Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CLEBER O'R CLWB.

Advertising

MUSIC IN SOUTH WALES.

PREGET.HWYR Y SABBOTH i..…

Y DYFODOL

Advertising

CLEBER O'R CLWB.

News
Cite
Share

weinwyr enwadol fod yn dra sigledig eu daliadau ar adeg y rhyfel diweddar yn ogystal ag ar bwnc addysg yng Nghymru. Er hynny i gyd nid oeddem yn barod i'w halltudio o'r rhengoedd Ymneillduol gan y gwyddid eu bod yn iach yn y ffydd, ar y cyfan; ac nid yw yr yswain o Lan- dinam erioed wedi datgan unrhyw ddaliadau gwleidyddol rhagor na chredu fod cynllun Chamberlain yn un a haedda ein hystyriaeth dwysaf fel gwlad, ac fod ei sylwadau ef pan ar deithiau draws y byd wedi ei argyhoeddi fod llwyddiant y gwledydd tramor i'w priodoli i Ddiffyndollaeth. Y FARN gyffredin oedd fod gan y Gogledd ragorach catrawd o wladgarwyr Cymreig o lawer na'r Deheubarth. Nid am mai o'r Gogledd y daw y Gwir Anrhydeddus Lloyd George ond am hoffder y Sowthman o Saeson rhonc, heb son am ddewisiad Merthyr o benboethyn o Albanwr digredo. Mae'r Toriaid yn bwriadu ymladd mwyafrif o'r seddau, ond ni cheir un gwr gwerth ei alw yn ymladdwr cadarn ond ym Mwrdeisdrefi Fflint. Yno disgwylir gornest gyndyn rhwng Mr. Idris a Mr. Bankes, ac ar wahan i'n dymuniadau gwleidyddol yr oeddem fel cwmni yn hyderu y cariai'r Cymro y dydd, oherwydd gwr haeddianol o le yn y Senedd yw Mr. Idris, a chenedlaetholwr dan gamp ar bob amgylchiad. OND mae gwleidyddiaeth wedi dadblygu- neu, yn hytrach, wedi dirywio yn rhywbeth gwael iawn yn y blynyddoedd hyn. Nid ydym yn credu y gallesid cael engraifft o'r hyn a welir yn Nghaernarfon mewn un wlad tuallan i gyffiniau tiriogaethau paganaidd Affrica, neu Hottentotiaid y lleoedd tywyll. Cymerer y ffeithiau ac ystyrier hwynt yn ddifrifol. Dyma ddyn ieuanc wedi llwyddo i esgyn o'r iselder- o fod yn gyfreithiwr mewn ardal wledig-i fod yn Brif Lywydd yng Nghyfrin Gynghor y Deyrnas, ac eto mae ei gydwladwyr mor aniolchgar ac mor anheyrngar a rhoddi pob rhwystr ar ei ffordd i fwynhau yr anrhydedd a osodwyd arno. Ond nid arno ef y mae'r anrhydedd o ran hynny. Mae gosodiad Mr. Lloyd-George yn y fath safle yn ddyrchafiad i Gymru gyfan, a bydd ei wrthwynebwyr yn awr ymhen oesau a ddel yn cael eu rhestru yn nosbarth y teyrnfradwyr hynny a osodasant Llewelyn i ddwylaw ei elynion ganrifoedd lawer yn ol. Os mai i hyn y mae politics wedi syrthio yng Nghymru goreu po gyntaf y cwyd ein harweinwyr eu Ilef am burdeb ac uniondeb yn ein mysg, oherwydd diffyg cymeriad moesol yn unig a allasai fagu y fath syniad a gwrthwynebiad maleisus.