Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

METROPOLITAN DAIRYMEN'S BENEVOLENT…

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. ER fod Mr. J. Herbert Lewis, A.S., yn gwella yn rhagorol, nid yw yn debyg y bydd yn ail ymafael yn ei waith am rai wythnosau. DYDD Gwener diweddaf bu farw gweddw y diweddar Ddr. David Roberts (Dewi Ogwen) yn ei phreswylfod, Greenfield, Gwrecsam, yn un a phedwar-ugain mlwydd oed. CYRHAEDDODD y Parch. Thomas Levi, Aber- ystwyth, ben ei bedwar-ugeinfed flwydd yr wythnos ddiweddaf. Er wedi cyrhaedd oedran patriarch, mae Mr. Levi yn dal mor ieuanc a heinyf a llawer dyn ugain oed. BLIN genym hysbysu am farw Mr. John Thomas, gynt o'r Cambrian Gallery, Lerpwl. Nid yw yn debyg fod neb wedi tynu mwy o ddarluniau o bersonau a lleoedd Cymreig nag ef. Deallwn fod ei gasgliad o olygfeydd yn awr ym meddiant Mr. O. M. Edwards. DYMA stori fach o'r Rhondda, a gwers iddi ynglyn a sut i lunio brawddeg. Yr oedd yr oedfa nos Sul drosodd, a'r gweinidog ieuanc yn cerdded adref o'r capel gydag un o'i ddiacon- iaid. Yr oedd y gweinidog yn dra phrudd- glwyfus. Beth sydd ? ebe'r diacon. "Wei, rhyw Sul trwm ydyw hwn wedi bod i mi," ebai'r Hall, ac yr wy'n ofni mai fflat ofnadwy oedd fy mhregethu." Nage'n wir, 'nawr, Mistir Jones bach, nage'n wir," ebai'r diacon cynes-galon; fe weles i chi'n fflatiach l'weroedd o withie." YR Athro Angus, o Aberystwyth, a etholwyd 0 yn gofrestydd 1 rifysgol Cymru dydd Gwener diweddaf. Cafodd ef ddeugain o bleidleisiau y Parch J. Owen Thomas, M.A., Menai Bridge, bump-ar-hugain; a Mr. James Evans, o Lundain, wyth. Y mae Mr. Angus wedi bod yn athro yng Ngholeg Aberystwyth er y cychwynwyd y sefydliad, ac yn deall llawer o ofynion ei swydd newydd. Y peth mwyaf-yr unig beth yn wir- yn erbyn ei benodiad yw y ffaith nad ydyw yn Gymro. Ond y mae hynny yn gorbwyso llawer rhagoriaeth arall. CAFODD y Methodistiaid Calfinaidd golled fawr ym marwolaeth y Parch. Dr. William James, Manceinion. Yr oedd ef yn un o wyr blaenaf y Cyfundeb. Brodor o Benygarn, Ceredigion, ydoedd. Graddiodd yn 1862, a bu yn weinidog yn Aberdyfi o 1862 hyd 1865, ac ym Moss Side, Manceinion, o hynny hyd ei farw. Llan- wodd bob swydd o bwys ynglyn a'r Cyfundeb- Ysgrifenydd y Gymanfa Gyffredinol, Llywydd Cymdeithasfa y Gogledd, Darlithydd Davies, &c. Cyhoeddodd esboniad hefyd ar yr Epis- tolau Bugeiliol." MAE gan Mr. O. M. Edwards rai sylwadau tarawiadol ar ddarluniau yn y Cymru am y mis hwn. Dywed fod modd rhanu cartrefi gwerinol Cymru, yn ol eu darluniau, fel y canlyn :—" (1) Lie ceir darlun y brenin, y teulu brenhinol, a'r meistr tir yn unig nid oes yma lyfrau nac ysgwrs ond am anifeiliaid. (2) Lie ceir darluniau lliw- iedig rhad, wedi dod o'r Almaen flynyddoedd yn ol; ceir rhyw fath o feddwl anelwig yn y teuluoedd hyn. (3) Darluniau cewri'r enwad. Negyddol y wyr hyn a ddywed y darluniau am y teulu fel rheol, sef eu bod wedi ymgroesi rhag perthyn i'r un enwad arall. Y mae egni tawel a phenderfyniad ceidwadol yn y cartrefi hyn. (4) Darluniau o eilunod y dydd, yn wleidydd- wyr a diwygwyr a chantorion. Y mae brwd frydedd a gweithgarwch yn y teuluoedd, ond ychydig o ddiwylliant a meddylgarwch. (5) Darluniau dur (steel engravings) o olygfeydd tarawiadol. Y mae y darluniau hyn yn adlew- yrchu diwylliant, meddwl, a nerth cymeriad y teulu sy'n cael pleser wrth syllu arnynt. (6) Darluniau meddylwyr. Mewn ambell gartref- goreuon y wlad-y mae gan wr y ty ddarluniau y rhai a'i dysgodd i feddwl."

PREQETHWYR Y SABBOTH NESAF.

Y DYFODOL