Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. Y MAE Miss Delia Davies (merch Mr. Hugh Davies, chemist, Machynlleth) newydd basio yr arholiad terfynol mewn Surgery," ac wedi sicrhau y degree o M.B., B.S., yn Mhrifysgol Llundain. Y MAE Cyfeistediifod Cenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd wedi caniatau i'r Cyfundeb yn America gymeryd Abiganj yn faes cenhadol. Cymvysa y rhan hon dros bum' miliwn o boblogaeth, ac y mae yn taro ar faes y Cyfundeb ar fryniau Cassia. RHODDIR wyth tudalen o rifyn Nadolig y British Weekly i ysgrif hanesyddol ar y Diwygiad yng Nghymru. Addurnir hi a darluniau o'r personau mwyaf amlwg ynglyn a'r mudiad. Awdwr yr ysgrif yw y Parch. Elfed Lewis, ac y mae dweyd hynny yn ddigon i warantu ei bod yn gyfan, teg, a darllenadwy dros ben. MR. EDWARD BENSLY, M.A., sydd wedi ei ddewis yn athro mewn Lladin yng Ngholeg Aberystwyth fel olynydd i'r Athro Angus, yr hwn a benodwyd yn ddiweddar yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru. Ar hyn o bryd mae Mr. Bensly yn Athro Clasurol ym Mhrifysgol Adelaide, Awstralia. LLAWENYDD sydd yng Nghymru ym mhob man oherwydd yr anrhydedd a'r dyrchafiad a roes y Prif Weinidog ar yr aelod dros Fwrdeis- drefi Caernarfon. A chwareu teg iddynt, y mae y Ceidwadwyr yn dadgan eu llawenydd mor ddifloesgni ag y gwna y Rhyddfrydwyr. Mae y gwaed Cymreig yn rhedeg yn gryfach na llanw plaid wedi'r cwbl. YN marwolaeth y Parch. J. Bowen Jones, B.A., Aberhonddu, collodd Cymru wr o gyr- haeddiadau uchel a neillduolrwydd mawr. Efe oedd y Cymro cyntaf i raddio ym Mhrifysgol Llundain, a hynny mor bell yn ol a'r flwyddyn 1847. Bu yn olygydd y Beirniad am amser, ac yn olygydd y Cenad Hedd am ugain mlynedd. Mab iddo ef yw Mr. Ivor Bowen, y bargyfreithiwr adnabyddus ar gylchdaith Deheudir Cymru. YR ydym yn deall fod cyfarfod o'r Blaid Seneddol Gymreig wedi ei gynhal dydd Llun diweddaf i ystyried y sefyllfa mewn perthynas i Ddadgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru, a diwygio y Ddeddf Addysg. Preifat, wrth gwrs, oedd y. gweithrediadau, ac y mae yr aelodau oedd ynghyd yn dra gochelgar yn yr hyn a ddywedant. Ond y gred gyffredin yw eu bod yn cwbl gydweled, ac y gelwir cynhadledd yng Nghaernarfon ar yr 28ain o'r mis hwn, i roddi mynegiad i'r polisi cenhedlaethol. Yn ddiwedd- arach yr un dydd galwodd Syr Alfred Thomas gyda'r Prif Weinidog, ac yr oedd Mr. Lloyd- George yno hefyd yr un pryd.

Y DYFODOL

Home News.

Football Chat.