Hide Articles List

2 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. GAN fod y fasnach lechi yn burwanarhyn o bryd, y mae llawer o galedi yn ardaloedd Gogledd Cymru. Myn yr ymgeiswyr Ceid- wadol mai bai'r Rhyddfrydwyr yw'r cyfan. MAE Mr. Gibson, y Cambrian News, yn cael llawer o foddhad wrth geisio gwawdio'r Cymmro- dorion. Diau pe bae'r Gymdeithas honno wedi gwneyd tipyn o sylw o'r gwr pan fu ar achlysuron yn ceisio darlithio yn Llundain y buasent yn bobl tra gwahanol yn ei olwg. CAED eisteddfod lwyddianus yn Middles- brough ddydd Llun diweddaf, ac yn ol pob hanes yr oedd yr hen sefydliad yn creu cryn ddyddordeb yn ardaloedd gweithfeydd Durham a Cleveland. Mae catrawd gref o Gymry yn y cylch, ac mae'r wyl flynyddol hon yn cael llawer o sylw ganddynt. Y beirniad cerddorol oedd Mr. Harry Evans, Dowlais, a chanmolai y lleiswyr yn fawr. Caed dwy odfa, un y pryd- nawn a'r llall yn yr hwyr, a llanwyd y neuadd bobtro. MAE'R Cymro (Lerpwl), Y Gwyliedydd, a'r misolyn Ysbryd yr Oes wedi syrthio i ddwylaw yr un perchenogion yn awr. Golygir hwy gan weinidog perthynol i'r Wesleyaid. DYDD Calan yw dydd gwyl yr Albanwr, ac b yn Glasgow ddydd Llun diweddaf yr oedd yr holl weithdai yn nghau. Yn ychwanegol at hyn yr oedd y tafarndai wedi eu cau hefyd oherwydd rhydd y Llywodraeth y gallu hwn i wyr y Gogleddbarth. Pwy na waedda am Ymreol- aeth ar ol hyn. AR ol byr gystudd bu farw Mr. Thomas b Jones, Cwrtnewydd, godreu Ceredigion, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn arwerthwr enwog ac yn fawr ei barch yn y sir. YN mysg y rhai sydd i siarad yr wythnos hon ar ran Mr. Idris yn etholaeth Flint, gwelwn enw'r Parch. H. Elvet Lewis o'r Tabernacl. Bydd geiriau tyner Elfed yn beth anhynod mewn berw a gwylltineb etholiad. Bu farw Mr. David Grey, Maesteg, yr wyth- nos hon. Yr oedd yn wr blaenllaw yn masnach haiarn y Deheubarth ac yn ddyfeisydd amryw beiriannau er puro'r meteloedd yn y ffwrneisi. Brodor o Lansamlet ydoedd, lie ei ganed rhyw 72 mlynedd yn oh

----Welsh Policy.