Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DYLED CYMRU I YMNEILLDUAETH.

News
Cite
Share

DYLED CYMRU I YMNEILLDUAETH. Un diwrnod tesog yn yr haf, yn agos i ddau cant a phedwar-ugain mlynedd yn ol, yr oedd cwmni difyr wedi ymgynull mewn neuadd palas hardd yn sir Fynwy. 'Roedd scweier y plwyf newydd cldod i'w oedran, ac yr oedd wedi gyru neges o Lundain i'w hysbysu ei fod yn bwriadu dychwelyd i'w hen gartref ar y dydd a'r dydd, ac yn eu gwahodd i ddod i'r palas i'w roesawu'n ol. Ac felly yr oedd ugeiniau o'r plwyfolion yn neuadd y palas, yn bwyta ac yfed, yn dawnsio a chanu, mewn uchel hwyl yn disgwyl dyfodiad y boneddwr ieuanc. Ymhlith y cwmni llawen eisteddai dyn ieuanc glandeg. Dangosai ei wisg ei fod yn offeiriad ac er mor ieuanc ydoedd, efe oedd Ficer y Plwyf. Eto, efe oedd arweinycld y gan a'r ddawns a'r gyfeddach, efe oedd yn chwareu y crwth tra yr oedd y cwmni yn dawnsio neu yn canu,- ei ffraethebion ef yrrai y cwmni i chwerthin a chrechwen mewn gair, efe oedd calon a chanolbwynt y chwareu a'r rhialtwch i gyd. Fel yr oedd y cwmni'n canu "Glân Meddwdod Mwyn," neu ryw un arall o hen donau'r Cymry, tarawodd swn carnau march ar cu clustiau. Distawodd y grechwen am foment, a chlywid swn carnau'r march yn nes ac yn nes. Dyma'r scweier o'r diwedd," llefai'r Ficer ieuanc Hip, hip, hwre Hip, hip, hwie,"gwaeddai'r dorfgyda lleisiau byddarol. Cyn i'r banllefau ddistewi daeth y marchogwr i'r golwg. Nid y scweier ydoedd, ond un o'r gweision. Hawdd oedd canfod ei fod wedi march ogaeth ei geffyl yn greulon wyllt. Nid oedd braidd ddigon o nerth yn y creadur na'r dyn i sefyll yn syth. "B'le mae'r scweier P" gofynai'r Ficer. Ar ol eiliad, ebai'r gwas yn dorcalonus, Bu farw'n ddisymwth neithiwr yn Mryste." Syrthiodd distawrwydd y bedd ar y cwmni: teimlent fel pe bai awel o'r "glyn" yn chwythu drostynt. Ond ni theimlai neb o honynt mor angerddol a'r Ficer ieuanc. Fel pe wrth oleu fflachiad mellten, gwelodd, am y tro cyntaf, bwysigrwydd ac urddas a chyfrifol- deb bywyd arswydodd wrth ganfod agosrwydd amser a thragwyddoldeb: a chlywodd lais fel y clywodd Saul o Tarsus gynt, yn gofyn, Paham yr wyt yn fy erlid i ?" Cydiodd yn ei grwth, a thorodd ef yn chwilfriw ar y llawr. Gwaeddodd yn gyffrous, Yn nghanol ein bywyd yr ydym yn angeu!" Syrthiodd ar ei y n liniau, a'r cwmni brawychus gydag ef; a b gweddiodd am faddeuant, am gymorth, am ras i fyw'n well. Pan gododd oddiar ei liniau, nid William Wroth, Ficer Llanfaches, mohono mwyach, ond William Wroth, Apostol Piwritaniaeth yng Nghymru Mae'r darlun dynais yn nodweddiadol o hanes a dylanwad a gwaith Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Nid oedd genedl dan haul yn fwy di-ofal, yn fwy anystyriol, yn fwy digriflawen na hi. Fel y canodd Huw Morus, unig fardd mawr y cyfnod, Pan oeddw n i'n fachgen Mi welais fyd Hawen Cyn codi o'r genfigen flin filen yn fawr, I ddewis ffydd newydd Alladd yr hen lywydd Ac Arglwydd aflonydd yn flaenawr. Ie, ar un ystyr byd llawen oedd y byd Cym- reig cyn adeg y Diwygiad Piwritanaidd. Ond llawenydd oedd fel llawenydd gwledd Belsassar- llawenydd rhyfygus )n codi oddiar anystyriaeth, tra'r otdd y Haw yn ysgrifenu "Mene, Tecel" ar y pared llawenydd fel llawenydd y cwmni hwnnw yn y bad yn prysur lithro dros ddibyn y Niagara. Gadewch i ni am foment roddi cipdrem frysiog dros fywyd a safle gymdeithasol Cymru ar y pryd, a threiwn ddyfynu yn unig o weith- iau awduron ac ysgrifenwyr cyfoesol i. Yr oedd y Bywyd Cenedlaethol ar ddarfod am dano. Yr oedd y Gymraeg ar drengu. Nid oedd nemawr i fardd na lienor yn ei defnyddio. Yn Saesneg y canai George Herbert a Vaughan y Siluriad; yn Saesneg yr ysgrifenai James Howell ac Arglwydd Herbert o Cherbury ar Loegr yr oedd llygaid pob Cymro uchelgeisiol fel yr Archesgob Williams. Nid oedd un Cymro'n meddwl fod ganddo ddyledswydd tuagat ei wlad a'i genedl ei hun. Yr oedd yr Eisteddfod wedi marw o nychdod nid oedd argraffwasg tufewn i gyffiniau'r tir yr oedd mwy o lyfrau Lladin wedi eu hysgrifenu am Gymru nag o lyfrau Cymraeg. Huw Morus ac Edward Morus oedd yr unig feirddion, braidd, yn y tir; ac nid oeddynt hwythau yn y radd flaenaf. Nid rhyfedd felly fod y Gymraeg yn darfod ac yn diffodd. Nid oes eisieu ond darllen Canwyll y Cymru" er mwyn gweled i ba gyflwr isel yr oedd yr hen iaith wedi syrthio. 'Roedd Die Sion Dafyddion yn frith yn y wlad. Dyma ddywedai cyfieithydd Madruddyn o'r Dduwinyddiaeth Ddiweddaraf" (1651) Eithr o holl wledydd y byd nid oes un genedl mor ddigariad a mor elyniaethus i'w hiaith ei hunan ag yw'r Cymry, er bod ein hiaiih ni yn haeddu cymaint o barch oherwydd ei henaint a'i chyfoethogiwydd ag yr liaeddai'r ieithoedd ereill; cmys fal y gwelwn ni beunydd, hwy nac yr elo Cymro neu Gymraes i Lundain neu i Gaer- loyw neu i un man arall o Loegr, a dyscu rhyw ychydig o Saesneg, hwy a wadant eu gwlad a'u hiaith eu hunain. Ac o'r Cymry cartrefol, ie, ymhlith y pendefigion ysgol- heigaidd, ie, ym mysc y Dysgawdwyr Eglwysig, braidd un o bymtheg a fedr ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg. Ac o'r achos hwn y mae fod llyfrau Cymraeg mor ymhell (canys ni welais i erioed uwch pump llyfr Cymraeg preintiedig). ii. Nid oedd Addysg yn y Wlad. Cyn amser Harri'r VIII. bu'r mynachlogydd yn ysgolion rhad;" ond yr oedd y rhain wedi eu distrywio a'u cyfoeth wedi ei anrheithio gan fonedd a phendefigion Cymru. Disgynyddion i'r gwyr hyn yw pobl fel Miss Talbot o Fargam, a Mr. Price, Rhiwlas-sy'n siarad mor gryf yn erbyn Dadgysylltiad yr Eglwys heddyw. Dim ond chwech ysgol oedd; sef Rhuthyn, Bangor, Caerfyrddin, Pontfaen, Mynwy, ac Aberhonddu. Nid oedd ysgolion elfenol o gwbl; a dyma fel y ceisiai'r Hen Ficer wneyd y diffyg hwn i fyny Os goludog wyt heb eppil, Ac yn caru Crist a'i 'fengyl; Adail ysgol rydd yng 'Hymru, Lie mae eisieu dysg sy'n pallu. On.) nid oedd neb a digon o ras yn ei galon a gwel'd yn ei lygad i wneyd—ond yr Hen Ficer ei hun. Pa ryfedd, ynte, fod y bobl yn anwybodus, yn ofergoelus, anllythrenog, ac yn anfoesol ? Yn ei ddull cartrefol ei hun desgrifia'r Hen Ficer gyflwr y wlad Pob merch tincer gyda'r Saeson Feder ddarllen llytrau mawrion Ni wyr merched llawer scweier Gyda ninau ddarllen pader. iii. Yr oedd Crefydd yn gwywo a Phaganiaeth yn ben. Nid rhyfedd, pan nad oedd na dysg na moes yn y wlad, fod y bobl, ys dywedai Dewi Wyn, nid yn unig yn mochyneiddio eu cyrff, ond yn cythreuleiddio eu heneidiau, nes oeddynt yn genfeintiau gorphwyllog yn ymruthro dros ddi- bynau dinystr i ddyfnderoedd pob math odrueni." Byd du iawn oedd byd llawen Huw Morus, wedi'r cyfan. Dyma ddywedai awdwr Carwr y Cymry" (1631) am y wlad Ie, rhoddwch genad i mi, fy mrodyr anwyl, i ddy- wedyd wrthych (y peth sydd ddrwg genyf orfod ei ddweyd) y y^llir cael ym mhob un o esgobaethau Cymru ddeugain neu 60 o eglwysi heb un gwasanaeth ynddynt ar y Suliau hirddydd haf, pan fo sychaf y ffyrdd a chlaiaraf yr hin. Yn ol tystiolaeth yr ysgrifenydd hwn, yr oedd yn agos i chwarter o Gymru yn hollol baganaidd Ac y mae'r Hen Ficer yn dweyd pethau yr un mor enbydus, Dyma ychydig ddyfyniadau. Mae'r ffeirad a'r ffarmwr, Mae'r hwsmon a'r crefftwr, Mae'r baili a'r barnwr, A'r bonedd o'r bron, Bob un am y cynta' Yn digio'r Gorucha', Heb wybod p'un waetha'u harferion. Mae'r ffeirad yn loitran, A'r barnwr yn breiban, Ma'r bonedd vn tiplan 0 dafarn i dwlc Mae hwsmon oedd echdo Heb fedru cwmpnio, Yn smoco tobacco yn ddidwlc. -(W. LLEWELLYN WILLIAMS, M.A., yn Y Geninen).

WELSH DIALECT

LLYFR DYDDOROL.

.IIWelshmen Known in London.—V.…