Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EISTEDDFOD HAMMERSMITH.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD HAMMERSMITH. Beirniadaeth y Traethodau: "Gwerth y Diwygiad Presenol i Gymru." Rhaid i mi longyfarch Eisteddfod Hammer- smith am ei bod wedi tynnu i'r maes gynifer a b saith o ysgrifenwyr i draethu ar y pwnc amserol a phwysig hwn. A da genyf fedru dweyd nad oes yr un gwael yn eu plith, yr un heb fod yn arddangos cryn lawer o gydnabyddiaeth a hanes ac a neillduolion y Diwygiad. O'r cchr arall, nid oes yma yr un yn hollol y peth a ddis- gwyliwn ac a ddymunaswn gael. A siarad am danynt yn gyffredinol, tipyn yn amrwd yw y traethodau, fel pe wedi eu hysgrifenu mewn gormod o frys. Ac fe garaswn gael mwy o farn bwyllog ar y Diwygiad a'r pethau ynglyn ag ef. I benderfynu gwerth unrhyw beth yn iawn, dylid edrych arno o bob cyfeiriad, a dangos y possiblrwydd o'i gamddefnyddio, yn ogystal a gwahaniaethu rhwng y peth ei hun a'r pethau a gysylltir ag ef gan dueddiadau anheilwng. Yn y cyfeiriad yna yr wyf fi yn cael y traethodau hyn yn fwyaf diffygiol, ac y mae yn ddiffyg ym mhob un o honynt. Rhaid dweyd hefyd fod gan bob un o'r ymgeiswyr beth lie i wella yn eu hiaith a'u harddu!l lenyddol. Mae'n syndod mor ychydig mewn cymhariaeth, o ymgeiswyr eisteddfodol sydd wedi meistroli cystrawen yr iaith, fel ag i fedru traethu eu syniadau yn loew a grymus. Ond y mae yn gysur i feirniad fedru dweyd fod y traethodau hyn yn hynod lan oddi- wrth wallau sillebol, ac y mae hynny yn arwydd dda. Buaswn yn caru ysgrifenu yn fanwl am bob un o'r saith, a nodi allan eu gwallau a'u diffygion yn ogystal a'u rhagoriaethau. Ond ni feddaf amser at law, a rhaid boddloni ar nodiadau byrion. Ychydig o wahaniaeth sydd cydrhwng traeth- odau Cymro Dwyiaith," Meirionfab," Un o Arfon," a "Magna Charta," er fod yr olaf gryn lawer yn feithach na'r lleill. Mae ym mhob un o'r pedwar gryn dipyn o amherffeith- Twydd. Ceir ynddynt wallau ieithyddol, syniadau amheu?, os nad anghywir, a chym- ysgedd sy'n dangos nad ydynt wedi dysgu meddwl yn drefnus nag wedi dysgu gosod eu syniadau allan yn y ffurf oreu. Mae gwybod- aeth rhai o honynt am y Diwygiad dipyn yn gyfyng ac weithiau yn unochrog, a lie nad yw ielly mae wedi ei chyfleu yn anrhefnus a chlogyrnog. Traethir gormod ar nodweddion y Diwygiad a rhy fach ar ei zcertharbenig i Gymru gan rai, ac a eraill i hwyl areithio neu bregethu, neu yn hytrach i'r hyn a ystyrir gan rywrai yn hwyl. Ond nid yw yr un heb ryw ragoriaeth. Mae traethodau Theomemphus a Hen Gymro o nodwedd dipyn yn uwch o ran cyn- wysiad, ac i raddau o ran ffurf hefyd. Arddull rhy amleiriog sydd gan "Theomemphus," buasai yn fantais iddo pe'd ysgrifennai yn symlach, a phe torai lawer o'r brawddegau hirion yn amryw ddarnau drwy ddefnydd helaethach o ddiweddnodau. Ond dengys hwn ei fod yn feddyliwr llawer mwy annibynol na'r un a enwyd eto, a da hynny. Ond ni fedraf gydsynio ag ef yn yr oil a ddywed. Dechreua Hen Gymro yn bur agos i'r man lie y dylai traethodwr ar bwnc fel hwn ddechreu, drwy egluro beth a olygir wrth Ddiwygiad. Ond rywfodd nid yw yn ennill tir fel yr a rhagddo. Rhyw droi yn yr unman a wna. Nid yw ei arddull yn hapus yn ami. Mae yn llawer rhy hoff o ddull-ymadrodd cwmpasog yn hytrach nag un uniongyrchol. Er engrhaifft, "a wna ddwyn" yn lie "a ddwg," "Ie ddarfu iddynt lwyddo" yn lie "a llwyddasant." Ysgrifenodd Herodius" draethawd pur faith o 60 tudalen mewn llawysgrif lied fan. Dyru gynwysiad taclus, yn dangos fod ganddo ragarawd-rhaglith fuasai y gair goreu-a chwech o bennodau. Ond mae y ragarawd yn rhy faith, bron yn un rhan o dair o'r holl draeth- awd. Ac y mae rhai o'r chwech pennawd syn dilyn yn rhedeg i'w gilydd. Gallasai yr awdwr drefnu ei fater yn well o gryn dipyn. Ar- wyddion brys sydd ar y gwaith o ran trefn ac ieithwedd. Mae yr awdwr weithiau yn meddwl un peth ac yn dweyd peth arall. Er engrhaifft, cyfeiria at ysgrifeniadau y tadau eglwysig o Augustine hyd y Diwygiad Protestanaidd, a dywed mai cyfeiliorniadau yw eu prif nodwedd. Vr hyn feddylia yn ddiddadl ydyw, mai a chyfeiliornadau yr ymdriniant. Ac ymadrodd trwsgl, a dweyd ylleiaf, am "personal ac individual" yw myfiol a hunaniaethoI." Ond y mae Herodius yn wr o feddwl cryf, yn wr o wybodaeth eang, ac yn mentro i diriog- aethau nad yw yr un o'r lleill wedi anturio iddynt. Er i mi dweyd fod y ragarawd yn rhy hir i gyfateb i faint y traethawd, mae yn wir alluog, dyna y darn goreu o'r traethawd i gyd. Olrheinia berthynas y Diwygiad presenol a'r Diwygiadau blaenorol y bendithiwyd ein gwlad a hwy, a dengys fel y mae yn dwyn nodau yr anianawd Gymreig. Ymddengys i mi iddo gymeryd mwy o amser gyda'r rhan hon na chyda'r rhanau dilynol. Gwna rai gosodiadau na fedraf gydweled a hwy, ac nid wyf yn credu y ca odid neb arall i gydweled chwaith. Prin y meddyliasiwn fod neb heddyw yn derbyn y ddamcaniaeth o ysbrydoliaeth eiriol (verbal inspiration). Ond fe wna "Herodius" hynny. Mae ganddo berffaith hawl i gredu felly, er y siomir fi yn fawr os mai effaith y Diwygiad fydd ailfywhau y ddamcaniaeth honno. Ond er yn anghytuno a'r awdwr ar rai pethau, ac er teimlo yn siomedig na buasai ganddo rywbeth ar y possiblrwydd i'r Diwygiad fynd yn gymharol ddiwerth, nid oes ynof unrhyw betruster i gyhoeddi Herodius" yn oreu, ac yn deilwng o'r wobr. J. MACHRETH REES. Englyn: "Y Diwygiad." Derbyniais i6eg o gyfansoddiadau ar y testyn uchod. Dygant y ffugenwau canlynol:—" Ap Meirion," Collwyn," lanto," Gwyllt," "Ap Tango," Treffynon," "Ynys Ogo," "Glynronwy," Llew o'r Llwyn," "Ated Wyn," "Engan," "Cymro," "Y Diwygiedig," E. o'r Glyn," Dewi," ac Aleph." Yr wyf yn rhyfeddu mor reolaidd a chywir o ran mesur a chynghanedd ydynt. Er nad oes dim an- mhriodol neu ddichwaeth yn eu syniadau, nid oes yr un o honynt yn orchestol yn yr ystyr honno. Cyll rhai pur dda oblegyd tipyn o ledchwithdod cystrawenol, ac un neu ddau oherwydd nad oes berf yn eu henglynion. Y chwech olaf a nodais ydyw y rhai goreu, fel yr ymddengys i mi, o ychydig iawn. Er fod "Aleph" yn terfynnu braidd yn wan, tueddir fi i gredu ei fod yn rhagori o rywfaint ar y n 0 gweddill. Gwobrwyer ef. Telyneg: Blodau'r Grug." Ymgeisiodd pump ar y testyn hwn, a llawen genyf allu mynegi eu bod i gyd yn addawol fel beirdd. Amlygant allu awenyddol, ond prin y medd yr un o honynt syniad hollol glir am ansawdd a nod angen telyneg. Er nad oes yn yr un o honynt feiau na diffygion anafus, gallasai y mwyafrif o honynt fod beth yn gywirach a destlusach o ran iaith, a pheth yn fwy ystwyth a rheolaidd o ran mydr. Gan fy mod wedi gwneud man nodiadau ar y papyrau, nid ychwanegaf yma. Ar ddau neu dri o gyfrifon saif cynyrchion "Egwan," "Blodau Eithin," a Bugail" rywfaint yn is nag eiddo y gweddill. Anfonodd "Spero" gyfansoddiad bach tlws a melus i mewn. 0 ran ei olwg allanol, aflerw ydyw eiddo Bugail Hafod y Cwm," a bu agos i mi, ar y cyntaf, ei fwrw heibio fel ysgymun- beth. Wrth fanylu arno, gwelwn ei fod yn cynwys rhinweddau gwerthfawr. Dylasai ddefnvddio mwy o bapyr-(a oes treth arno yn Llundain?)—a gosod ei faiddoneg allan mewn tri phennill clir 'yn lie rhedeg eu linellau yn mlaen ar ddull pryddest. Y ddau olaf yn sicr yw y rhai goreu, ac wedi meddwl cryn dipyn arnynt, ymddangosant i mi yn gyfarfal mewn teilyngdod. Felly rhaner y wobr yn gyfartal rhwng "Spero" a "Bugail Hafod y Cwm." Ar air a chydwybod, IOLO CARNARVON.

CYLCHDAITH WESLEYAIDD GYMREIG…

Y LLOFFT FACH; t