Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y DDWY SIARTER.

News
Cite
Share

Y DDWY SIARTER. Y mae yr Is-Bwyllgor a bennodwyd dro yn ol i dynu allan Siarteri y Greirfa a'r Llyfrgell y Genedlaethol i'w cyflwyno i'r Cyfringyngor yn awr wedi cyflawni rhan o'i orchwyl, a mabwys- iadwyd ei adroddiad gan y Pwyllgor lliosocach ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf. Siarter y Greirfa yn unig sydd wedi ei gosod mewn ffurf derfynol, ond y mae yn ddealladwy mai cyffelyb hollol fydd Siarter y Llyfrgell. Yr un egwyddorion yn union sydd i lywodraethu y naill a'r llall. Diau mai yr hyn y teimlir mwyaf o hyder yn ei gylch gan lawer ar hyn o bryd ydyw, sut y mae y sefydliadau hyn i gael eu llywodraethu? Pa un ai gan ddosbarth neu gan werin Cymru yn gyffredinol ? Y peth goreu a fedrwn wneyd i ateb ymholiadau o'r fath ydyw nodi y darpariadau yn y Siarter. Bydd i'r Greirfa Lywydd (yr hwn a etholir am dymhor o bum' mlynedd, ac ni bydd neb i'w ail-ethol ar derfyn pum'mlynedd), Is-lywydd, Trysorydd, Llys Llyw- odraethwyr, a Chyngor. Darparir hefyd i gael cyfarwyddwr (director) o dan gyflog, i ofalu am y Greirfa ac arolygu drosti. Mae Llys y Llyw- odraethwyr i gynwys y Llywydd, Is-lywydd, Trysorydd, deuddeg o bersonau i'w pennodi gan Arglwydd Lywydd y Cyfringyngor, tri o bersonau i'w pennodi gan Brifysgol Cymru, un i gynrych- ioli pob un o'r tri choleg, Aberystwyth, Caer- dydd, a Bangor, yr Aelodau Seneddol dros Gymru, wyth i'w penodi gan y Llys ei hun, dau o honynt i fod o blith athrawon yr Ysgolion Elfenol a Chanolraddol, un dros bob Cyngor Sir, dau dros ddinas Caerdydd, a dau dros fwr- deisdrefi Casnewydd ac Abertawy. Bydd y Cyngor i'w ethol gan Lys y Llywodraethwyr, ac i gynwys y Llywydd, yr Is-lywydd a'r Trysorydd, tri pherson o benodiad Arglwydd y Cyfrin- gyngor, pymtheg o bersonau i'w dewis gan lys o blith yr aelodau eu hun, ac un person i'w ddewis gan Faer a Chorphoraeth Caerdydd. Gwelir fod sylfaen y cyfansoddiad yn bur werinol, ac yn argoeli y bydd y sefydliadau o'r fath nod- wedd ac a'u gwna yn wir werthfawr a defnydd- iol i'n cenedl yn y dyfodol.

Notes of the Week.

Advertising

-------Nodiadau Golygyddol.