Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL,…
News
Cite
Share
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, MOUNTAIN ASH, 1905. BEIRNIADAETHAU GWYLFA. Can Ddesgrifiadol-" Dydd yr Eisteddfod." Pedair can a ddanfonwyd i'r gystadleuaeth. Nid gwaith hawdd yw gwneyd y math hwn ar gyfansoddiad. Y mae cyfuno y ddau beth— Can a Desgrifiad-yn gofyn medr mewn llawer ystyr, a'r prawf goreu o hyny yw fod cynifer o gystadleuwyr yn methu. "Braich y Gadair."—Gwan a lied gyffredin yw ei benhillion ef. Nid oes ddarlun byw a chywir a ffyddlawn ganddo. Gwir ei fod yn cyfeirio at rai pethau digon nodweddiadol o'r Eisteddfod; ond chwery yn rhy hir o lawer a'r gair dydd," gan geisio gwneyd mor a mynydd o hwnw. Er hyny ni fynem ddigaloni yr awdwr. Dysged sylwi yn fanwl a desgrifio yr hyn a wel gyda manylder; nid yr hyn y mae ganddo ryw fath o syniad amwys am dano. Hefyd yn hytrach na gwibio o fan i fan fel dyn yn cerdded drwy ffair, ac yn gweld pobpeth a gweld dim,- byddai yn well mewn cyfansoddiad fel hyn gael un darlun cryno, croyw, fydd yn cyfleu dydd yr Eisteddfod yn lied dda. Dalied y cyfaill hwn ati. 'Trewinion.Lled debyg o ran graen a gwerth llenyddol yw hwn eto. Mae'n bosibl ei fod yn fwy hoyw a phert ei symudiad, a mwy o naws awenydd ar ei waith. Eithr er yn canu yn weddol dda, y mae gryn lawer ar ol fel desgrifiwr dydd yr wyl fawr hwyliog a dyddorol. Mae ganddo ddigon o ddefnyddiau pe yn gallu eu trin a'u trafod yn ddeheuig. Cyfeiria at lu o bethau tarawiadol wrth fyned heibio, ac y mae wedi dal peth o hwyl yr Eisteddfod. Nid oes lawer o angen ar achlysur fel hyn gyfeirio at Natur a'i cheinion. Caledfwlch.Mae hwn yn ein codi i dir gryn lawer yn uwch. Deallodd i raddau pell beth olygid wrth "gan," ond dim llawn cystal wrth "ddesgrifiad." Mae hwn yn fwy o fardd natur yn canu i'w swynion a'i hagweddau mirain a breuddwydiol nag o sylwedydd ar ddydd prysur, doniol, a diddan yr Eisteddfod. Bron na theimlwn mai talent allan o'i chylch sydd genym yma. Un yn fwy cyfarwydd a bugeil- gerdd neu delyneg ysgafn, yn ymwneyd a bro a bryniau, mwsogl, a meillion gwlad. Er hyny, peidier a meddwl fod ei "gan ddesgrifiadol" hon yn anheilwng—buaswn yn ei gwobrwyo yn ddibetrus onibai fod ei gwell i mewn. Wil Bryan." Dyma athrylith ddesgrifiadol. Un a'i iaith yn odidog a chref. Un a'i fesurau b allan o'r cyffredin. Un yn saernio yn dda, a'i ddarlun o Ddydd yr Eisteddfod yn fyw, yn ffyddlon, ac yn llawn mireinder a gwatwareg gymysg. Heb un os dyma'r goreu, ac y mae yn haeddu gwobr fawr. Chwe Canig-" Cymru Fu." Ni ddaeth llawer i'r ornest hon eto-dim ond dau. Gallesid disgwyl amryw, oblegid y mae telynegwyr yn bur lluosog yn ein gwlad, a barnu oddiwrth ein cylchgronau a'n newyddiaduron. "Bleddyn.Canu yn gelfyddydol y mae hwn. Mae yn wladgar, yn gryf, ac yn drwm. Dim haner digon o gyffyrddiad ysgafn y ganig yn ei waith. Byddai y canigau hyn yn feichus i'w canu, er eu bod yn gryfion i'w darllen. Mae'r materion yn dda gan "Bleddyn," ac y mae wedi talu sylw i'w destynau, a bod yn gywrain a meddylgar iawn wrth wneyd ei ddetholiad. Dygodd wahanol agweddau ar fywyd ac arferion Cymru Fu yn fedrus ger ein bron. Materion y canigau yw :— i. Crefydd Cymru Fu—Y Derwydd. 2. Serch Cymru Fu-Olwen. 3. Dyfroedd sanctaidd Gymru Fu-Glan y Ffynon. 4. Gwladgarwch Cymru Fu-Llywelyn. 5. Bywyd bugeiliol Cymru Fu-Yr Hafod. 6. Dyhead Cymru Fu am oes euraidd- Arthur. Nid oes frychau, ond trymder; dim hoen a ffansi a mynd ynddynt. Mae" swing" y ganig ar goll, e.g. Offrwm o arogldarth peraidd, Ewylly.gar aberth hedd, Ydoedd bri'r cyfringylch sanctaidd Dan y derw preiff eu gwedd. Yr oreu genym ni o'r chwe canig yw Olwen." "Adgof.Dyma ddawn telynogol. Mae rhai o'r tarawiadau melus ac anisgwyliadwy sydd yn swyno, i'w cael yn nghanigau hwn. Mesurau ysgeifn a chanadwy, termau Cymreig i gyd, ac adlais groyw o Gymru gynt yn glywadwy yn y cwbl. Mae ei ddetholiad yntau o faterion yn dda:- 1. Geiau y Pentref. 2. Hirnos Gaua. 3. Ysgubor lwyd yr Erw. 4. Cyrchu'r Ddyweddi. 5. Diwrnod Sassiwn. 6. Gwvlnos. Nid yw'n llawn mor gywrain a chelfydd a'i gymrawd yn hyn efallai; ond y mae yn fwy awenyddol a gwisgi. Dyfynwn un penill o'r ganig i'r Wylnos" sydd yn dangos allan ansawdd hwn i raddau :— Mae'r pentref megys gweddw Dan ddagrau cywir barch Mae llafur wedi pallu Yn mhobman-ond yn ngweithdy Y saer sy'n gwneyd yr arch. Mor anisgwyliadwy yw'r ergyd yn y linell olaf. Hwn yn sicr yw'r goreu. Rhieingerdd.—" Morwynig Ffynon=y=Gog." Un ddaeth i law-eiddo "Telyn Cymru." Yr oedd gwyr goreu yr Eisteddfod gynt yn arfer cystadlu ar wneyd cerdd i rianedd. Onid rhieingerddi Ceiriog a Mynyddog a Glasynys yw eu pethau goreu ymron ? A chaed rhai cerddi o'r natur hon yn ddiweddarach y bydd yn dda gan ein gwlad eu darllen yn lied hir. Rhiein- gerddi ganodd beirdd y canoloesoedd i gyd oreu--Rhys Goch ab Rhiccert, a Dafydd ab Gwilym, a Dafydd Nanmor, ac ereill. Tuedd rhai yw edrych i lawr ar y math hwn o ganu, gan ei ystyried islaw urddas y gwir fardd, a'i gyfrif yn faswedd ac oferwaith. Ffolineb rhonc yw peth fel hyn; rhaid anwybyddu rhai o brif gerddi y byd os mai dyna lwybr beirniadaeth. Rhieingerdd ar un olwg yw prifgamp Homer. Dyna hefyd yw gorchest Dante, a'r un peth ganodd Petrarc, a llu o awenyddion goreu y byd. Gobeithio y codir y gystadleuaeth hon i fri eto, oblegid dios yw nas gall pawb ganu rhieingerdd dda. Wel, ni chynygiodd namyn un bardd eleni. Mae'n bosibl fod llawer rheswm dros hyny na pherthyn i ni eu holrhain. Gwnaeth "Telyn Cymru ei waith yn bur dda. Mae rhywbeth yn estronol yn y chwedl sydd yn sylfaen i'w gerdd. Merch o Gymru yn mynd i weini i balas y Saeson, ac yn dod yn wrthrych serch Due o Loegr-dyna yw'r stori am Forwynig Ffynon-y-Gog. Bu yr awdwr hwn yn ffodus i allu trin ei ddefnyddiau yn dda, a gwneyd ei waith yn foddhaol. Nid oes ddarnau ysblenydd yn y gerdd; ond y mae tynerwch a phrydferthwch tawel:— 1' Selio 'i amod gysegredig, Sy'n briodas ynddi 'i hun, Wnai'r uchelwr a'r forwynig Heb ystyried gwenau dyn; Dau mewn cyfoeth a thylodi — Sydd i gerdded law mewn llaw Dau sydd hefyd i briodi- Braint y byd yw sefyll draw." Er i'r cwlwm fod yn esmwyth, Rhaid cael paratoad doeth, Hawdd i gariad pan yn danllwyth Losgi 'i hun yn furddyn noeth." Gallsai ffurf y llinell flaenaf fod yn fwy cywir Er mwyn i'r cwlwm," &c., a olygir yn ddiau. Rhieingerdd ddymunol yw hon, a llawn gwerth y wobr. Marwnadau.—" Ben Bowen." "Vox Populi.Dylid carcharu hwn yn un o ogofeydd Twm Shon Cati am un dydd a blwyddyn oherwydd ei flerweh yn ysgrifenu. Nid beirniadu'r llawysgrifau yw ein gwaith bid siwr; ond nid rhoi poen dianghenrhaid i feirniaid yw neges cystadleuydd ychwaith. Mae peth teilyngdod yn y gerdd, ond nid yw yn hawdd gwneyd allan ei fesur na'i bwynt. Dynwared Walt Whitman i raddau pell y mae hwn. Gwna'r defnydd mwyaf anghywir o eiriau hefyd, a chymysga ei ffigyrau. Drwy'r cwbl, yr ydym yn gweld y gallai hwn wneyd yn well o lawer os y myn. Ochenaid."—O ran graen a destlusrwydd allanol nid yw hwn yn byw yn yr un gyhydedd a Vox Populi." Mae yn lanwaith a dymunol iawn i'r llygaid. Mae ganddo farwnad weddol, ond cymysglyd. Un o brofedigaethau hwn yw defnyddio'r gair ffurfafen o hyd, ac y mae yn gweld "ffurfafenau" ar adegau; a sonia am yfed anweledig ddydd," a Morio yn ei siriol swyn yn nhymestl y barddonol for." Gwelir mor gymysglyd yw. Adlais y Dyddiau Gynt."—Nid yw hwn yn ddigon i'r pwynt. Canu'n gyffredinol y mae. Nid oes fawr o "Ben Bowen" yn ei gerdd. Gwnelai y rhan fwyaf o honi y tro yn gerdd goffa i ddyn da arall, pa un bynag ai yn fardd, yn bregethwr, yn Saer, neu yn siopwr, neu beth. Daeth un farwnad arall i law, ond yn rhy ddiweddar o gryn amser. O'r tri hyn, y goreu yw Ochenaid efallai; ond prin o deilyngdod yw yr oil.
ARHOLIAD CYMDEITHASFAOL Y…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
ARHOLIAD CYMDEITHASFAOL Y METHODISTIAID AM 1905. Ymgeiswyr Llwyddianus. Martian cyjlawn 400 I. John Pritchard, B.A., B.D., Cesarea, Arfon 357 2. H. Harris Hughes, B.A., Caerdydd 349 3. Edward J. Jones, B.A., Llangernyw 331 4. J. Foulkes-Ellis, Corris 315 5. H. C. Lewis, B.A., Beaumaris 311 H. Pierce Roberts, B.A., Coedpoeth 311 7. W. H. Jones, Valley, Mon. 305 8. E. Roderick Jones, New Tredegar 303 R. E. Jones, Saughall 303 10. T. C. Lewis, Seven Sisters, Neath 302 11. H. Jones Davies, Llanrwst 299 12. Hugh Levi Jones. Croesor 298 13. Edward Evans, Gwyddelwern 297 14. Daniel Davies, Abermeurig 294 J. Jeffreys Jones, Llandaff 294 16. Thomas J. Jones, B.A., Bethania, Corris 291 17. Richard Williams, Tredegar 288 18. J. C. Davies, Millin's Cross, Haverfordwest 286 19. C. J. Morris, Caerdydd 285 20. J. M. Davies, Manledd 281 21. P E. Evans, Skewen 280 D. E. Roberts, Penmachno 280 23. H. Hughes Jones, Pennal 274 24. John W. Jones, B.A., Rhosgadfan 273 25. O. J. Griffith, B.A., Dolwyddelen 270 W. R. Jones, Nebo, Amlwch 270 27. D. E. Jones, Llandegfan 269 28. A. W. Churchill, Porth 268 29. J. Elias Roberts, Bettws, Newtown 261 30. R. D. Edwards, Frankwell, Shrewsbury 260 31. William Jones, Treorky. 258 32. G. G. Owen, Llanfachreth, Dolgelley 255 33. David Jones, B1 lenanerch 250 34. E. J. Herbert, Tonna, Neath 249 35. W. M. Williams, Niwbwrch 248 36. D. Foulkes Roberts, Bryngwran 244 37. Theo. Lewis, Bethel, Dolgelley 234 38. R. Foulkes Parry, Rhyl 232 39. W. Llewellyn Lloyd, Bethel, Mon. 231 40. D. Moses Davies, Aberystwyth 200
Welshmen Known in London.-IV.…
News
Cite
Share
those privileged to use it. It may easily be believed that the day of its opening was a proud day to the generous donor, and some words that he spoke on that day may fittingly conclude this sketch "To me this day is one that I have looked forward to from my boyhood, for I have always hoped to be able to do something that would enable me to leave the world better than I found it. If this can be done by providing means for the people to improve their condition, and to raise the standard of social and moral life of my fellow-countrymen; to find means to encourage temperance, to keep both young and old from the temptation of the public-house, and to find intellectual food for the mind-then, indeed, I have accomplished the task. I am satisfied that this institute, with its store of knowledge, will prove of immense benefit to the inhabitants of the district, and be the means to enable students, after leaving school, to continue their studies. I am sure that the result will be satisfactory. It is the kind of institution that is wanted in every town and village throughout Wales. I hope that this is only the forerunner of what is to follow, and that we shall find many generous donors in their respective distiicts emulating what has been done here. There is far greater pleasure in giving while you live to see the good it does, than to pile up wealth for others to deal with when you are gone."