Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

MARWOLAETH Y PARCH. DAVID…

News
Cite
Share

MARWOLAETH Y PARCH. DAVID LLOYD JONES, M.A,, LLANDINAM. Wele un arall o gedrwydd mynydd Duw — un o gewri pulpud Cymru-wedi syrthio. Tarawyd y genedl a syndod pan dramwyodd y newydd dydd Iau yr wythnos ddiweddaf fod y Parch. D. Lloyd Jones, Llandinam, wedi ei gymeryd ymaith. Ni bu ond ychydig ddyddiau yn wael. Y dydd Gwener blaenorol pregethai mewn cyfarfod yn Llanfair Caereinion. a bernir mai wrth fynd adref oddiyno mewn modur y cafodd anwyd a brofodd yn angeuol ym mhen pum niwrnod. Nid oedd Mr. Lloyd Jones ond 63 mlwydd oed, a disgwylid fod iddo lawer o flynyddoedd i wasanaethu ei genedl. Disgynai y gwr parchedig ac anwyl hwn o deulu pregethwrol—hen deulu enwog Tany- castell, Dolwyddelen. Mab ieuangaf ydoedd i'r diweddar Barch. John Jones, Talysarn, a nai i'r Parchn. David Jones, Treborth, a William Jones, Cambria, America. Derbyniodd addysg dda yn ieuanc, a dechreuodd bregethu pan yn ddwy-ar- bymtheg oed. Yr oedd hynny yn 1859, blwyddyn y Diwygiad. Wedi treulio pedair blynedd yn Athrofa y Bala, aeth i Brifysgol Glasgow, a graddiodd yno, gan gymeryd safle anrhydeddus iawn yn yr arholiadau. Ordein- iwyd ef yn 1872, a bu am rai blynyddoedd yn gweinidogaethu yn Llanidloes. Ddeng mlynedd ar hugain yn ol ymsefydlodd yn Llandinam fel gweinidog yr eglwysi Seisnig yno ac yng Nghaer- sws, ac fel "Lloyd Jones, Llandinam," y daeth ei enw yn adnabyddus drwy Gymru grefyddol. Cododd i boblogrwydd mawr yn ieuanc, ac yr oedd yn feddianol ar ddawn arbenig Tany- castell. Odid y daeth neb o bregethwyr y Corff yn bregethwr Sasiwn mor ieuanc ag ef, a chadwodd y safle hyd y diwedd. Meddai feddwl cryf a threiddgar, a hwnnw wedi ei ddiwyllio yn rhagorol, ac yr oedd wedi ei fendithio a llais clir a melodaidd—llais llawn o deimlad, yn cyffwrdd tannau tyneraf calon. Cofir yn hir am lawer oedfa nerthol a gafodd. Rhoddodd ei gyfundeb iddo bob anrhydedd a feddai. Bu yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd, yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, ac yn Llywydd Cynhadledd yr Eglwysi Seisnig. Meddai farn addfed, ac yr oedd yn wr cadarn dros yr hyn a ystyriai yn iawn. Ond hawddgarwch ei ddynoliaeth a'i gwnaeth mor anwyl gan bawb a ddaeth i gyffyrdd- iad ag ef. Oddiallan i dduwinyddiaeth, hoff bwnc ei efrydiaeth ydoedd daeareg a hanesiaeth naturiol, ac ysgrifenodd yn gyson i'r Cymru a chyhoeddiadau eraill ar y pynciau hynny am flynyddoedd.

Advertising

MARWOLAETH WATCYN WYN.

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL

MARWOLAETH Y PARCH. DAVID…