Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DAMWAIN DDIFRIFOL YN CHARING…

News
Cite
Share

DAMWAIN DDIFRIFOL YN CHARING CROSS. Brydnawn dydd Llun diweddaf digwyddodd damwain o'r fath fwyaf difrifol yng ngorsaf Charing Cross, drwy i rai o'r bwau heiyrn mawrion a ddalient y to gwydr anferth roddi ffordd, a thynu rhan helaeth o'r to ac o'r muriau i lawr gyda hwy. Yr oedd yr orsaf yn llawn o weithwyr ac o deithwyr ar y pryd, ac fel y gellir tybied yr oedd y cyffro a'r dychryn yn anesgrif- iadwy. Syrthiodd llawer o'r barau heiyrn a'r coed, a'r cerrig oddiallan i'r orsaf ei hun, ar yr Avenue Theatre gerllaw, yr hon sydd yn cael ei .hadnewyddu, ac yno, yn fwy nag o fewn yr orsaf, y gwnaed y niwed mwyaf i fywydau a meddianau. Hyd yn hyn chwech sydd wedi cyfarfod a'u hangeu trwy y trychineb, ond y mae lliaws eraill wedi derbyn niweidiau mor drymion fel mai prin y disgwylir iddynt eu gorfyw. Y syndod yw na buasai llawer mwy wedi eu lladd a'u niweidio pan gofir gymaint o bobl oedd yn yr orsaf ac o'i chwmpas ar y pryd. Cafodd rhai ddiangfeydd gwyrthiol.

GOHEBIAETHAU.

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…

Advertising

Football Chat.

Am Gymry Llundain.