Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. FEL y canlyn y desgrifiai ymfflamychwr yng Nghaerdydd ddyn twyllodrus y dydd o'r blaen "Fe gura eich cefn yn eich wyneb, ac fe'ch tery yn eich wyneb y tu ol i'ch cefn." YN ysgolion elfenol sir Gaernarfon a sir Ferionydd y mae 161 yn Anghydffurfwyr, a 24 yn Eglwyswyr, tra nad Qes yn yr holl ysgolion eraill gymaint ag un Anghydffurfi wr yn brif- athraw. DYWEDIR fod y Bwrdd Addysg wedi taflu heibio y cynllun i greu Cyngor Addysg i Gymru, oherwydd y drafferth a geir gyda'r Ddeddf Addysg. Dyma hen ddull y Toriaid gyda'r Gwyddelod. MAE agos i wyth gant yn ymgartrefu ar hyn o bryd yn Ngwallgofdy Dinbych, ac eto maent yn fyr o le ar gyfer y galw. Teimlir ei bod yn hen bryd symud i ddarparu gwallgofdy newydd i'r siroedd gorllewinol,-Arfon, Meirion, a Mon. YCHYDIG 0 gyfnewidiad a wnaeth yr etholiadau trefol eleni yng Nghyngorau Cymru. Collodd ambell i aelod da ei sedd, ac etholwyd ambell un da yn eu lie. Mae nodwedd wleidyddol y cynghorau yn bur debyg yr un fath ag oeddynt cyn yr etholiad. NID yw Blaenau Ffestiniog i gael bendithion cau cynar. Y mae mwyafrif mawr o'r masnach- wyr wedi pleidleisio yn erbyn mabwysiadu darpar- iadau y Ddeddf sy'n darpar hyny, Nis gwyddom beth a feddylia y trigolion o hyn, ond nid oes amheuaeth beth a feddylia y cynorthwywyr. CYNYGIA Mr. R. A. Naylor ^25 am anthem Genedlaethol Gymreig, gvda geiriau Cymraeg a Seisnig ami. Mr. Naylor sydd i wrthwynebu Mr. Lloyd-George yn etholiad nesaf bwrdeisdrefi Arfon; Ar yr adeg bresenol, ac yn amgylch- iadau presenol Mr. Naylor, ai ni fuasai Lloyd- George yn enw rhagorol ar y gan genedlaethol ? MAE cyfres o ddarlithiau i'r cyhoedd i gael eu traddodi ynglyn a Choleg y Gogledd. Ym mhlith y darlithwyr bydd Mr. J. Lloyd Williams, y Proff. W. Lewis Jones, y Proff. John Edward Lloyd, y Proff. T. Hudson Williams, a'r Proff. Dr. R. W. Phillips. Dylai pobl Bangor fod yn bobl dda iawn ynghanol y fath gyfleusderau. YR oedd heol newydd yn cael ei gwneyd mewn tref yng Nghymru. Daeth gweithiwr i ofyn am waith, a chymerodd yr ymddidan a ganlyn le rhyngddo a'r arolygwr A oes siawns am job yma?" "Wel, y mae dyn yn y fan yma sydd heb ddwad heddyw'r bore. Os na ddaw ar ol brecwast mi gyra i o adre, ac mi gewch chwithau ei le o." GAN mlynedd yn ol Merthyr oedd y dref fwyaf ei phoblogaeth yn Nghymru, sef 13,000. Abertawe oedd yr ail, gyda 6831 Treffynon, Sir Fflint, yn drydedd, gyda 5567; a Chaer- fyrddin yn nesaf gyda 5500. Nid oedd Caerdydd ond pentref o rhyw ddwy fil o boblogaetfi. Heddyw wele hi'n ddinas a thros 170,000 ,0 bobl yn cyfaneddu o'i mewn. ELENI yr etholwyd y Cynghor Trefol cyntaf ym Merthyr Tydfil o dan y Freinlen newydd. Y peth hynotaf yn yr etholiad yno ydoedd llwyddiant neillduol Plaid Llafur. Llwyddodd y blaid honno i gael pob un o'i hymgeiswyr i mewn, ac y maent yn gwneyd i fynu bron hanner y Cyngor. Etholwyd cyn nifer o ymgeiswyr annibynol hefyd, a rhai Rhyddfryd- wyr, ond dim cymaint ag un Ceidwadwr. MR. T. H. ROBERTS, Clywedog, Rhewl, a ysgrifena Gan fod rhai papyrau wedi cy- hoeddi fod Mr. Ambrose Jones wedi myned i Tenby, neu ar For y Canoldir, bydded hysbys ci fod ef er's peth amser., wedi myned yn rhy wael i fyned oddicartref. Y gwir ydyw mai yn y Rhewl y mae ef o hyd, dan ofal meddygon, a'i fod er's dros tair wythnos yn ei wely. Nid oes genym ni ei gyfeillion ond disgwyl y daw efe cyn hir yn ddigon cryf i fyned at y mor, os nad i fyned ar y mor. Fe gesglir oddiwrth yr hysbysiad hwn fod pob llythyr a fwriedir i Mr. Ambrose Jones i'w gyfeirio i'r Rhewl fel o'r blaen, ac nid i Tenby nac unlle arall."

Gohebiaethau.

Advertising

[No title]