi Prydain i fyny i lywodraeth y Pabyddion a'r offeiriaid, i allu goddef y fath gamwri a Deddf Addysg y Llywodraeth Doriaidd ddiweddaf i gael aros ar ddeddf-lyfrau ein gwlad. A ydym fel cenedl yn barod i ddweyd na chaiff neb ond Aelodau yn Eglwys Loegr fod yn athrawon yn ein hysgolion dyddiol ? A ydym yn barod i oddef i athrawon ein plant i ddysgu iddynt fod y bara yn y Cymun Sanctaidd yn cael ei droi yn wir gnawd Crist, a'r gwin yn wir waed Crist ? A ydym yn barod i'n plant i gael eu dysgu fod bedydd yn ail-enedigaeth, a bod myned i addoldai Ymneillduol yn bechod ? A safwn ni yn llonydd i edrych yn dawel ar ein gwlad yn cael ei rhoi i fyny i awdurdod haiarn- aidd y Babaeth ? Bygythia Tywyllwch Dudew y Canol Oesoedd ddod eto dros ein tir! Y mae canoedd o fynachod Ffrainc yn by v mewn mynachlogydd drwy Gymru a Lloegr heddyw, aeth eu hymyriad a llywodraeth ac addysg Ffrainc yn annioddefol i'r wladwriaeth yno fel y bu raid i'r Ffrancod i'w hymlid o'u gororau. Cartrefant yn awr ym Mhrydain, ac y maent eisoes yn dechreu lefeinio meddyliau ein plant ym mhentrefi tawel Cymru a Lloegr. Ni bu gan ein gwlad gryfach Cyfringynghor nag sydd ganddi heddyw dan lywodraeth ein Prif Weinidog, Syr Henry Campbell-Bannerman, eto nis gallant wneyd dim yn ein Senedd oddigerth iddynt gael mwy- afrif mawr tucefn iddynt i gario gwelliantau yn Neddf Addysg ar waethaf y Gwyddelod a'r Uchel Eglwyswyr, y rhai nid ydynt fymryn gwell na'r Pabyddion penboethaf-bleiddiaid yng nghrwyn defaid ydynt. Dyma gyflewedi ei estyn gan Dduw i werin Cymru, Lloegr, a'r Alban, a Phrotestaniaid yr Iwerddon, i daro ergyd marwol ar ormes haiarnaidd a llygredig y Babaeth sydd wedi bod trwy yr oesau yn llygru y cenhedloedd, ac wedi rhwystro rhyddid a rhinwedd i flodeuo a theyrn- asu yn y tir. Daw Llais o Waelodion Beddau Richard Cobden, John Bright, a'n teidiau yn dweyd wrthym, "Safwch yn gedyrn fel y bryniau oesol dros Fasnach Rydd." Dywed malurion esgyrn Stephen Hughes, Meidrym; Samuel Jones, Brynllywarch; Vavassor Powell; Jones, Llangan; Griffith Jones, Llanddowror; Daniel Rowlands, Llangeitho; Howell Harries, Tref- ecca; William Williams, Pantycelyn Ficer Pritchard a'r holl Ddiwygwyr yn yr oesau gynt am i ni sefyll yn ddewrion dros ryddid ein gwlad. Daw adsain cleciadau fflamiau tanau Smithfield, Caerfyrddin, &c., losgasant ardd- erchog lu y merthyri gynt, gan ddweyd wrth- ym, Os na wnewch eich dyledswydd yn awr arweinir eich plant a'ch olafiaid eto i danau merthyrdod gan y Babaeth a'i gormes." Mae Cymru sydd wedi ymladd mor ddewr yn erbyn Anghyfiawnder Deddf Addysg drwy y misoedd aethant heibio yn gwaeddi ar ei meibion a'i merched yn Llundain am ddod allan i'w chynorthwyo yn nydd cyfyngder dan ormes y Babaeth. Geilw y chwyldroad yn Rwssia arnom yn uchel i wneyd ein dyledswydd yn yr etholiad agoshaol rhag i ninnau eto orfod myned drwy gyffelyb ystormydd ag y gelwir ar y wlad honno fyned drwyddynt yn y misoedd hyn. Cofied pob Cymro a Chymraes wneyd pob peth yn eu gallu i sicrhau dychweliad ymgeiswyr Rhyddfrydol, os gellir rywfodd, ym mhob ethol- aeth yn Llundain. Arnom ni yn Llundain y mae y peth; rhaid i ni ennill seddau i'r Rhydd- frydwyr, onite ni ellir cael mwyafrif Rhyddfrydol yn yr etholiad agoshaol. Wel, codwn atti, Gymry anwyl; byddwn deilwng o'n tadau. Pob un na wna ei oreu i ddychwelyd Rhydd- frydwr i'r Senedd dros bob etholaeth y mae yn byw ynddi sydd Anffyddlon i'w Genedl. Mae Addysg, Masnach Rydd, a Rhyddid ein gwlad mewn argyfwng peryglus heddyw, ac y mae pob Cymro a bleidleisia dros Dory yn anffyddlon i'w genedl, i ryddid, a rhinwedd. Ni bu argyfwng tebyg i hwn yn ystod oes neb sydd heddyw yn fwy y mae Canoedd o Doriaid cydwybodol yn crefu arnom fel Cymry yn Llundain bob un i bleidleisio a gweithio i sicrhau dychweliad Rhyddfrydwyr i'r Senedd dros bob etholaeth yn Llundain. Deffrown o'n cysgadrwydd chwifia baner rhyddid yn yr awelon, ymrestrwn o tani i'r gad. Dilynwn ein harweinwyr i ryddid neu i fedd. D. C. JONES, Ysgrifenydd.
LLENYDDIAETH YR ETHOLIAD.
News
Cite
Share
LLENYDDIAETH YR ETHOLIAD. Adeg brysur ar yr argraffwasg yw'r etholiad. Mae swyddfeydd Cymru ar eu heithafy dyddiau hyn yn troi allan anerchiadau, adroddiadau, a chaneuon wrth y miloedd. Yn y rhanbarthau hollol Seisnig gwna'r awdurdodau ymfoddloni ar gynyrchion y swyddfeydd partiol yn Llundain, a chludir pamphledau o'r brifddinas wrth y dunell i'r lleoedd mwyaf poblog. Ond yn y rhanbarthau Cymreig rhaid cael cynyrchion lleol, ac mae'r galw yn fwy am waith yr awen nac am ffigyrau sychion y dadleuwyr Diffyn- dollol. Mae ynddynt yn ami darawiadau doniol dros ben, a byddai casgliad cyflawn o'n llen- yddiaeth yn hyn o faes yn beth gwerth ei astudio gan ein haneswyr o bryd i'w gilydd. Mae llawer o gynyrchion yr etholiadau di- weddar ar gael yn Llyfrgell Rad Caerdydd, ac mae Aberystwyth hefyd wedi gofalu am lawer o'r hyn a drowyd allan o'r wasg yn ystod yr hanner olaf o'r ganrif o'r blaen, ond hyd yn hyn lied anghyflawn yw'r un o'r casgliadau. Byddai yn werth i bob swyddog etholiadol ofalu fod copi o'r holl weithiau a anfonir allan gan- ddynt yn cael eu hanfon i'n prif lyfrgelloedd, oherwydd ar ol i swn a berw yr etholiad fyned heibio fe anghofir pobpeth am y llenyddiaeth a ddefnyddiwyd. Ar hyn o bryd rhaid gyru ein newyddiaduron i'r Amgueddfa Brydeinig, ac mae'n debyg y bydd orfod i Gymry anfon eu copiau o hyn allan i Lyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, a da y gwnelai yr awdurdodau i restru cynyrchion etholiadol yn yr un dosbarth fel ag i gadw ar gof y digrifwch a'r donioldeb a glywir ar adeg y gornestau etholiadol hyn.
[No title]
News
Cite
Share
PAN ofyiitvydi un o aelodau clwb pel droed mewn ardal wledig yng Ngheredigion pa un ai clwb y plwyf hwnnw neu glwb plwyf cymydog- aethol oedd wedi cario'r dydd, dyma'rateb—" Y nhw gariodd a'r chware, ond y ni gariodd a'r ymladd."
Advertising
Advertising
Cite
Share
E. He JONES, 179, Aldersgate St., E.C., and 41, Stroud Green Road, N. For a good Winter Overcoat give me a call before ordering elsewhere, from as/- Cheviots. Lounge Suits from 42/- Guaranteed for hard wear. Well recommended, and your custom respectfully solicited. Ladies* Costumes from 25* guineas.
Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y…
News
Cite
Share
syniadau dideimlad y wlad am ei hunig blentyn -bron a chael ei gorfodi weithiau i gredu yr un peth a hwy dyna hanes Dinah am yr wyth mlynedd dilynol. Beth oedd hanes Sop hi ? Yn y cyfamser, daeth etifedd 'stad Rhianlliw i'w oed, a mawr oedd y miri mewn canlyniad. 'Beitu dri diwrnod wedi iddo gymeryd meddiant o'r palas, talodd ymweliad a Tanllofft, er syndod i Dinah, a syndod mwy i Benni. A dyma ddiwrnod mawr yn gwawrio yn hanes fy hen ffrynd. Cafodd inclwm o Sophi gan y bon- eddwr ieuanc, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o Lunden; ac yn ei gwmpeini, a than ei gyfar- wyddyd, cafodd Dinah ei hunan cyn pen wythnos yn y ddinas fawr. Ni freuddwydiasai erioed am y fath beth. Gwyddai y gwaethaf am ei merch bellach. Yr oedd wedi troi allan yn ferch afradlon, ac yn byw-y fath fyw ag ydoedd -yn un o'r llecynau iselaf yn y ddinas. Wedi deall pwy a pheth ydoedd, yr oedd sawl cynyg wedi cael ei wneud i'w hadfer cyn hyn, ond yn ofer. Llwyddai i ddianc rhag ei chymwynaswyr bob tro. Barnwyd taw cael ei mam ati fyddai'r ftordd oreu, a dyna sut y trefnwyd i Dinah dd'od i Lunden. Wedi iddi dd'od i wybod sut yr oedd pethau yn sefyll, aeth hi, a'r boneddwr o'r Rhianlliw, ac un neu ddau eraill a elwid yn dditectiffs, i ysbio am y colledig. Yn ffodus, daethant o hyd i un a'i hadwaenai yn dda-hen bartneres iddi y'ngwasanaeth pechod, os oes rhaid imi ddweyd y cwbl. Dinah gafodd law ami i fyn'd a hi at ei merch rhegi'r lleill wnai yn ddidrugaredd. Erbyn cael gafael ar Sophi, druan, gorweddai ar sypyn o garpiau mewn ystafell druenus, ac y'nghanol twymyn beryglus. Yr oedd wedi colli ei hymwybyddiaeth yn hollol, a phan oeddynt wrth droed y grisiau oedd yn arwain i fyny i'w gwal afiach, clywent hi yn canu'n floesg hen benill Cymreig ar un o diwniau'r diafol Mae Iesu Grist o fochor I, Fe gollodd Ef ei waed yn lli; Trwy rinwedd hwn fe'm dwg yn iach I'r ochor draw 'mhen gronyn bach." Clywais Sophi yn canu'r penill scoroedd o weithiau yn y Llofft Fach a llais clir a son- iarus, ond yr oedd bywyd pechadurus wedi ei grygu a'i gracio erbyn hyn. Bob yn dipyn, symudwyd hi i dy gwell, ac arosodd ei mam i dendio arni. Pan ddaeth yn gryfach symudwyd hi i Gymru o gam i gam, ac ni fu yn hir iawn cyn cael ei hun yn Tanllofft. Ond yr oedd angeu a hithau yn adnabod eu gilydd er ys talm. Mynodd gael ei derbyn at grefydd yn y Llofft Fach, a gwn fod hyny yn un rheswm mawr sut mae cymaint o olwg gan Dinah arnaf fi. Un o'r pethau olaf a dd'wedodd cyn marw oedd—"On'd yw e'n rhyfedd i feddwl, mam, fod y ddafad ddu yn ca'l my/id i'r nefoedd gynta' A dyna ramant bywyd Dinah Tanllofft. (I'w barhau.)