Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
CLEBER O'R CLWB.
News
Cite
Share
CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] PETH hawdd yw sefydlu clwb, ond peth arall yw cael gan y bobl ei ddefnyddio. 0 dipyn i beth mae'r Clwb Cymraeg yn dod dros yr anhawsderau a'r cynulliadau yn lliosogi y naill wythnos ar ol y Hall. Myned ar gynydd mae'r aelodau, ac fe geir cynrychiolaeth galonogol o wythnos i wythnos o wyr y wlad i wneyd eu trigfan yma pan ar ymweliad a'r ddinas. Yn ystod y misoedd diweddaf yma yr wyf wedi cyfarfod a llu o'n pobl bwysicaf, ac wedi cael y mwynhad o glywed eu barn o bryd i bryd ar faterion o bwys i ni yng Nghymru, a chredaf mai buddiol fyddai ambell i lith yn awr ac yn y man i roi i'ch darllenwyr grynhodeb o'r hyn a glywir yma ar awr hamdden. YR etholiad, wrth gwrs, yw'r siarad rhwng pob dau ar hyn o bryd, er mai clwb anenwadol ac amhartiol yw. Waeth hynny na rhagor fe ddaw enwadaeth i'r cwmni a pholitics i'r cylch bron yn ddiarwybod i'r siaradwyr, a hawdd fydd can- fod ar unwaith i ba enwad y perthyn awdwr rhyw syniad, ac i ba blaid boliticaidd fydd y dadleuwr arall yn perthyn, heb i'r naill na'r llall ddatguddio eu henwau na'u cysylltiadau Cymreig. Nos Calan yr oeddem yn gwmni difyr o gylch tan cysurus, a chan fod yr hin yn oer aed i drin y rhagolygon etholiadol er mwyn codi tipyn o hwyl i rai digartref fel yr oeddem. DAFIS Llandinam oedd yn poeni un o wyr y Gogledd, ac er ei fod yn Fethodist rhonc prin yr edrychai ar yr yswain fel yn Rhyddfrydwr teil- wng i'n cynrychioli yn y Senedd. Cefnogid ef yn ei gondemniad gan Eglwyswr o sir Gaer- fyrddin, twrne cywrain, a gwr a ymhyfrydai i guro'n ddidrugaredd ar bolisi Lloyd-George. Ar un adeg, meddai, yr oedd ei blaid ef--y Toriaid -yn edrych yn hyderus ar Mr. Davies am ei gefnogaeth, ond yr oedd wedi eu bradychu yn waeth na Winston. Yn wir, ni chelai ei lawen- ydd wrth ddatgan mai nid rhyw gaffaeliad mawr i ni ydoedd wedi'r cwbl, oherwydd o dipyn i beth fe dry'n gystal Ceidwadwr ag a drodd ei daid pan fu Ceredigion mor angharedig a'i droi allan mewn dull gwarthus yn yr etholiad ar Horn Riwl. OND y mae pawb sydd yn adnabod yr yswain ieuanc, yn bersonol, yn credu y gwna gynrych- iolydd teilwng o Ryddfrydiaeth Gymreig, ac y ceidw yn ddilwgr enw da y teulu fel cefnogwyr gonest i bob peth a lesola Ymneillduaeth yr Hen Wlad. Rhaid cofio i lu mawr o'n har-
Advertising
Advertising
Cite
Share
Wear WALTON'S ■fM Good Clothes. WINTER '1 OVERCOATS !N Made to Order or ready !'t' ljr| to wear. SB From 2916 t All the newest fashion- able materials—Cheviots, T weeds, Beavers, Meltons, Write for sample cuttings or call and inspect the Cloths. ISAAC WALTON & CO., LTD., 97, 99 & 101, NEWINGTON CAUSEWAY, S.E. 1, 3, 5, 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. 518, 520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. 442, 444 & 446, HOLLOWAY ROAD, N.
MUSIC IN SOUTH WALES.
News
Cite
Share
MUSIC IN SOUTH WALES. It appears that the performance of "Judas Maccabeus," by the Calfaria Choral Society, Aberdare, which was referred to in the LONDON WELSHMAN some time ago, as one of the events" of Christmas, was a magnificent success from every point of view. It is very creditable to our friends at Aberdare that such interest is displayed in oratorio performances, and that they thereby disprove Mr. Joseph Bennett's recent assertion that Welsh choirs love music not for its own sake as much as for the guineas." The artistes were :Miss Myfanwy Jones, Miss Claudia Thorney, Mr. Charles Saunders, and Mr. David Brazell. Of the singing of Miss Myfanwy Jones and Mr. Brazell, the Aberdare Leader says, Miss Myfanwy Jones has a very rich soprano voice,, with a fine range. Her articulation is clear, the words being distinctly heard, and the sentiment and spirit of each song well expressed Her well modulated and flexible voice showed to great advantage in the air, So shall the lute and harp awake,' a rendering which was much appreciated and applauded." "Mr. David Brazell 'the coming Welsh baritone' has already come, and the Calfaria audience on Christmas night were not slow in showing their appreciation of this fact, especially when he sang, Arm, arm, ye brave,' in fine tone, and with good spirit."
PREGET.HWYR Y SABBOTH i..…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREGET.HWYR Y SABBOTH i NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddington Green- i i. o a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0, 3.0, a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- Il.0a6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. [Cynhelir Cyfarfodydd G weddi yn yr oil o gapelau y Methodistiaid Calfinaidd, oddigerth yn Nghapel Charing Cross Road.] I Charing Cross Rd. 10.30 a 6.30, Parch. W. Lewis, Aber- dare. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross— 11.0 a 6.30, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0 a 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea— 11.0 a 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove— 11.0 a. 6 30, Parch. LI. Bowyer. Woolwich, Parson's Hill- 11.0 a 6.30, Parch. Edmund David. Battersea Rise— 11.0 a 6.30. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus 11.0 a 6.30. Little Alie Street, Aldgate- 11.0 a 6.30, Parch. B. Arbcrth Evans. Tottenham-I 1.0 a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sul. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. H. Watkin. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Myfyriwr. 6.30, Parch. T. Jones. Poplar, Duff Street- 3.0 a 6.30 Myfyriwr. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf.
Y DYFODOL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahanol Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon.] 1906. Ion. 18. Chyfarfod Te a Cyngherdd Blynyddol Jewin. 20-22. Cyfarfod Pregethu Blynyddol [ewin. 25. Te a Chyngherdd BIynyddol Barrett's Grove, Stoke Newington. Chwef. 10. Eisteddfod y Tabernacl, King's Cross. 15. Cyfarfod Te a Chyngherdd Blynyddol if Boro'. 21. Cyfarfod Adloniadol. Noson Genedl- aethol," Charing Cross Road. Maw. 8. Eisteddfod Eglwys y Wesleyaid, City Road, yn y Shoreditch Town llall. 8. East Ham. Cyngherdd Cystadleuol yn y Recreation lIall, Manor Park. 15. Cymdeithas Ddirwestol y Tabernacl, King's Cross. Cyfarfod Cyhoeddus. 29. Eisteddfod Elynyddol Shirland Road. Ebrill 6. Cymanfa Ganu M.C. Llundain yn Jewin Newydd. 26. Cyfarfod Te a Chyngherdd Blynyddol Wilton Square. Os am wneyd y cyfarfodydd a enwir yn y golofn hon yn llwyddiant yn mhob ystyr nis gellwch wneyd yn well na rhoddi hysbysiad o honynt yn y WELSHMAN. Telerau rhesymol a gostyngiad sylweddol am gyfres. A'r papur i bob teulu Cymreig a chedwir ef fel reference. Gwelcr y telerau ar tudalen 11.
Advertising
Advertising
Cite
Share
PICTURES. PICTURES. PICTURES. & GO., PICTURES. ftftW *a„d. PICTURES. gQuoy House' PICTURES. s Large, Varied, and Choice Collection at LOWEST PRICES.
CLEBER O'R CLWB.
News
Cite
Share
weinwyr enwadol fod yn dra sigledig eu daliadau ar adeg y rhyfel diweddar yn ogystal ag ar bwnc addysg yng Nghymru. Er hynny i gyd nid oeddem yn barod i'w halltudio o'r rhengoedd Ymneillduol gan y gwyddid eu bod yn iach yn y ffydd, ar y cyfan; ac nid yw yr yswain o Lan- dinam erioed wedi datgan unrhyw ddaliadau gwleidyddol rhagor na chredu fod cynllun Chamberlain yn un a haedda ein hystyriaeth dwysaf fel gwlad, ac fod ei sylwadau ef pan ar deithiau draws y byd wedi ei argyhoeddi fod llwyddiant y gwledydd tramor i'w priodoli i Ddiffyndollaeth. Y FARN gyffredin oedd fod gan y Gogledd ragorach catrawd o wladgarwyr Cymreig o lawer na'r Deheubarth. Nid am mai o'r Gogledd y daw y Gwir Anrhydeddus Lloyd George ond am hoffder y Sowthman o Saeson rhonc, heb son am ddewisiad Merthyr o benboethyn o Albanwr digredo. Mae'r Toriaid yn bwriadu ymladd mwyafrif o'r seddau, ond ni cheir un gwr gwerth ei alw yn ymladdwr cadarn ond ym Mwrdeisdrefi Fflint. Yno disgwylir gornest gyndyn rhwng Mr. Idris a Mr. Bankes, ac ar wahan i'n dymuniadau gwleidyddol yr oeddem fel cwmni yn hyderu y cariai'r Cymro y dydd, oherwydd gwr haeddianol o le yn y Senedd yw Mr. Idris, a chenedlaetholwr dan gamp ar bob amgylchiad. OND mae gwleidyddiaeth wedi dadblygu- neu, yn hytrach, wedi dirywio yn rhywbeth gwael iawn yn y blynyddoedd hyn. Nid ydym yn credu y gallesid cael engraifft o'r hyn a welir yn Nghaernarfon mewn un wlad tuallan i gyffiniau tiriogaethau paganaidd Affrica, neu Hottentotiaid y lleoedd tywyll. Cymerer y ffeithiau ac ystyrier hwynt yn ddifrifol. Dyma ddyn ieuanc wedi llwyddo i esgyn o'r iselder- o fod yn gyfreithiwr mewn ardal wledig-i fod yn Brif Lywydd yng Nghyfrin Gynghor y Deyrnas, ac eto mae ei gydwladwyr mor aniolchgar ac mor anheyrngar a rhoddi pob rhwystr ar ei ffordd i fwynhau yr anrhydedd a osodwyd arno. Ond nid arno ef y mae'r anrhydedd o ran hynny. Mae gosodiad Mr. Lloyd-George yn y fath safle yn ddyrchafiad i Gymru gyfan, a bydd ei wrthwynebwyr yn awr ymhen oesau a ddel yn cael eu rhestru yn nosbarth y teyrnfradwyr hynny a osodasant Llewelyn i ddwylaw ei elynion ganrifoedd lawer yn ol. Os mai i hyn y mae politics wedi syrthio yng Nghymru goreu po gyntaf y cwyd ein harweinwyr eu Ilef am burdeb ac uniondeb yn ein mysg, oherwydd diffyg cymeriad moesol yn unig a allasai fagu y fath syniad a gwrthwynebiad maleisus.