Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Calfinaidd Llundain. Llywydd: Mr. JOHN DAVIES, Barnsbury. CYNHELIR YR. EISTEDDFOD FLYNYDDOL YN Y Memorial Hall, Farringdon Street, E.C., Nos FAWRTH, RHAGFYR 26ain, 1905. Cadeirydd-HOWELL J. WILLIAMS, Ysw., C.S.L1. Arweinydd—T. HUWS DAVIES, Ysw., B.Sc. Beirniaid: Cerddorol-D. CHRISTMAS WILLIAMS, Ysw., Merthyr. Areitheg—Parch. B. ARBERTH EVANS. Llenyddol—Parch. R. SILYN ROBERTS, M.A., Tanygrisiau. Map-R. T. OWEN, Ysw., Holloway. Cyfeilydd—GWILYM ROLANDS, Ysw. Rhagolygon ardderchog-Llu o Ciystadleuwyr. Drysau yn agored am 6; i ddechreu am 6.30. Tocynau, l/= a 2/ i'w cael gan Swyddogion y Gwahanol Ysgolion, neu gan Ysgrifenydd yr Undeb:— J. O. DAVIES, 28, College Road, Walthamstow, N.E. CYMDEITHAS LENYDDOL CHARING CROSS ROAD. CYNHELIR Cyfarlod Cysiadknol YN Y LBCTtJKE HALL, Dydd Nadolig, Rhag. 25ain, 1905. Llywydd:—Parch. PETER H. GRIFFITHS. Beirniad Cerddorol.•—Mr. D. RICHARDS, F.R.C.O. TE AR Y BYRDDAU 0 4.30 HYD 7 O'R GLOCH. Y CYFARFOD I DDECHREU AM 7.30. Mynediad i mewn i'r Ve a'r (ilyfarfod- Swllt yr un. Enwau yr oil o'r Ymgeiswyr fod yn llaw yr Ysgrifenydd, Mr. H. Williams, 7, Holborn Circus, E.C., ar neu cyn Rhag. 20fed, 1905. 0. BUTLER & SONS, 29, HAYMARKET, W. MUSICAL INSTRUMENT MANUFACTURERS, Specialists in Violins, Banjos, Guitars. ALL DELICATE REPAIRS CARRIED OUT. BANDS & ORCHESTRAL INSTRUMENTS Our Instruments are RELIABLE, and we are well RECOMMENDED. Established over 50 YEARS. ELECTRIC LIGHTING. Country Houses, Shops, Factories, &c. Over 20 years experience with Oil, Gas, and Steam Engines, Water Turbines, Motois, &c. All Work Guaranteed. radical Representative sent to advise, and Estimates free. J. s. CUNNINGTON & CO., ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. SPINK I SON, LTD., J SPECIAL NOTICE. Unique Bfrtliday/ £ itri*itiia$, atifl hew Year's T|[ PRESENTS. IStS IIORIIS Ancient Egyptian Amulets, Gods, and other Objects GUARANTEED OVER 2,500 YEARS OLD. These emblems of luck, prosperity, happiness, &c., are enclosed in velvet-lined crushed leather cases of book form, artistically designed, and lettered at the back, History of Egypt. On the front cover, From the Land of the Pharaohs. Each case contains a single amulet, god or scarab, either unmounted or gold mounted as ring or pendant, and the prices range from 15 SHILLINGS to 10 GUINEAS, according to the beauty or rarity of the object. Fine and varied collection of objects of art. S. & S. specially recommend the 20/0 and 30/0 cases, either of which contains a carefully selected example. Write for List. Our Museum and Art Gallery are on the first floor. We shall be pleased to show Collectors of Curios over our Museum, without pressing them in any way to purchase. Est. 1772. 16, 17 & 18, PICCADILLY, W.
[No title]
News
Cite
Share
Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir t'n colofnau, "The Editor" pob Hysbysiad, "The Adver- tising Manager"; a phob Archeb, The Manager," a'r oil i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Martin's Lane, W. C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd vsgrifau gwrthod, edig. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer, and the address must also be given, not necessarily for publication, but as a guarantee of good faith.
-------INodiadau Golygyddol.
News
Cite
Share
Nodiadau Golygyddol. Y NADOLIG. Dyma ddydd Nadolig arall wrth y drws, ymhen rhyw dridiau byddwn yn ei roesawu. Nid oes yr un o wyliau y flwyddyn yn fwy poblogaidd, na'r un a dreulir mcwn mwy o hwyl llawenydd er gwaethaf y dydd byrr a'r awel oer. Mewn parthau neillduol o Gymru dyma yr unig wyl a gedwir, a phan y sonir am "y gwyliau" at y diwrnod hwn a'r dyddiau o'i gwmpas y rhed y meddwl yn y fan. Cristionogaeth bia y diwrnod, ac eto fe'i cedwir mewn ffordd sy'n awgrymu fod y defodau yn llawer hyn. Nid oes dim yn arbenig Gristionogol mewn gwledda, a berwi cyfleth, ac addurno y tai a brigau celyn a gwydd- fid; ac y mae y plygain a'r canu carolau yn arwyddo mai meddianu hen ddefodau paganaidd a'u gosod mewn ffram newydd a wnaeth ein crefydd. Ychydig o bobl a gadwant wyl y Nadolig sydd ym meddwl am ei hystyr grefyddol o gwbl. Gwyl deuluaidd a chymdeithasol yn unig ydyw i'r lliaws, adeg i'r rhai a wasgarwyd gyfarfod drachefn i gadw i fynu hen arferion drud a ddaethant i lawr atom oddiwrth ein cyridadau. Nid oeddynt hwythau mor anwar ag y tybir yn ami; gwyddent werth nriondeb a charedigrwydd, carent anghoifo prudd-der gauaf yn swn telyn a charol ac wrth adrodd chwediau diddan a chware yn ddiddig ar eu haelwydydd. A chamgymeriad yw synio fod Cristionogaeth wedi difodi pobpeth a fodolai cyn iddi ym- ddangos. Cymerodd afael o bob elfen a gwerth ynddi mewn paganiaeth, a chysegrodd yr oil a'i hysbryd newydd ei hun. Yr ydym yn llawen o'r Nadolig am mai gwyl 0 "ewyllys da" ydyw yn miaenaf oil. Adeg yn rhoddi cyfleusdra i ddangos parch, i sirioli calon, i gydnabod gwasanaeth, ac i gynorthwyo yr anghenog. Nis gellir cofio am y Nadolig heb gofio hefyd am anrhegion. Mae mwy na hanner gwerth anrhegion Nadolig yn y dirgelwch sydd o'u cwmpas-yn y ffaith na wyr yr hwn dder- byuiayr anrheg ddim beth fydd nes y bo yn ei law. Ac yn hynny y mae mwy na hanner y mwynhad o'i rhoddi hefyd. Anhawdd pen- derfynu pa un sydd fwyaf barddonol—ai ym- weliadau dirgelaidd rhieni a chyfeillion a'r ystordai, neu ynte ddyfaliadau disgwyliad y plant pa bethau a ddaw i'w rhan. A phwy all fod yn ddigon calongaled i ysbeilio meddwl plentyn o'r rhamant tyner am Santa Claus yn dod yn y tywyllwch dan faich o roddion yn ddistaw i'r ystafell, ac yn llenwi yr hosanau a dewis-bethau? Mae bywyd yn ddigon dof a rhydd- ieithol ac i ni ddwyn cymaint o farddoniaeth ag a fedrwn iddo. Ac onid Santa Claus yw mam neu chwaer dirion wedi'r cwbl ? Ond nid awn i ymresymu a'r bobl holl-ddoeth sy'n methu gweld prydferthwch arferion teuluaidd fel hyn. Hyd yn nod wedi i'r plant adael oedran plen- tyndod a dod i ddeall sut y daw yr anrheg mae yn ddengwaith gwerthfawrocach yn eu golwg o'i chael mewn hosan neu ar y gwely bore dydd Nadolig na phe cyflwynid hi heb unrhyw seremoni o'r fath. Yng nghanol holl lawenydd a rhialtwch yr wyl daw prudd-der dros bob meddwl ystyriol wrth gofio gynnifer o aelwydydd sydd yn oer a llwm ar y Nadolig eleni. Mae y cyfyngder masnachol sydd yn y wlad, a'r miloedd o wyr, tadau, a brodyr sydd yn ddi-waith, yn ddigon i sobri yr ysbryd mwyaf nwyfus. Ond y mae yn gyfle na cheir ond yn anaml ei hafal i ddangos ewyllys da." Gwyddom fod darpariadau helaeth iawn yn cael ei gwneyd modd y gallo y tlodion anghofio eu tlodi am un diwrnod o leiaf, ond dios ydyw na chyrhaedda y darpariadau hynny namyn cyfran fechan o'r lliaws sydd yn dioddef prinder ac oerni. Beth fyddai ibob teulu sydd mewn llawnder gymeryd un teulu anghenog i'w borthi a'i gynhesu ? Byddai llawenydd y rhoddi yn llawn cymaint a llawenydd y derbyn. A lie na chaniata amgylchiadau i wneyd hynny ac anfon anrhegion fel arfer i gyfeillion sydd a digon ganddynt, yn sicr gellid troi y cyfeillion heibio am dro. Gobeithiwn y gwna ein darllen- wyr yr hyn a allont i sicrhau i bawb o'u cydnabod yr hyn a ddymunwn iddynt oil o galon— NADOLIG LLAWEN.