Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMRU A'RETHOLIAD CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

CYMRU A'RETHOLIAD CYFFREDINOL. Yr unig bwnc sydd yn cael sylw yng Nghymru y dyddiau hyn yw'r etholiad cyffredinol a gymer le ym mhen rhyw dair wythnos. Swn parotoi i'r frwydr a, glywir o bob cyfeiriad, ymgeiswyr yn cael eu dewis, pwyllgorau yn cael eu ffurfio, ac areithiau yn cael eu traddodi. Bu ,ysgarmes rhwng y ddwy blaid; yn sir Drefaldwyn ychydig amser yn ol yng nghylch Mr. David Davies, Llandinam. Mynnai y naill a'r llall ei gael i gario ei baner, ond y Rhyddfrydwyr a orfti. Nis gellir 'cyfrif Mr. Davies yn Radical, mae ei olygiadau yn gymedrol. megis eiddo ei daid a'i dad ar amryw bynciau. Nid yw o blaid Ym- reolaeth i'r Iwerddon yn ol y cynllun Gladston- aidd, nid yw yn cymeradwyo y cynllun cenedl- aethoj o wrthwynebu y Ddeddf Addysg, er ei fod yn barod i wneyd a allo i wella neu ddileu y ddeddfeihun. Credmewn ffafrio yTrefedigaethau Prydfeinig mewn masnach, ond ni fyn drethu bwyd, o leiaf y mae wedi ymrwymo i beidio pleidleisio drqs bolisi Mr. Chamberlain hyd nes y ceir ymgynghoriad pellach a'r Trefedigaethau. Rhaid addef y profa Mr. Davies yn ymgeisydd cryf. Er ei holl gyfoeth y mae yn glynu wrth draddodiadau ei dadau yn gymdeithasol a chrefyddol. Mae gan y Rhyddfrydwyr ymgeiswyr ar y maes ym mhob etholaeth yng Nghymru a sir Fynwy, ond hyd yma nid oes Undebwyr wedi eu dewis yn derfynol i ymladd am gryn nifer o'r seddau. Dyma restr yr ymgeiswyr fel y saif ar hyn o bryd. (Dynoda yr Aelodau sydd yn sefyll etc) :— Mon *Mr. Ellis J. Griffith (R). Mr. C. F. Priestley (U). Bwrdeisdrefi Arfon *Mr. D. Lloyd George. Mr. R. A. Naylor (U). Arfon *Mr. William Jones (R). Eifion: *Mr. Bryn Roberts (R). Meirion *Mr. Osmond Williams (R). Dinbych — Gorllewin: *Mr. J. Herbert Roberts (R). Dwyrain *Mr. S. Moss (R). Bwrdeisdrefi Dinbych *Yr Anrhyd. G. T. Kenyon (U). Mr. Clement Edwards (R). Fflint: Mr. J. Herbert Lewis (R). Mr. Harold Edwards (U). Bwrdeisdrefi Fflint: Mr. J. Eldon Bankes (U). Mr. T. W. Howell Idris (R). Maldwyn—Sir Mr. D. Davies (R). „ Bwrdeisdrefi *Milwriad Pryce-Jones (U). Mr. J. D. Rees (R). Abertein *Mr. Vaughan Davies (R). Brycheiniog Mr. Sydney Robinson (R). Yr Anrhyd. R. C. Devereux (U). Morganwg-Dwyrain *Syr Alfred Thomas (R). „ De *Milwriad Wyndham Quin (U) Mr. W. Brace (R). „ Canolbarth *Mr. S. T. Evans (R). „ Rhondda *Mr. W. Abraham (R). „ Gower Mr. Jeremiah Williams (R). Mr. John Williams (Llafur). Mr. E. Helme (U). Merthyr Tydfil: *Mr. D. A. Thomas (R). *Mr. J. Keir Hardie (Llafur). Caerdydd: Yr Anrhyd. Ivor Guest (R). Syr F. Flannery (U). Abertawe: *Syr George Newnes (R). Milwriad Wright (U). Dosbarth *Mr. D. Brynmor-Jones (R). Caerfyrddin-Dwyr. *Mr. Abel Thomas (R). „ Gorllewin *Mr. J. Lloyd Morgan (R). Bwrdeisdrefi Mr. W. Llewelyn Williams (R). Penfro *Mr. Winford Ph Hips (R). Bwrdeisdrefi: Mr. Owen Phillips (R). Mynwy-De: *Yr Anrhyd. F. C. Morgan (U). Milwriad Ivor Herbert (R). „ Gorllewin *Mr. T. Richards (R). „ Gogledd *Mr. R. McKenna (R). Casnewydd Mr. E. E. Nicholls (U). Mr. L. Haslam (R). Mr. J. Winstone (Llafur). Gwelir fod cynifer a saith o'r aelodau presenol yn ymneillduo, sef Mr. Samuel Smith (Fflint) y Milwriad Laurie (Bwr. Penfro); Mr. Aeron Thomas (Gower) Syr Edward Reed (Caer- dydd) Mr. Charles Morley (Brycheiniog); Mr Alfred Davies (Bwr. Caerfyrddin); a Mr. J.' Lawrence (Casnewydd). Mae y sedd dros sir Drefaldwyn yn wag oherwydd marwolaeth Mr. Humphreys-Owen. Ac y mae Mr. J. Herbert Lewis yn rhoddi i fynu ei sedd dros Fwrdeis- drefi Fflint er mwyn ymladd am y sedd dros y sir.

DR. MACNAMARA ON WALES AND…

----------Football Chat.

Advertising