Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CLEBER O'R CLWB.

News
Cite
Share

CLEBER O'R CLWB. [Gan yr Hen Shon.] PETH hawdd yw sefydlu clwb, ond peth arall yw cael gan y bobl ei ddefnyddio. 0 dipyn i beth mae'r Clwb Cymraeg yn dod dros yr anhawsderau a'r cynulliadau yn lliosogi y naill wythnos ar ol y Hall. Myned ar gynydd mae'r aelodau, ac fe geir cynrychiolaeth galonogol o wythnos i wythnos o wyr y wlad i wneyd eu trigfan yma pan ar ymweliad a'r ddinas. Yn ystod y misoedd diweddaf yma yr wyf wedi cyfarfod a llu o'n pobl bwysicaf, ac wedi cael y mwynhad o glywed eu barn o bryd i bryd ar faterion o bwys i ni yng Nghymru, a chredaf mai buddiol fyddai ambell i lith yn awr ac yn y man i roi i'ch darllenwyr grynhodeb o'r hyn a glywir yma ar awr hamdden. YR etholiad, wrth gwrs, yw'r siarad rhwng pob dau ar hyn o bryd, er mai clwb anenwadol ac amhartiol yw. Waeth hynny na rhagor fe ddaw enwadaeth i'r cwmni a pholitics i'r cylch bron yn ddiarwybod i'r siaradwyr, a hawdd fydd can- fod ar unwaith i ba enwad y perthyn awdwr rhyw syniad, ac i ba blaid boliticaidd fydd y dadleuwr arall yn perthyn, heb i'r naill na'r llall ddatguddio eu henwau na'u cysylltiadau Cymreig. Nos Calan yr oeddem yn gwmni difyr o gylch tan cysurus, a chan fod yr hin yn oer aed i drin y rhagolygon etholiadol er mwyn codi tipyn o hwyl i rai digartref fel yr oeddem. DAFIS Llandinam oedd yn poeni un o wyr y Gogledd, ac er ei fod yn Fethodist rhonc prin yr edrychai ar yr yswain fel yn Rhyddfrydwr teil- wng i'n cynrychioli yn y Senedd. Cefnogid ef yn ei gondemniad gan Eglwyswr o sir Gaer- fyrddin, twrne cywrain, a gwr a ymhyfrydai i guro'n ddidrugaredd ar bolisi Lloyd-George. Ar un adeg, meddai, yr oedd ei blaid ef--y Toriaid -yn edrych yn hyderus ar Mr. Davies am ei gefnogaeth, ond yr oedd wedi eu bradychu yn waeth na Winston. Yn wir, ni chelai ei lawen- ydd wrth ddatgan mai nid rhyw gaffaeliad mawr i ni ydoedd wedi'r cwbl, oherwydd o dipyn i beth fe dry'n gystal Ceidwadwr ag a drodd ei daid pan fu Ceredigion mor angharedig a'i droi allan mewn dull gwarthus yn yr etholiad ar Horn Riwl. OND y mae pawb sydd yn adnabod yr yswain ieuanc, yn bersonol, yn credu y gwna gynrych- iolydd teilwng o Ryddfrydiaeth Gymreig, ac y ceidw yn ddilwgr enw da y teulu fel cefnogwyr gonest i bob peth a lesola Ymneillduaeth yr Hen Wlad. Rhaid cofio i lu mawr o'n har-

Advertising

MUSIC IN SOUTH WALES.

PREGET.HWYR Y SABBOTH i..…

Y DYFODOL

Advertising

CLEBER O'R CLWB.