Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. YR ARGLWYDD FAER.—Wele Gymro eto yn ben ar brifddinas y byd am un flwyddyn. GYDA'R CYMRY.—Yn ngwyl flynyddol y Cymmrodorion, daw'r Maer Cymreig, ynghyda'r aelodau blaenllaw o'r Cyngor Dinesig, i dreulio noson lawen yng nghwmni pobl yr Hen Wlad. CLWB ARALL.-Mae pobl Capel Charing Cross wedi deall beth yw gwir angen pobl ieuainc y lie. Maent wedi agor rhai ystafelloedd ynglyn a'r capel yn ddarllenfa ac ymgomfan. Dyma'r fath glwb ag sydd arnom ni eisieu ym mysg yr ieuenctyd. Y CLWB.—Tra'n son am glwb, mae'n werth sylwi i aelodau y Clwb Cymreig gynhal cyfarfod yr wythnos hon. Mater penaf y cyfarfod oedd derbyn adroddiad y pwyllgor a addawodd ddwyn y cyfryw cyn agor y sefydliad. DIM RHEOLAETH.—Mae'n ymddangos nad oes ond ychydig sylw yn cael ei dalu i farn y Cymry cyffredin am y clwb hwn. Y mae pob mater ynglyn a'i reolaeth wedi ei drefnu ym mlaen llaw, a rhaid derbyn y trefniant neu ymadael a'r sefydliad. Ychydig o le i'r ysbryd gwerinol a geir mewn sefydliad o'r fath. Y CVMDEITH-\S\u.Mae'r Cymdeithasau Diwylliadol mewn llawn gwaith ar hyn o bryd a llawer mwy o frwdfrydedd i'w ganfod eleni nag a welwyd yn y blynyddoedd o'r blaen. 0 zD dipyn i beth mae'r bobl ieuainc yn dechreu dihuno i'w mantcision ynglyn a'r cynulliadau dylanwadol hyn. DARLITHIAU AR EMYNAU.—Y gyfres fwyaf ia ddyddorol ar bwnc Cymreig y dydaiau hyn yw'r gyfres o ddarlithiau a draddodir gan Elfed ar Hanes Emynau ac Emynwyr Cymru" yn Nghapel y Tabernacl bob nos lau. Daw cynull- iadau mawrion i wrando arnynt a rhoddir cefn- ogaeth sylweddol i'r amcan ynglyn a hwy. Dyma ddull y to ieuainc ynglyn a'r Gymdeithas Ddiwylliadol o godi cronfa at leihau dyled y capel, ac er na chodir ond chwe' cheiniog y ddarlith deallwn fod swm boddhaol eisoes wedi dod i law. YN Y GADAIR.—Daw rhai o wyr ieuainc blaenllaw y ddinas i lanw'r gadair lywyddol i'r gyfres. Yn y ddarlith gyntaf liywyddai Mr. John Hinds, Blackheath. Yr ail noson bu'r meddyg llygaid enwog, Dr. Tom Phillips, Harley Street, yn adrodd ei adgofion mebyd am Elfed, a nos Iau cyn y diweddaf daeth Mr. P. W. Williams, Earl's Court, i'w gadw o fewn terfynau. Bechgyn gweithgar yw y rhai'n oil, ac y maent yn cymeryd rhan bwysig ynglyn a'r gwahanol achosion crefyddol yn ein plith. MARWOLAETH.—Dydd Llun diweddaf daear- wyd un o hen bererinion y cylchoedd Cym- reig, yn Abney Park Cemetery. Yng Nghapel y Tabernacl 'doedd neb hoffusach na ffyddlon- ach ar hyd y blynyddoedd na'r hen flaenor David Richards, Westminster, ond torwyd ef i lawr ar fyr rybudd yn llawn dyddiau o ran nifer blynyddoedd, ond yn ei ieuengrwydd o ran ysbryd a meddwl. Rhyw dridiau y bu raid iddo aros yn ei dy cyn cael ei alw adref, ac mae llu o edmygwyr a pherthynasau mewn hiraeth a dwys alar ar ei ol. CYMRU FYDD.—Gan fod Cymdeithas Cymru Fydd wedi marw y mae rhai pobl yn credu ei fod yn arwydd sicr fod yr etholiad cyffredinol wrth y drwF. Rywfodd neu gilydd y mae'r Gymdeithas wedi syrthio ar ddyddiau blin, a diau ar ol cael etholiad cyffredinol y ceir digon o wroldeb yn yr aelodau i ddod ynghyd i gael ciniaw, os llwyddant i gael rhyw sparbil o Sais i gymeryd y gadair. Y BRYTHONWYR.—Addawa'r Gymdeithas hon agor ei drysau yn fuan er cael dadleu rhai mater- ion cenedlaethol cyn y Nadolig. Gobeithio, er hyny, nad eir i drin materion rhy drymaidd, onide fe ddaw'r diffyg traul ar yr aelodau cyn cael pwdin y Nadolig. Mae amryw o ddarlith- wyr eisoes wedi addaw eu presenoldeb. Y PRIFATHRo.-Da genym weled fod Cym- deithas y Cymmrodorion wedi anrhydeddu ei

Advertising

Notes of the Week.