Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

MARWOLAETH MR. W. CADWALADR…

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR. W. CADWALADR DA VIES. Blin genym gofnodi marwolaeth un arall o'r Cymry mwyaf gwladgarol, ac un a wnaeth wasanaeth gwerthfawr i'w genedl yn y cyfnod mwyaf pwysig yn ei hanes. Yn anffodus, torodd ei iechyd i lawr rai blynyddau yn ol, ac yr oedd er's amser maith yn gyfyngedig i'w ystafell. Diau na biiasai ei fywyd wedi ei estyn cyhyd oni bai am ofal ac ymgeledd ei briod, y gantores adnabyddus ac enwog, Miss Mary Davies. Brodor o Fangor ydoedd Mr. Cadwaladr Davies, ac yr oedd Mr. John Davies (Gwyneddon) yn ewythr iddo o frawd ei dad. 0 dan nawdd ei ewythr dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr, ond cyn hir arweiniwyd ef i Lundain lie y daeth i gyffyrddiad a'r diweddar Syr Hugh Owen, ac yfodd yn helaeth o ysbryd cenedlgarol a gwas- anaethgar y gwr da hwnnw. Ymdaflodd yn egniol i bob mudiad Cymreig, ac edrychid arno fel un o'r arweinwyr dyfodol. Pan sefydlwyd Coleg y Gogledd yn Mangor yn 1884, penodwyd ef yn ysgrifenydd a chofrestrydd y sefydliad, ac yn y cylch hwnnw gwnaeth wasanaeth gwir werthfawr i achos addysg uwchraddol ym mysg ein cenedl, yn neillduol yng Ngogledd Cymru. Pan basiwyd Deddf yr Ysgolion Canolraddol drachefn, fe deithiodd ef i fynu ac i lawr y wlad i egluro ei darpariadau, ac i gyffroi yr ardal- oedd i gymeryd mantais ami. Yr oedd hefyd mewn cysylltiad agos a'r mudiad am Brifysgol i Gymru. Yn i888priododd a Miss Mary Davies, ac ymhen dwy flynedd wedyn rhoddodd i fynu y swydd o Gofrestrydd Coleg y Gogledd, ac ymroddodd i astudio y gyfraith. Wedi ei alw i'r Bar bu yn Ddirprwywr i chwilio i niewn i hanes elusenau rhai o siroedd Cymru, ac ap- pwyntiwyd ef yn Ddadleuydd Parhaol (Standing Counsel) i'r Brifysgol. Ond torodd ei iechyd i lawr, ac er gofid i'w gydwladwyr bu raid iddo roddi i fynu bob gwaith. Cymerodd yr ang- ladd le ym Mangor dydd Iau. Caiff ei lwch orphwys yn ninas ei fachgendod, ac yn yr hon y gwnaeth waith a gedwir yn hir mewn cof.

SASSIWN Y GOGLEDD AC EGLWYSI…

[No title]

Advertising

- PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL