Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

.HWFA MON YN EI FEDD.-

News
Cite
Share

HWFA MON YN EI FEDD. GYDA phrudd-der agalar y derbyniasom y newydd dydd Gwener am farwolaeth Hwfa Mon, yr hyn gymerodd Ie y bore hwnnw yn Llys Hwfa," ei breswylfod yn y • Rhyl. Yr oedd wedi llesghau ers rhai mis- oedd, ond ryw ddeufis yn ol cymerwyd ef yn bur wael, a buwyd yn ofni y gwaethaf yn feunyddiol am rai dyddiau. Ymddangosai yn gwella drachefn, a disgwyhd weithiau yr arbedid ei einioes am beth amser. Ond siomedig y trodd y disgwyliadau hynny. Gwaethygodd eilwaith ganolyr wythnos ddi- weddaf, a daeth y diwedd braidd yn sydyn ar yr adeg a nodwyd. Nid oes eisieu dweyd mai Monwyson ydoedd y mae ei enw barddonol-ac wrth hwnnw ynfwy nag wrth ei enw priodol yr adwaenid ef-yn dangos hynny. Yn Nhref- draeth y ganed ef, ond nid oes gwybodaeth sicr pa flwyddyn. Yn ol un adroddiad 82 oed ydoedd, os felly 1823 oedd blwyddyn ei enedigaeth. Ond yn ol adroddiad arall yr oedd yn 86, ac felly rhaid ei fod wedi ei eni yn 1819. Pan oedd ef yn saith mlwydd oed symudodd ei rieni i fyw i Rostrehwfa, yn agos i Langefni. Codwyd Rowland Williams, fel yr adwaenid ef yr adeg honno, i bregethu yn Eglwys Annibynol Smyrna rywbryd yh y pedwerydd degaid o'r ganrif o'r blaen. Bu yn efrydydd yn Athrofa y Bala, ac arderfyn ei dymhor yno ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth ym Magillt yn 1851. Ym mhen pedair blynedd symudodd i Brymbo, ac yn 1862 symudodd eilwaith i: Fethesda, yn Arfon. Yn 1867 gadawodd Bethesda am Liindain i weinidogaethu i'r eglwys yn Fetter Lane, yr eglwys sydd yn awr yn y Tabernacl, King's Cross. Bu yn Llundain am bedair-blynedd- ar-ddeg, ac y mae eto liaws yn aros ymysg Cymry y ddinas sydd yn cofio am dano.: Yn 1881 symudodd o Lundain i Lanerchymedd, ac yn 1887 i Langollen, lie yr arosodd hyd 1895, pryd yr ymneillduodd o ofalon eg- lwysig, ac yr aeth i breswylio i'r RhyL Fel pregethwr ennillodd iddo ei hun safle uchel5 ymhlith pregethwyr ei genedl. Meddai ar neillduolion nad oeddynt yn eiddo neb arall. Ni cheisiodd efelychu neb, mewn nallais, nac arddull, nac ystum, ond gadawodd i'w anian- awd naturiol ei hun gael pob chwareu teg. Cyrhaeddodd boblogrwydd mawr, ac am lawer blwyddyn bu yn amlwg iawn ar lwyfanau y cymanfaoedd a'r uchelwyliau. Ac yr oedd yn llawn mor boblogaidd, os nad yn fwy, fel darlithydd. Anhawdd cyfrif pa sawl gwaith y traddododd ei ddarlithiau ar Y Dyn Ieuanc," "Coron Bywyd," Meibion Llafur," "Gwilym Hiraethog," a Thros y Don." Yr oedd ei bregethau a'i ddarlithiau yn feithion a llafur- fawr iawn. Drwy y nodweddion arbenig a berthynai i'w athrylith llwyddai i'w traddodi heb iddynt odid un amser fyn'd yn feichus i liaws ei wrandawyr. Eithr gan nad faint o enwogrwydd a ennill- odd Hwfa Mon fel pregethwr a darlithydd, fel bardd ac Eisteddfodwr yn ddiau yr ed- rychid arno gan genedl y Cymry yn gyffredinol. Yr Archdderwydd HWFA MON. Bryd y dechreuodd ef a'r awen gydgyfrin- achu nis gwyddom, ond yr oedd yn ddigon adnabyddus fel bardd i dderbyn urdd yn Eisteddfod Aberffraw yn r849-yr Eistedd- fod yn yr hon y gwnaed y fath gamwri ynglyn a'r gadair. Yn yr Eisteddfod honno hefyd ennillodd wobr am englyn i un o'r llywydd- ion. Er iddo gario amryw wobrwyon eis- teddfodol yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn 1855 y cafodd ei gadair gyntaf yn Llanfair- Talhaiarn, am awdl ar Waredigaeth Israel o'r Aipht." Yr un flwyddyn mewn Eistedd- fod yn Llanfachraeth, Mon, dyfarnwyd iddo gadair arall am awdl ar Y Bardd." Yn 1862 ennillodd y gadair yn Eisteddfod Gen- edlaethol Caernarfon am awdl ar Y Flwyddyn." Yn 1873 cafodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Wyddgrug am awdl ar "Garadog yn Rhufain," ac yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead yn 1879 am awdl Rhagluniaeth." Yn ychwanegol ennillodd y goron yn Eisteddfod Genedl- aethol Caerfyrddin yn 1867 am arwrgerdd ar Owain Glyndwr," a'r un flwyddyn cafodd gadair yn Eisteddfod Castellnedd am awdl goffadwriaethol i Alaw Goch." Gwelir iddo ennill un goron a chwe' chadair-tair o rai cenedlaethol, a thair o rai talaothol. Cy- hoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth, y rhai a gawsant gylchdaeniad helaeth. Nid cystadleuydd a chipiwr gwobrau a chadeiriau yn unig yn yr Eisteddfod oedd Hwfa Mon. Bu drwy ei oes yn ffyddlon iawn i'r hen sefydliad, ac ers llawer o flyn- yddau edrychid arno fel un o'i phrif gol- ofnau. Gwasanaethodd yn amlach na neb arall o'i gydoeswyr fel beirniad a chanolwr, ac eithriad fyddai i neb wrthryfela, yn gyhoeddus beth bynag, yn erbyn ei ddyfarn- iadau. Am flynyddoedd lawer ni ystyrid yr Eisteddfod yn iawn heb araeth gan Hwfa Mon, a chredwn mai yn yr areithiau hynny y clywid ef ar ei uchelfanau. Yr oedd ei lais mor hyglyw a nerthol, a'i gynghaniad mor groew, fel y medrai y rhai pellaf yn y torfeydd ei glywed yn ddidrafferth heb glust- feinio, ac yr oedd brwdfrydedd ei ysbryd Cymreig ac ehediadau ei feddwl a'i ddy- chymyg yn taflu hwyl a gwres llosgedig i bob calon. Credai yn gryf yng Ngorsedd y Beirdd a'i defodau, ac yr oedd yn fwy yn ei elfen ar ben y Maen Llog nag hyd yn nod ar y llwyfan Eisteddfodo!. Pan ad-drefn- wyd yr Orsedd, ac y ffurfiwyd rheolau iddi yn 1888, dewiswyd Clwydfardd yn Arch- derwydd, a Hwfa Mon yn Fardd yr Orsedd; ondyroeddhenaint a llesgedd Clwydfardd yn peri mai ar ysgwyddau Hwfa y; disgynai pwys y gwaith, ac ar farwolaeth Clwydfardd yn 1895 etholwyd Hwfa Mon gydag unfryd- edd mawr i fod yn olynydd iddo. Arhaid addef mai o dan ei deyrnasiad ef y cyrhaedd- odd yr Orsedd ei rhwysg a'i phoblogrwydd mwyaf o lawer iawn. Cafodd y beirdd,urdd- wisgoedd, a Iluniodd y Proffeswr Herkomer wisg arbenig i'r Archdderwydd, gyda brod- waith aur, a choron addurnedig o bleth- dorchau derw. Yny wisg ;hon edrychai I Hwfa yn dra urddasol, a chyflawnai ddefodau y "cylch cyfrin" gyda difrifoldeb a wnai hyd yn nod i'r rhai a'i hystyrient yn baganaidd deimlo eu bod yn meddu swyn a dylanwad. Yr oedd ei ymddangosiad ar y maen mor dywysogaidd a phatriarchaidd, ei edrychiad