Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. > YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.° a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys Dewi Sant, Paddington- 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road— 11.0, 3.0, a 6 30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road— 11.0 a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow— 11.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45 a 6.45, Parch. J. E. Davies. Charing Cross Rd. 10.45, Parch. G. H. Havard, Af A 6.30, P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Parch. P. H. Griffiths. 6.30, Parch. G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45, Supply Lewisham. _T.1 6.30, S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0 a 6.30, Cyfarfod Pregethu Blvn- yddol, Parchn. T. C. Williams, Menai Bridge a D. A. Jones, Llangeitho. Shirland Road 10.45, Supply Willesden Green Holloway 10.30, Parch. LI. Edwards, M A. 6.30, „ R. O. Williams. Hammersmith 11.0 a 6.30, Parcn. F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0, Supply Walham Green. 6.30, Parch. J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0, Parch. Davies, Penuwch. „ 6-30, J. Jones, Barry Dock. Walham Green 11.o, Parch. J. Wilson Roberts. Willesden Green 11.0, Supply Shirland Road Lewisham 11.0, Parch. S. E. Prytherch. Tottenham 11.0, Parch. T. IIuws-Davies, B.Sc. 6.30, J. Garnon. Owen. Walthamstow 11.o, Parch. R O. Williams. „T 6.30, LI. Edwards, M.A. Wood Green 11.0, Parch. J. Garnon Owen. 6.30, T. Huws-Davies, B.Sc, YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross— 11.0, Parch. J. Machreth Rees. 6.30, D. M, Davies, Ceinewydd. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0, Parch. LI. Bowyer. 6.30, >» D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0, Parch. D. M. Davies, Ceinewydd. 6.30, Mr. J. Cynddydd Davies. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0, Parch. D. C. Jones. 6.30, )> Ll. Bowyer. East I-lam, Sibley Grove- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, B.A. Woolwich, Parson's Hill— 11 o a 6.30, Mr. H. T. Barker. Battersea Rise- 11.0, Mr. J. Cynddydd Davies. 6.30, Parch. J. Machreth Rees. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11-0 a 6.30, Mr Llwchwr Jones, Coleg Bangor. Little Alie Street, Aldgate- 11.° a 6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham—11.0 a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sal. Y WESLEYAID. City Road- 11.0, Parch. T. Jones. 6.30, Mr. E. Evans. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.— 11.0 a 6.30, Cyfarfod Pregethu Blyii)-ddol, Parchn. D. Tecwyn Evans, B.A., Llan- ddulas, a F. Knoyle, B.A. Poplar, Duff Street- 3.0 a 6.30, Mr. D. N. Evans.
Y DYFODOL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y DYFODOL Tnnc: Tach. 11, iz, a 13. Cyfarfod Pregethu Blynyddol, Mile End Road. Parchn. T. C. Williams, Menai Bridge a D. A. Jones, Llangeitho. 12 a 13. Cyfarfod Iregethu y Gothic Hall, Parch. D. Tecwyn Evans, B A., Llanddulas. „ 16. Cyfarfod 1 e Blynyddol Radnor Street. „ 16. Cyngherdd Blynyddol y Gothic Hall. 22. Cyfarfod Cystadleuol Capel Charing Cross- Road. 23. Paper, 'Morganwg in Tudor Times." D. Brynmor Jones, M.P., Criterion, Picca- dilly. „ 23. Cyngherdd Blynyddol yn Shirland Road. jj 23. Cyngherdd Blynyddol Eglwys St. Padarn, Holloway, yn y Queen's Hall, Langham Place, W. „ 23, 24, a 25. Eglwys y Bedyddwyr, Little Alie Street, Sale ot Work yn Castle Street. 25. Cyngherdd Mawreddog yn y Tabernacl Cymreig, King's Co ass, 3°. Eisteddfod Flynyddol Hammersmith, Town. Hall, Hammersmith
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
hun trwy sicrhau y Prifathro i fod yn llywydd ar weithrediadau y Cyngor. Un o wyr goreu ein cenedl heddyw yw'r Athro Rhys, a theilwng yw ei fod yn ben ar ein prif Gymdeithas len- yddol ac hanesyddol. DIFYRWCH."—Dyna yw testyn darlith a dra- ddodir un o'r nosweithiau nesaf yma yng Nghapel Wilton Square, gan y Parch. H. Barrow Williams. Testyn eithaf amserol yw'r testyn, a cheir digon o ddefnydd i ddarlith o'r fath yn y llawdeni sydd wedi eu gwasgar er hysbysu yr amgylchiad. Dywedant fod "yr elw i myned at gwasanaeth &c. Mae'n eglur fod Y Cyrn- deithas Ddiwylliadol" ynglyn a'r lie wedi troi yn Seisnigaidd iawn, ond gobeithio nad aiff yn destyn difyrwch i ni yn y ddinas. YSGOL HARROW.—Cwyna Un o'r Gogledd fod y Bedyddwyr yn ddiofal iawn ynglyn a'r ysgol hon, ac yn gadael i'r astell hysbysiadol tuallan i'r lie ddweyd y cynhelir ysgol yno, tra mewn gwirionedd y cedwir y lie yng nghau. Aeth ef a chyfaill yno ddwywaith gan fwriadu ymuno a'r lie, ond drws do a gawsant bob tro er iddynt fyned yno ar yr oriau y dywedai yr hysbysiad y byddai'r lie yn cael ei agor. Pwy sydd yn atebol am hyn ? GWENEVERE. Y ddrama Gymraeg fydd yn cael y sylw blaenaf yr wythnos nesaf. Dechreuir ar y gyfres nos Lun, a pharheir bob noson hyd y Sadwrn. Ar ddydd Sadwrn rhoddir per- fformiad yn y prydnawn am 2.30 yn ogystal ag yn yr hwyr. Gan mai Mri. Vincent Thomas ac Ernest Rhys yw'r ddau awdwr, hyderwn y rhoddir iddynt y gefnogaeth haeddianol gan eu cydwladwyr yn y ddinas. CORONET THEATRE.—Dyma lie y chwareuir y ddrama Gymraeg yr wythnos nesaf. Saif y chwareudy hwn mewn man hynod gyfleus, a gellir yn hawdd ei gyrhaedd o bob cwr o'r ddinas. Y mae'r "Metropolitan and District Railway yn ogystal a'r Twopenny Tube a'u gorsafoedd, Notting Hill Gate, wrth ddrws y lie. Rhedygwahanol'"busses "yno o bob cyfeir- iad, fel na fydd eisieu i neb bryderu na fydd y cyfleusterau teithio yn ddigon at eu gwasanaeth. Yn ol pob argoelion ceir cynulliadau tra bodd- haol yno hefyd. CHARING CRoss.-N os Fercher, Tachwedd iaf, o dan lywyddiaeth y Parch. P. H. Griffiths, cafwyd cyfarfod rhagorol gan gangen y merched o'r Gymdeithas Ddirwestol yn Charing Cross Road. Er fod y tywydd yn anffafriol daeth nifer dda ynghyd i wrando araeth gampus Mr. Williams, Heol-y-Castell, ar Ddirwest." Siarad- wyd ym mhellach gan y cadeirydd, Mr. Tom Jenkins, a Dr. Rowlands. Hefyd, canwycl yn ystod y cyfarfod gan Miss May Morris. CVNGHERDD.-N os Iau, Tachwedd 2il, yng Nghapel Stratford, cynhaliwyd cyfarfod dir- westol amrywiaethol o dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Merched y lie. Cymerwyd rhan ynddo mewn canu, adrodd, ac areithio, gan amryw o frodyr a chwiorydd ieuainc. Ar ddi- wedd y cyfarfod mwynhawyd cwpanaid o de, ac ardystiodd amryw y llyfr dirwestol. JEWIN NEWYDD.'—Da genym hysbysu fod tymhor y Gymdeithas Ddiwylliadol yn y lie uchod wedi agor yn addawol dros ben, ac y mae gweithgarwch mawr j'w ganfod yn ei holl weithrediadau o'r dechreu. Un o'r rhai rnwyaf llwyddianus o honynt oedd y cyfarfod gymerodd le nos Fawrth, Hydref 31am. Cyfarfod o nod- wedd amrywiaethol ydoedd hwn, ac yr oedd Miss Grace Joel a Mr. Richard Joel yn garedig iawn wedi darparu cyflawnder o ddanteithion i ddiwallu anghenion y corph yn ogystal a'r cyngherdd. Cadeiriwyd gan Mr. David Edwards, a chafwyd cancuon swynol gan Miss Florence Jenkins, Mr. J. Tudor Evans, Mr. W. Hughes- Jones a Llew Caron a gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Jenny Jones, Minafon. Dyddorol iawn oedd y gystadleuaeth am yr araeth ddifyfyr oreu ar Fod dau yn well nag un," a dyfarnodd y gynulleidfa y wobr i Mr. E T. Williams. BARRETT'S GROVE.—Breintiwyd Cymdeithas Ddiwylliadol yr eglwys hon, y noson o'r blaen, ag ymweliad oddiwrth y Parch. J. Machreth Rees gyda'i ddarlith boblogaidd ar "Gwilym Hiraethog." Daeth cynulliad da o'r aelodau ac eraill ynghyd, a chaed amser adeiladol a dymunol wrth wrando y ddarlith odidog ar y gwr mwyaf athrylithgar gynnyrchodd Cymru y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. Yr oedd y Parch. O. Thomas, M.A., yn y gadair. Talwyd diolch i'r darlithydd a'r cadeirydd gan y brodyr yn y lie. 0 gael cyfarfodydd fel hyn daw llewyrch eto ar Gymdeithas Ddiwylliadol Barrett's Grove. CLIRIO'R DDYLED.-Mae'r brodyr yn Barrett's Grove wedi llwyddo o'r diwedd i gael terfyn ar y ddyled fu ar y capel cyhyd. Yr wythnos ddiweddaf addawodd Cronfa'r Annibynwyr tua Z70 er cwblhau y swm oedd yn eisieu er ei wneyd yn ddiddyled. Y maent i'w llongyfarch ar y rhagolygon am dymhor hapus ynglyn a'r eglwys o hyn i maes. YMADAWIAD ALFRED.—Daw'r newydd fod Mr. Alfred Davies, A.S., Hampstead, ar fin ymddiswyddo o'i ofalon seneddol. Mae Mr. Davies wedi bod yn lied wael ei iechyd yn ddiweddar, a hysbysa ei feddyg y bydd raid iddo osgoi pob caledwaith am dymhor. Bydd ei ymddiswyddiad yn gwneyd ffordd Mr. Llewelyn Williams yn fwy clir yn mwrdeisdrefi Llanelli a Chaerfyrddin, a diau y bydd hyn yn ben ar yr helynt anffodus presenol. FULHAM.—Ynglyn a Chapel Walham Green caed cyngherdd tra boddhaol yn Neuadd Drefol Fulham, nos Iau yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd rhaglen ragorol wedi ei pharotoi, a rhestr benigamp o gantorion i ymddangos yn y lie, a gwnaeth yr oil eu rhan yn hynod o foddhaol. Yr oedd Miss Maggie Davies a Mrs. Timothy Davies yn cynrychioli y merched, a Mri. Tom Thomas ac Ivor Foster fechgyn y gan; tra cefnogwyd y rhai hyn yn ddeheuig iawn gan Gor Merched y Kymric, o dan arweiniad Mrs. Frances Rees Rowlands, a bu raid i'r oil ail- ganu droion. Da genym ddeall i'r cwrdd hefyd droi allan yn llwyddiant mawr yn yr ystyr arianol. RADNOR STREET.—Y mae y Gymdeithas Ddiwylliadol ynglyn a'r eglwys uchod yn dechreu ei thymhor eleni yn llawn mor lewyrchus ag un tymhor yn y gorphenol. Nos Lun, Hydref 3oain, darllenwyd papyr hynod ddyddorol gan Miss Gweiilllaii. Williams ar "A Ramble in New York." Cafodd Miss Williams y fantais o fyw am gyfnod ym Mhrif- ddinas y lands, a gwnaeth y goreu o'r cyfle i edrych o'i hamgylch. Nos Lun diweddaf cafwyd darlith gan y Parch. D. C. Jones, y Boro', ar Dr. Barnardo." Yr oedd y ddarlith hon yn gwneyd lies i ben a chalon, a dangosai y cynulliad lliosog a ddaethai ynghyd ei fod yn ei mawr werthfawrogi. CLAPHAM JUNCTION.—Nos Fercher, Plydref 25am, cynaliwyd e;n te a chyngherdd blynyddol, a chafwyd cyfarfod llwyddianus o dan arweiniad Mr. P. Meredith, Clapham Common, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. O. T. Williams. Yr oedd y pwyllgor wedi bod yn ffortunus i gael gwasan- aeth rhai o brif gantorion y Brifddinas. Yr oedd Miss Alice Meredith, Miss Gwladys Roberts, R.A.M., Mr. Walter Clyde, a Mr. Ivor Foster, R.C.M., ynghyda Mr. Montagu C. Butler, y telynor, yn bresenol, a chafwyd dat- ganiadau ardderchog ganddynt. Bu y chwiorydd wrthi yn ddyfal yn parotoi toraeth odea theisen cyn y cyngherdd. HAELONI.- Y mae y gwr enwog o Landinam, Mr. David Davies, wedi cynyg i eglwys Beau- champ Road, Clapham Junction, £roo ar y telerau y casgla yr aelodau £200 o hyn hyd ddiwedd y flwyddyn er mwyn lleihau y ddyled o £4,000 sydd yn aros ar y capel.