Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

.;Y LLOFFT FACH; t

News
Cite
Share

Y LLOFFT FACH; t YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. lOan y Parch. D. RHAGFYR JONES, Treorci.] PENOD I. Y Llofft Fach yn traethu am dani ei him. Enw syml sydd arnaf, ac y mae fy nhrwsiad allanol a mewnol mor syml a hyny. Ond nid dyna fy hanes erioed; yr ydwyf wedi gweled dyddiau gwell. Nid oes un newidiad wedi bod ar fy enw. Llofft Fach oedd yr enw a dder- byniais gyntaf pan y daethum yn ffaith gyfan- soddedig o bedair gwa.1, to teils, a llawr estyll, cyn fod son am yr ychwanegiadau angenrheidiol a ddilynasant, megis y drws, a'r ffenestri, y ffyrmau, y cwpbwrdd, a'r ford. Ac wrth yr un enw diramant, difarddoniaeth, y'm hadwaenir hyd y dydd hwn. Yr wyf wedi gweled rhagor nag un genedlaeth yn myned heibio, ac wedi bod yn dyst o lawer trawsnewidiad mewn enwau fel pethau eraill-oblegid mae'r meibion yn dyfod yn lie y tadau y'myd yr enwau fel eiddo'r personau; ond ni feiddiodd yr un meddwl gwyllt na'r un tafod gwamal newid fy enw syml i am un enw arall dan yr haul, nac ychwaith ychwanegu ato na thynu oddiwrtho. Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon," a thyngedaf y cenedlaethau a ddaw ar iddo barhau felly cyhyd ag y bydd maen ar faen o honof heb ei ddatod. Ond dyna, yr wyf yn myn'd i ben yn awr Am fy nhrwsiad a'm diwyg, yn allanol a mewnol, yr oeddwn yn son pan yn dywedyd fy mod wedi gweled dyddiau gwell. Myfi a fum ieuanc, ac yr ydwyf yn hen." Yr wyf yn haner cant oed eleni, ac y mae haner canrif yn dweyd" nid ychydig ar adeilad o'm bath i. Nid wyf yn awr y peth a fum. Y pryd hwnw yr oedd golwg hardd a dymunol arnaf, braidd ormod ar yr ochr hono i siwtio syniadau cyn- tefig a chwaeth gynddiluwaidd hen fechgyn yr achos, y rhai a'm codasant. Gwnaethpwyd fy nyn oddiallan o'r defnyddiau goreu, yn ol barn gwlad: ceryg o "gwarr 'stad Aelgerth" ffurfient fy esgyrn, ac nid oedd eu rhagorach i'w cael—cymrwd gwneuthuredig o'r calch brasaf a'r blew garwaf gyfansoddai fy ngiau a'm gwaed-haenen drwchus neu ddwy o wyngalch drachefn dros y cwbl a'm gwnai mor groenlan ag un ferch ieuanc yn y wlad. Fel y dywedais, dechreuwyd fy ngalw yn Lloft Fach" o'r pryd hwnw allan, pan nad oedd genyf ond fy anelwig ddefnydd i gyfeirio ato. Yn raddol, crogwyd drws cadarn o dderi ar ymyl fy ngenau, yr hwn a brofai yn foddion amddiffyniad a chynesrwydd pan yn nghau, ac yn jiwbili pan yn agor, i'r praidd fel y bugail fyned i fewn ac allan drwyddo. Cefais bar o lygaid ar ffurf ffenestri na fu eu gwell, 'rwy'n siwr, gan Lofft Fach erioed; yr oedd eu ffram o'r un defnydd a'r drws, a'r gwydr oedd arnynt yn ddigon cryf i herio dirgryniadau canu mawl yr hen saint yn yr hwyliau mwyaf, er c'uwch a chrased ydoedd. A dyna oedd yn bwysig. Yr wyf yn meddwl i mi ddweyd ddarfod i mi gael to o deils yn gapan drosof—peth go newydd yn y dyddiau hyny; ac er fod y jeist yn y golwg, a'r distiau yn dangos eu danedd, tybiai Ifan o'r Hafod fod hyny yn welliant mawr, am fod y gweddiau a'r molianu yn cael full swing cyn cyraedd y nefoedd. A phrin y credaf y codai neb ei law yn erbyn IfaJt ar y pen yma. Yr oedd yn ofynol .hefyd fod lleithig fy nhraed" yn bwysau diogel, am y byddai y prawf arno weithiau yn aruthrol. Gwnaed ef i fyny o estyll hirion, cryfion, a thrwchus ac yr oedd y ceubyr a'u cynalient odditanodd o

[No title]

[No title]