Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

THE SQUIRE OF LLANDINAM'S…

."TRIO GYMRY LLUNDAIN YN YMGEISWYR…

News
Cite
Share

TRIO GYMRY LLUNDAIN YN YMGEISWYR SENEDDQL. Ymhlith y tri-chant ar ddeg a rhagbr o ber- sonau sy'n ymgeisio am seddau yn Nhy y Cyffredin y mae tri wyr sydd yn bur anilwg'yn em plith fel Cymry yn LIundain, ac ar y cyfri hwnnw, yn gwbl ar wahan i'w golygiadau b 9 politicaidd, nis gallwn lai na-dymuno yn dda iddynt. Mae rhywrai o honom yn gosod cenedl o flaen plaid, ac ar adeg fel. hon daw hynny i'r golwg. Damwain yw fod y tri hyn yn perthyn 1 un blaid wleidyddol, buasem yn dymuno yn dda yr un fath i Gymro teilwng o Lundain, un yn troi yn y cylch Cymreig, ac yn, gwneud ei ran er dyrchafiad ei gydgenedl pe digwyddasai fed Y yn perthyn i blaid arall. Mae un o'r tri, Mr. Timothy Davies, L.C.C., yn ymladd am sedd gartref yn Fulham. Nid oes ond ychydig wythnosau, er y rhoisom i'n darllenwyr ddarlun a bywgraffiad o'r Cymro teilwng hwn, a chofia eiri darllenwyr mor an- rhydeddus yw ei yrfa wedi bod. Ni raid i Mr. Davies wrth lythyrau canmoliaeth at neb o Gymry y Brifddinas. Mae ei wasanaeth a'i ffyddlondeb yn hysbys iddynt oil. Ceidw i fynu ei gysylltiadau Cymreig yn ddifwlch, ac y mae ganddo hawl arbenig ar gefnogaeth pob Cymro sydd yn yr etholaeth. Am seddau yng Nghymru yr ymladda y ddau arall. Un o honynt yw Mr. Howell Idris, L.C.C. Mae ef wedi ymladd dwy frwydr etholiadol o'r blaen, ac ymddengys yn rhy debyg fel pe bae yr hen air, Y drydedd waith yw'r goel" i gael ei wirio yn ei hanes. Ef sydd wedi ei ddewis i gymeryd lie Mr. Herbert Lewis ym Mwrdeisdrefi Fflint, gan fod Mr. Lewis yn ymladd am y sedd dros y.sir. Nid oes nem- awr o wythnosau er yr ymddangosodd braslun o'i fywyd yntau yn ein colofnau, ac felly ni raid i ni fanylu ar ei genedlgarwch a'i barodrwydd ar bob achl) sur i wneyd gwasanaeth i Gymry Llundain. Mae yr hir flynyddau 0 brofiad a gafodd Mr. Idris yn y Cyngor Sir wedi ei gym- hwyso mewn modd arbenig ar gyfer St. Stephan. Y trydydd o'r gwyr hyn yw Mr. W. Llewelyn Williams, M.A., gwr sydd mor adnabyddus ym mysg Cymry y ddinas a neb pwy bynag. Un o blant sir Gaerfyrddin yw ef, ac ym Mwrdeisdrefi Caeifyrddin a Llanelli yr ymladda ei frwydr etholiadol gyntaf. Bu pethau yn rhanedig braidd yno ar y cyntaf, drwy fod Mr. Alfred Davies, yr hen aelod yn dal gafael, ond yn awr y mae ef wedi ymneillduo, a Mr. Llewelyn Williams yw yr unig Gymro ar y maes. Pen- defig o Sais yw ei wrthwynebydd, na wyddai ein cenedl ni beth bynag ddim am dano hyd nes iddo ddod i'r ymdrechfa hon. Mae Mr. Llewelyn Williams wedi cartrefu yn Llundain ers yn agos i un-mlynedd-ar-ddeg. Daeth yma i fod yn is-olygydd y Star, a daliodd y swydd honno hyd nes y galwyd ef i'r bar. Ar ei ddyfodiad cyntaf i'n plith tafiodd ei hunan i fywyd Cymreig y ddinas, ac o'r pryd hwnnw hyd yn awr y mae wedi bod yn flaenllaw yn ein holl symudiadau. Yr oedd wedi ennill enw cyn hynny fel un o flagur gobeithiol Cymru Fydd, yn genedlaetholwr aiddgar, ac yng ngolwg rhai yn eithafol. Nis gall neb garu Cymru yn fwy angerddol nag y mae ef yn ei charu, ac nid yw yn arbed ei hunan pan y gelwir arno i wneyd rhywbeth er ei mwyn. Bu yn golygu Celt Llundain am amser, a dangosodd fod yn bosibl i bapyr Cymraeg fyw a llwyddo ynghanol dadwrdd a nlwl Seis- nig Llundain. Gwyr ein gwahanol gymdeith- asau, y Cymmrodorion, Cymru Fydd, a'r Cym- deithasau Diwylliadol am ei barodrwydd i'w gwasanaethu a'i allu i ddwyn hen gymeriadau a digwyddiadau hanes ein cenedl yn y gor- phenol i fyw drachefn. Yn ystod y blynyddau y bu mewn cysylltiad a'r Star rhoddodd, Ie amlwg i helyntion Cymreig yn ei cholofnau, a byth er hynny y mae holl bapyrau Llundain yn llawer mwy gofalus am gofnodi y pethau gymerant le yng Nghymru nag oeddynt cyn hynny. Ceidw ei holl gysylltiadau Cymreig yn gymdeithasol a chrefyddol, ac os dychwelir ef i'r Senedd ca dyheuadau goreu ein cenedl ynddo gynrychiolydd a wyr pa fodd i'w hyr- wyddo a'i ysgrifell yn ogystal ag a'i leferydd.

CYMRU A'R ETHOLIAD.

Advertising

Welshmen Known in London.-XI.…