Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

MARWOLAETH Y CYNGHORWR DAVID…

News
Cite
Share

MARWOLAETH Y CYNGHORWR DAVID HUGHES. Gyda gofid yr ydym yn gorfod hysbysu dar- llenwyr y WELSHMAN am farwolaeth yr addfwyn David Hughes, 39, Baldwin Street, Llundain. Cafodd ei ddal gan gystudd dydd Iau, Tachwedd 9fed, ac er gwaethaf ymdrechion y meddygon, bu farw foreu Sadwrn, Tachwedd n eg. Gadaw- odd ^veddw a dwy ferch i alaru ar ei ol. Y mae un o'r merched yn wraig i Mr. Maengwyn Davies, R.A.M., a'r llall yn wraig i Mr. J. Owain Evans, chemist, Victoria. Yr oedd Mr. Hughes yn un o'r aelodau oedd yn cynrychioli St. Luke ar y Finsbury Borough Council o'r cychwyn, ac yn aelod ar y Vestry cyn i'r Council gael ei ffurfio. Yr oedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr y charities sydd yn perthyn i St. Luke, a bu yn ffyddlawn iawn i bob ymddiriedaeth a roddwyd iddo. Daeth y Maer a nifer o aelodau y Cynghor i'w hebrwng i'w fedd. Claddwyd ef dydd Mercher, Tachwedd I sfed, yn Abney Park, yn ngwydd torf o gyfeillion a pherthynasau ddaeth i ddangos eu cydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod. Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parch. T. Jones, City Road. Bu Mr. Hughes yn cario ymlaen fasnach lwyddianus fel llaethwr yn Baldwin Street am dros ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn ei farwol- aeth gwnaed bwlch mawr yn y teulu. Collodd Mrs. Hughes briod tyner, caredig, a gofalus, a chollodd y plant eu tad, a pha blant a gafodd well tad ? Gwnaed bwlch mawr yn Eglwys City Road. Yr oedd Mr. Hughes yn un o ymddiried- olwyr y capel o'r cychwyn, ac yn dal nifer o swyddau eraill, ac yn barod bob amser i wneyd unrhyw beth ag a fedrai er llwyddiant y deyrnas. Gwnaed bwlch mawr yn yr ardal lie yr oedd yn byw. Un o'r golygfeydd rhyfeddaf i mi oedd edrych ar y dyrfa oedd wedi ymgasglu i ymyl y ty ddydd yr angladd, yn cael ei gwneyd i fyny o wyr a gwragedd, a phobl ieuainc a phlant, a'r oil yn dangos arwyddion galar dwys ar ol cymydog caredig oedd wedi bod yn ymdroi yn eu plith am dros ddeng-mlynedd-ar-hugain. Y dydd a ddaw a ddengys pa faint o garedig- rwydd oedd llawer o'r rhai hyn wedi dderbyn oddiar ei law. Nawdd Duw fyddo dros y teulu yn eu trallod. Pregethir ei bregeth angladdol nos Sul, Rhagfyr 3ydd, yn City Road, gan y Parch. T. Jones.

Am Gymry Llundain.