Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT FACH;:

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. lOan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD VI. Y Llofft Fach" yn son am Gwrdd Eglwysig Nodedig. Yr oedd Marged Morgan wedi bod yn can- fasio'r diaconiaid bob un wythnos yn flaen llaw ac achwynasai ei chwyn wrthynt mor effeithiol nes enill, fel y tybiai hi, eu cydymdeimlad, a chafodd ganddynt i ddwyn yr achos ger bron yn y cwrdd eglwys oedd bellach wrth y drws. Daeth y pethau hyn oil i'r wyneb, deallwch, wedi i ogr yr amgylchiadau gael ei siglo ddigon o hyd. Ond nid eu cydymdeimlad enillodd Marged., eithr eu cydweithrediad. Y gwir am dani, 'doedd dim cymaint ag a ddaliech ar eich ewin ganddynt o gydymdeimlad i'w spario i Marged yn fwy nag i Dinah; ac os oedd y stwff hwnw yn d'od i fewn yn rhywle yn y fusnes, yn eu perthynas a hwy eu hunain y deuai i fewn. Cydymdeimlent yn fawr a'u hunain yn wyneb yr ysgarmes anocheladwy a wthid arnynt gan Dinah, oblegid yr oedd ei hofn arnynt yn eu calon. Or ochr arall, yr oeddynt yn falch o'r cyfle i gael rhyw grap ami, am fod eu natur (neu eu hurddas) yn protestio yn erbyn ymostwng yn hwy i'w llywodraeth unbenaethol a thranaus. Parod oeddynt i groesawu gwaredigaeth o unrhyw gyfeiriad. Felly, pan agorwyd y drws o ymwared iddynt gan wraig Tynos, winciasant ar eu gilydd yn y Llofft Fach prydnawn Sul rhwng yr Ysgol a'r cwrdd chwech, a thrwy help rhyw gyfrin-arwyddion cyffelyb, cyfarfuant a'u gilydd y'mhen noswaith neu ddwy yn nhy Bili Dafydd i siarad y mater, ac i dd'od i gyd- ddealltwriaeth ar y gwahanol bwyntiau a gyfodent i fyny. Yr oeddynt yn unfryd unfarn ar haeddiant a thynged Dinah, a braidd na chredai dau neu dri fod rhywbeth a fynai Rhag- luniaeth a Marged, i beri ei gwneud yn offeryn i ddwyn teyrnasiad y frenhines orthrymus hon i ben. 'Mae'n wir nad oedd Marged, druan, yn un y buasech yn debyg o'i chyfri' y'mysg cyf- ryngau Rhagluniaeth, pe buasech yn ei had- nabod ond dyna, mae Rhagluniaeth mor àd, a dynion mor hunanol, fel mai goreu pa leiaf y siaradwch rhyw dafod dyeithr fel yna. Gwaith rhwydd gan ambell un adwaenom ydyw gwneud "gwas bach" o Ragluniaeth, heb gofio taw rhwydded gwaith i'r Brenin Mawr ydyw gwneud Rhagluniaeth o was bach, gan anwybyddu'r feistr a'r feistres, y forwyn fwya' a'r gwas mwya', mor llwyr a phe na baent i'w cael. Tiriogaeth heb ei darganfod yw hona, ac y mae yn gofyn blwyddi lawer o ymchwiliadaeth pellach i fewn iddi, cyn medru ffurfio barn ar ei hansawdd a'i chynyrch. Ond er credu yn ymyriad Rhagluniaeth a'r cwestiwn, yr oedd y diaconiaid fel pe byddent y'ngafael y cryd amwyth pan ddaeth y cwrdd eglwys; a synai'r frawdoliaeth pa anhwyldeb oedd wedi cymeryd meddiant o'r brodyr a aent drwy'r gwasanaeth arweiniol-oblegid nid oedd neb y'nghyfrinach y diaconiaid, gyda'r eithriad o ryw un neu ddau. Nid wyf yn cofio'n iawn sawl cynyg wnaeth Off Tydu ar yr Hen Ganfed cyn ei meistroli; yn wir, nid awn ar fy llw i ddweyd pa un ai efe oedd y meistr ai hi oedd y feistres yn y diwedd. Ond yr wyf yn siwr na chanwyd yr Hen Ganfed yn fwy dilun erioed yn y Llofft Fach. 0 ran dim sens a gaech yn y darlleniad, gallasai'r benod ddewisodd Rhys y Nyddwr (mab i'w hen ffrynd Tomos y Gwe'ydd) fod yn benod o'r Apocrypha, neu ddarn o'r Coran. 'Doedd Rhys ddim yn ddarllenwr cwic ar y goreu, ond yr oedd gweled ffram anhyblyg Dinah yn eistedd ar y ffwrwm o'i flaen, yn ychwanegol at yr ymwybyddiaeth a feddai o'r drafodaeth oedd i fod yno cyn diwedd y cwrdd, yn ei orchfygu'n' deg, ac yn peri fod ei galon y'nghorn ei wddf, yn codi treth. fel Matthew wrth y dollfa, ar bob gair a elai allan. Nid yn ami y gwelid Marged rnewn un cwrdd o'r wythnos, ac imi fod yn gysact. Ond yr oedd yn bresenol heno, ac yn edrych mor dwt a neb yny He-yn debyg iawn fel pe buasai yn ym- geisydd am gongl y'mysg ardderchog lu'r merthyri." Ac fel y dywedais, yr oedd Dinah yno hefyd, a'i hagwedd yn peri i chwi feddwl na thoddai'r 'menyn ar ei thafod. Os ydych yn cofio, mi soniais yn niwedd y benod o'r blaen taw yn y cwrdd eglwys y cafodd gwraig y ty capel yr awgrym cyntaf o'r fradwriaeth oedd i'w herbyn. Ac felly 'r oedd nid wyf am dynu fy ngeiriau yn ol. Ni wyddai mwy na'r baban newydd-eni fod ei hachos i gael ei ddwyn ger bron y cyfarfod hwnw, yn ol arfaeth benarglwyddiaethol Bili Dafydd a'i gwmni. Digon gwir iddi godi ei thrwyn pan ddaeth Marged Tynos i fewn ond, ac eithrio hyny, ni chymerodd arni ei gweled nes y gorfodwyd hi gan amgylchiadau dilynol i gydnabod ei phresenoldeb. Wedi i Rhys orphen ei barabl trwsgl, a chodi oddiar ei liniau, cafwyd enyd o ddystawrwydd. Yna cododd Tobias Tomos ar ei draed i agor y gweithrediadau. Efe oedd yr hynaf o'r diacon- iaid, ac o ganlyniad efe fyddai y bwch diangol gan amlaf, cyn i weinidog dd'od yma i gymeryd ei Ie. Mr. Aaron yw'r mwyaf cyfarwydd a'r anialwch bellach er ys rhai blynyddau. Hen wr tal, teneu, oedd Tobias Tomos, yn ddiffygiol mewn asgwrn cefn, ond a phenglog fel fflinten, uc mor dyn ar ei opiniwn ag y bu Pio Nono y diwrnod anffaeledica' aeth dros ei ben. Nid gwaith hawdd oedd ei yru oddiar yr echel, a dim ond deubeth oedd debycaf o wneud- clywed fod merched yn pregethu, ac i rywun ei alw yn Tobi yn lie Tobias. Yr oedd mor sicr o fyn'd yn ddrylliau yn erbyn y traethelli yna a'i fod o'n fyw. Gwyddai pob un am fanau gweinion Tobias, ac yn eu mysg Dinah. Oblegid yr wyf wedi sylwi y gwyr dynion am wendidau eu gilydd yn well nag y gwyddant am eu gwendidau eu hunain. Ar ol ymdroi a chwmpasu, fel ci yn dilyn ei gynffon, a chael ei fod ar gefn yr un gwirionedd o hyd, a hwnw heb fod o'r rhywogaeth pwysicaf o wir- ioneddau, sef taw cwrdd eglwys oedd y cwrdd hwnw i fod," a taw pethe amgylchiadol oedd i fod dan sylw "—disgynodd ar ei bry' mor sydyn nes peri i mi feddwl am Dinah yn troi ambell i grampwythen yn y badell, a'r un fath yn union a phe byddai holl gyfanswm ffeithiau y funud hono wedi eu tynu i lawr i ddwy, a dim ond dwy-byw neu foddi ac ebai: .1 Mae'n ddrwg genoni nad ydi pethe ddim yn ishte'n gysurus rhwng Dinah Tanllofft a Marged Tynos, a thrwy nad ydi hyny ddim yn gweddu i grefyddwrs, a bod y ddwy chwaer yn bresenol, hwyrach y gallwn ni ga'l pethe'n reit cyn awn ni odd'ma." Edrychodd Tobias ar y ddwy fenyw, ac yna o amgylch-ogylch ar ei gyd-ddiacomaid, fel pe disgwyliai i rywun gymeryd y bellen o'i law, a'i dirwyn y'mlaen i'r pen. Ond 'doedd y bechgyn ddim yn drachwantus yn y byd, a boddlonent i'r hen flaenor gael ei wala a'i weddill o'r holl helynt; ac nid ymddangosai fod brys mawr ar y menywod chwaith i agor eu penau. Fodd bynag, yr oedd Dinah yn ddigon craffus a chyflym ei dealt i wel'd drwy'r drafodaeth i gyd, a gwnaeth ei meddwl i fyny mor deidi a phe buasai wedi derbyn mis o rybudd. Aeth Tobias yn ei flaen Mae Marged yn gweyd dy fod ti wedi 'galw hi'n lladrones, Dinah. Ac os wyt ti'n cyfadde, ac yn cw'mpo dan dy fai, dyna ben ar y cwbwl." Ti oedd yr hen genaw yn galw pob un. Shwd y'ch ch'i mor barod i gredu mod i wedi 'galw hi'n Iladrones ? A phwy wedus wrthi hi mod i wedi 'galw hi'n Iladrones ?" gofynai Dinah. Barnai rhai nad chwaethus ynddi oedd ail- adrodd y gair lladrones," a phwysleisio drymed arno. Barnwn inau, oddiar fy adnabyddiaeth o honi, taw cael relish anghomon yr oedd yr hen wraig wrth ei seinio, fel y gwelais blentyn yn sipian ei wefusau ar ol bwyta melusion. "Pwy wedus wrthot ti, Marged V' tros- glwyddai Tobias y cwestiwn. Mi wedes i wrthoch ch'i fel diaconied pwy wedus wrtho i," ebe'r gyhuddwraig. Well gen i beidio gweyd lie clyw pawb, rhag gyru pobl y'mhene'u gilydd." Deuai murmur o gymeradwyaeth o gyfeiriad y gelynion. Darllenwn inau ar wyneb Dinah mewn llythyrenau breision-" Oho y llaw flewog, shwd y gollyngest ti'r gath o'r cwd ? Ch'i fuoch yn cownsela, ai do ? Ond ni ddarllenai neb arall hyny. 'Rwyt ti'n eitha' reit-do siwr, ti wedest; ond 'dydi hyny nac yma nac acw i ti, Dinah. Y pwnc ydi-A ddaru i ti alw Marged Morgan yn lladrones, ai naddo?" Yr oedd Tobias yn dechreu magu ysbryd erbyn hyn. Do," ebe Dinah, fel taro hoel ar ei chlopa. Edrychai'r frawdoliaeth yn syn wrth glywed Dinah yn gosod ei throed yn y fagl a'i llygaid yn agor—winciai Bili Dafydd a'i gwmni ar eu gilydd wrth gefn Tobias, gan gnoi eu cil ar y gred eu bod wedi plygu'r hen andras o'r di- wedd-ymledai gwen fuddugoliaethus dros wyneb Marged-ac wedi ei gario gan gyn- hyrfiad y foment i dir anghyfreithlawn, ebe'r hen frawd Gad glwed, a ddygws hi r'wbeth odd'arnat ti?" Do-hi ddygws bytato, a chabetsh, a phanas, a charetsh, a 'dwn i beth i gyd," oedd atebiad Dinah, heb y codiad lleiaf yn ei llais. Wel dyma hi. Mae gwep Bili Dafydd and Co. yn dechreu llaesu—mae'r frawdoliaeth yn edrych y naill i wyneb y Hall, a chyfnewidiant syniadau trwy gyfrwng y llygaid-mae Marged yn anesmwytho—ac y mae Tobias yn dechreu tynu ei gyrn ato. Oblegid (ymresyment) pytae'r gwr drwg ynddi, ni fuasai byth yn mentro dweyd y fath beth oni bae fod tir ganddi dan ei thraed. Yr oedd y gwres-fesurydd wedi neidio'n uchel anghyffredin. Ymddangosai y gyhudd- edig mor hunan-feddianol a phe byddai yn gweu yr hosan las ar ei haelwyd ei hun ond pwy a'i hadwaen yn well na mi ? Mi wyddwn I o'r goreu fod yna groni wedi bod er ys meityn oddifewn, ac y byrstiai yr argae yn fuan, nes y byddai yr ymarllwysiad diarbed yn dwyn anadl pawb oddiarnynt. Y gofyniad nesaf oedd Welest ti Marked yn dwyn rhai o'r pethe yna a dy ddau lygad dy hun ? Meindia dy fod ar y gwir." Buasai yn well i Tobias gadw'r atodiad diweddaf dan glo, gan y dywedid nad oedd ef ei hun yn arfer teithio llwybr y gwir mor fynych ag y buasai yn ddymunol. Gosododd Dinah y tamed yna i lawr ar ei gyfer yn ei memorandum, bid a fyno. "Naddo," ebai; ond mi wedws un wrtho I a'i gwelws hi ragor na siwrne, a mi greda' gel- wydd hono o flaen gwir Peggi Tynos Wel, gad i ni ga'l 'i henw hi, i'w galw hi 'mlaen yn dyst." Ond nid mis bach y ganwyd Dinah. Mi'ch gwela' ch'i yn Jerico 'nghynta' ebe hi. G'newch ch'i i Marged 'weyd pwy wedws wrthi hi mod i wedi' galw hi'n lladrones, a mi 'weda'. ine pwy gwelws hi'n dwyn 'y 'nhato i." A chyda'r gair, mi fyrstiodd yr argae. Cyn i Tobias, na Marged, na neb, gael eu traed oddi- tanynt ar ol yr her a daflasai, dyma hi ar ei thraed, ac yn dechreu llefaru a'i thafod mewn cywair mor uchel a gwichlyd nes gwneud i bawb gredu ei fod yn beth cwbl anmhosibl iddi fyn'd yn uwch. Ond cawsant eu hargyhoeddi'n fuan. Ydach ch'i'n meddwl nad. w' i'n gwel'd