Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. SON AM YMADAEL.-Mae ym mwriad Mr. L. H. Roberts, Canonbury, i ymadael a Llun- dain am yr Hen Wlad yn ystod yr haf nesaf. Bydd ei ymadawiad yn golled mawr i'r cylchoedd Methodistaidd yn y ddinas. GWEITHIWR SELOG.—Ni fu neb yn fwy selog dros ei enwad na Mr. Roberts, na gweithiwr caletach yn rhengoedd yr Hen Gorph yn Llun- dain. Tan ei gyfarwyddyd a'i gynorthwy y mae'r Cyfundeb wedi cynyddu yn ddirfawr yn y ddinas, ac yn sicr ar ei ymadawiad dylai ei edmygwyr gydnabod mewn modd teilwng ei wasanaeth a'i aberth cyson ar hyd y blynydd- oedd. COFFHAU WATCYN WYN.-Yng nghapel y Tabernacl dydd Sul diweddaf talodd Elfed deyrnged fechan o gofeb i'r'diweddar fardd o'r Gwynfryn, a chanwyd emynau o'i waith yn ystod yr holl wasanaeth. Rhyw ddwy flynedd yn ol bu Watcyn yn llanw'r pwlpud yn y lie pan ar ymweliad a'r Brifddinas. CINIAWAu.-Dyma dymhor y gwledda, a nos Fercher diweddaf rhoddwyd y cinio agoriadol ynglyn a'r Clwb Cymraeg. Rywfodd neu gilydd rhaid i bob mudiad yn Llundain gael ei ginio, ond y perygl yw i'r cyfan droi yn ddim byd chwaneg na chinio, fel y mae'r mudiad Cymru Fydd wedi mynd. Y CYMMRODORTON.-NosFawrth nesaf rhoddir y wledd arferol ynglyn a'r Gymdeithas anrhyd- eddusN hon, a disgwylir yr Arglwydd Faer Cymreig, ynghyda'r Siryddion ac eraill o wyr blaenaf y ddinas, i fod yn bresenol, a sicr y rhoddir iddynt groesaw calonog gan y rhai ddeuant ynghyd. ANRHYDEDDU'R PENCERDD.—Yn ychwanegol at giniawa y mae'r Cymmrodorion yn gwneyd gwaith rhagorol y flwyddyn hon drwy roddi teyrnged fechan o barch i Pencerdd Gwalia. Gwahoddir ef fel prif arwr y noson, ac yn sicr y mae'r hen delynor dyddan yn haeddu hyn ar ein rhan. 'Does neb wedi gwasanaethu ei genedl gyda mwy o ffyddlondeb na Mr. John Thomas, ac mae'r gwasanaeth hwnnw wedi bod yn ddidor am dros haner canrif. Fel telynor bydd cof am dano yn hir, ond fel cyfansoddwr bydd ei glod tra pery'r offeryn hwnnw gael ei ganu ar y ddaear. GWR GWYLAIDD a thawel yw'r Pencerdd wedi bod erioed, a phe wedi gwthio ei hun yn fwy i'r amlwg diau y byddai ei gydgenedl yn ei foli yn fwy, ond gan nas gwelir ef yn ein cyngherddau cyffredin mae'r to ieuanc megys heb gyfle i'w adnabod, ond gwyr y rhai a'i hadnabuant ef rhyw chwarter canrif yn ol faint o les a wnaeth i'n cerddoriaeth, a pha faint fu ei gynorthwy a'i gefnogaeth i'n cerddorion ieuainc pan y sefydlent yn y ddinas hon. Y FFOG.-Caed blaenbrawf o'r ymwelydd hwn ddechreu y wythnos o'r blaen, a bu am ddiwrnod neu ddau yn taenu ei fantell ddu dros fasnach y ddinas. Er ein mawr lawenydd cliriodd yr awyrgylch cyn diwedd y wythnos a daeth y ddinas i'w lie. Ond er ymadael a Llundain y mae erbyn hyn wedi cau dros ein gwleidyddwyr, ac ni wyr y Llywodraeth ble yn y byd y mae'n sefyll ar hyn o bryd. NODACHFA FAWR.-Bydd llawer o gyfeillion yr achos Bedyddiedig yn Little Alie Street yn llawenhau wrth ddeall i'r nodachfa a gaed yr wythnos ddiweddaf droi allan mor llwyddianus. Caed cynulliadau rhagorol yn ystod y tridiau y bu'r wyl yn agor, a gwerthwyd y nwyddau am brisiau da. Y mae'r brodyr i'w llongyfarch am weithio mor e-jniol, ac am sicrhau y fath elw ar derfyn yr wythnos. PARLITHIAU ELF ED.—Ar y 7ed o Rhagfyr y traddoddir yr olaf o ddarlithau Elfed ar Hanes Emynwyr ac Emynau Cymru, a deallwn fod ym mwriad y Prif-fardd ddod a chyfrol allan i roddi i'r genedl o ffrwyth ei ymchwiliadau yn y maes dyddorol hwn. Os gesyd haner y ffeithiau yn y gyfrol ag a' draethir ganddo yn ei ddarlithiau bydd yn llyfr gwerth ei ysgrifenu. Y FINSENT FFRAETH.- Wrth gadeirio yn narlith Elfed nos lau diweddaf caed araeth ragorol gan Mr. Vincent Evans, a chwynai yn ystod ei draethiad fod gormod o gyfarfodydd Cymraeg yn cael eu trefnu ar yr un noson. Y noson honno yr oedd tua wyth o leoedd lie yr hoffai fod yn bresenol, ac yn sicr dylid trefnu'r cynulliadau yn well na hyn. Y mae gohebydd dienw yn y Faner yn dweyd yr un peth," meddai, "ac yr wyf yn lied barod i gytuno ag ef yn hyn o fater, ond gwelaf fod gohebydd call y LONDON WELSHMAN yn cwyno mai rhy fach o gyf- arfodydd y sydd. Wrth gwrs," ychwanegai yn chwareus, edrycha y naill o safbwynt llenyddol a'r llall o safbwynt nifer yr advertisements!" Dyna un i Finsent, rhaid cydnabod. Y CYMMRODORION.—Yr wythnos ddiweddaf caed cwrdd blynyddol y Gymdeithas Anrhyd- eddus hon, a daeth nifer o'r aelodau ynghyd. Darllenodd yr ysgrifenydd, Mr. Vincent Evans, ei adroddiad blynyddol a dangosodd hon fod y Gymdeithas ar gynydd mewn dylanwad a rhif. Caed 45 o aelodau newyddion yn ystod y llynedd, ac yn eu plith Ardalydd Bute, Esgob Llandaff, Arglwydd Faer Caerdydd, Prifathro Bebb o Lanbedr, y Cyrnol Ivor Herbert, Cyrnol Thos. Philips ac eraill. AR Y CYNGOR.—Ail-etholwyd Arglwydd Tredegar yn llywydd, a phenodwyd Ardalydd Bute ac Esgob Llandaff yn is-lywyddion Ychwanegwyd yr Athro Lorimer Thomas o Goleg Llanbedr yn aelod gohebol, a gosodwyd Mr. J. T. Lewis ar y Cyngor i lanw'r bwlch a achoswyd yn marwolaeth Mr. Stephen Evans. GWAITH Y TYMHOR.—Mae rhaglen faith wedi ei threfnu am y tymhor, ac yn ychwanegol at amryw o lyfrau a gyhoeddir y mae'r ysgrifen- ydd wedi trefnu cael y darlithoedd a ganlyn (i), "Arian' bathol yr Hen Gymry,"gan P. C. Britton, Ysw., F.S.A., Llywydd Cymdeithas yr Arian Bathol; (2), "Walter Map," gan y Proffeswr W. Lewis Jones, Bangor; (3), Diw- ylliant Cymreig y canol oesoedd," gan y Parch/ G. Hartwell Jones, a (4), Seintiau Cymru," gan y Parch. J. Fisher, D.D., Cefn. Y NADOLIG.—Mae'r Nadolig wrth y drws, a phawb yn dechreu parotoi erbyn gofynion y tymhor a'r anrhegion blynyddol. I bawb sy'n dyheu am gyflenwad o nwyddau addas yn rhad nis gallant wneyd yn well na throi i fewn at ein cydwladwr, Mr. Evan Davies, draper, Edgware Road, a chant y fath amrywiaeth a fydd yn sicr o'u boddhau. CYNGHERDD Y TABERNACL.Caed cynulliad mawr, o dan lywyddiaeth y Cynghorwr T. H. W. Idris, yn y Tabernacl, nos Sadwrn diweddaf, i fwynhau gwledd o gerddoriaeth a drefnwyd o dan nawdd Cymdeithas Lenyddol y lie. Canwyd gan Misses Eleanor Felix a Margaret Lewys, Mri. Merlin Davies a'r poblogaidd David Hughes. Ar yr offeryn caed detholiad gan Miss Winnie Mathias, a chyfeiliwyd i'r cantorion gan organydd y lie, Mr. D. Richards. Y DDAU DDAFYDD.—Arwyry cyngherdd oedd y baritone o Dreforis ac organydd y Tabernacl. Cana Mr. D. Hughes mor gyfoethog ag erioed, ac yn sicr 'roedd pobl y Tabernacl yn ei werth- fawrogi gan y bu raid iddo ail ganu droion mewn rhaglen faith. Am fedr yr organydd, Mr. D. Richards (yr hwn sydd yn newydd i gantorion y ddinas) cafodd pawb eu synu a'u swyno hefyd. Dyma offerynwr a wnaiff ei fare yn y ddinas yn sicr, ac a ddaw yn anrhydedd i'w fam-wlad cyn pen ychydig flwyddi. CHARING CROSS ROAD.—Cynhaliwyd yn y He hwn nos Fercher,' Tachwedd 22ain, gyfarfod cystadleuol o dan nawdd y Gymdeithas Ddir- westol. Yn absenoldeb Mr. H. J. Williams, C.S.Ll., llanwyd y gadair gan Mr. Benjamin Evans. Gwobrwywyd y rhai canlynol :—Unawd i blant dan i4eg oed, What a Friend we have in Jesus," 1, Master Arthur Evans; 2, Miss Edwards. Darllen difyfyr, i, Mr. Tom Lloyd Roberts; 2, Mr. H. R. Williams. Unrhyw unawd i rai heb enill dros bum' swllt o wobr o'r blaen, cyfyngedig i Charing Cross, Miss Maggie Evans adroddiad dirwestol, Mr. P. D. Jones, King's Cross unawd (soprano neu denor), "Yr Hen Gerddor," Mr. P. D. Jones, King's Cross. Dyfarnwyd parti Wilton Square, yn oreu am ganu Y Delyn Aur." Y beirniad oeddynt:— Cerddoriaeth, Mr. Merlin Morgan; areitheg, Mr. Richard Thomas cyfeilydd, Mr. David Parry. Arweiniwyd y cyfarfod yn ddoniol a deheuig gan Mr. Tom Jenkins. Terfynwyd trwy ganu "Y Delyn Aur.R. YN YMADAEL.-Deallwn y gwelir amryw gyfnewidiadau yn y pwlpud Cymraeg yn Llun- dain cyn pen ychydig fisoedd. Y mae'r Parch. Garnon Owen ar roddi ei ofal bugeiliol i fynu

Advertising

Notes of the Week.