Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

OWAIN JONES (OWAIN MYFYR),…

News
Cite
Share

OWAIN JONES (OWAIN MYFYR), LLUNDAIN. Buddiol fuasai cael cyfres o ysgrifau yn Y CYMRO LLUNDEINIG ar Gymry Difancoll Llun- dain." Nid yn unig y mae yn gywilydd i ni i'w gadael i ddisgyn i ebargofiant, ond y mae hefyd yn golled ammhrisiadwy i ni i wneyd 9 1 hynny. Gwir eu bod yn llu mawr, a bod yn rhaid chwilio llawer cyn dod o hyd i'w hanes a'u gweithiau, y rhai ydynt yn gorwedd dan lwch y canrifoedd a phryfaid yn eu hysu. Er hynny, gellid rhanu y gwaith rhwng nifer o hynafiaethwyr a charwyr llenyddiaeth Gymraeg, a thrwy hynny ysgafnhau y baich a dwyn i oleu dydd berlau yr awen wir yn y canrifoedd ydynt wedi eu claddu ym medd y gorphenol. Gwir fod llawer o'r gweithiau a'r ysgrifau hynny wedi gwasanaethu eu hoes a'u hamcan yn ystod bywyd eu hawdwyr i ryw fesur, a'u bod hefyd yn dylanwadu ar syniadaeth meddylwyr ac ys- grifenwyr yr oes hon etto y mae ynddynt gyfoeth o feddyliau a cheinder fuasent yn achles a symbyliad i fywyd a gweithgarwch llenyddol yn yr oes gysglyd hon. Yn y gobaith y cymerir yr awgrym i fynu ysgrifenir ychydig yma ar Owain Myfyr." Brodor o sir Ddinbych ydoedd ganwyd ef yn amaethdy Tyddyn Tudur, ym mhlwyf Llan- fihangel-Glyn-Myfyr, yn y flwyddyn 1741. Hanai o deulu henafol a chyfrifol yn yr ardal honno. Gerllaw i'w gartref ef y ganwyd ac y magwyd John Jones, Glanygors, fu yn cadw Gwestdy King's Head, Ludgate, Hill, Llundain. 'Roedd eu tadau yn berthyn- asau pell. Nid oedd rhieni John Jones mor glud a thaclus yn eu hamgylchiadau a rhieni Owain Jones. Cafodd Owain ragorach a mwy o addysg nai gar; ond yr oedd llawer o duedd lenyddol yn y naill a'r llall. Etifeddas- ant hi oddiwrth eu hynafiaid oeddent yn caru rhodio hyd lwybrau yr awen ac ymddifyru yng nghymdeithas lien a chan. Cawn fod cysylltiadau i deulu Tyddyn Tudur yn Llundain cyn geni Owain a thrwy y cyfryw cawn i Owain gael ei rwymo gan ei rieni yn egwyddor-was ym masnachdy Kidney a Putt, Thames Street, prynwyr a thrinwyr crwyn (furriers). Pasiodd Senedd Lloegr fesur yn 1638 yn gwahardd gwneyd hetiau o un defnydd ond crwyn beaver, yr hyn barodd i fasnach ddirfawr gael ei chario ymlaen cydrhwng Lloegr a Gogledd America, oherwydd oddiyno y ceid y crwyn hynny yn y cyfnod hwnnw. Buwyd yn cario dros 200,000 o'r crwyn uchod i Brydain yn flynyddol oddiar hynny hyd tua chanol y ganrif ddiweddaf. Cariai Kidney a Putt ymlaen fasnach fawr mewn crwyn o wahanol fathau, oedd yn dwyn elw sylweddol iddynt. Gan fod Owain Jones yn ddyn ieuanc o alluoedd cryfion, wedi tyfu mor ddefnyddiol i'w masnach, ac yn cael ei hoffi gan Kidney a Putt gwnaethant ef yn gyfranog o'r fasnach. Cyn hir bu farw Kidney a Putt, a gadawsant y fasnach lwyddianus i Owain Jones, yr hwn a'i cariodd ymlaen yn llwyddianus iawn hyd ei farwolaeth. Ennillodd iddo ei hunan a'i deulu gyfoeth lawer drwy y fasnach honno yn Thames Street. Cawn lawer o Gymry pan dyfant yn gyfoethog ydynt yn anghofio Eu Gwlad, eu Cenedl, a'u Duw. Ond ni wnaeth Owain Jones, felly, eithr daliodd i garu ei iaith, ei wlad, ei genedl, a'i Dduw. Dengys y gwrthwyneb anniolchgarwch dygn a bychan- der gwaradwyddus enaid, amgen byddai yn ffiaidd ganddynt i droi eu cefnau gyda sarhad ar yr hyn a'u gwnaethant yr hyn ydynt. Estynant ambell rodd yn elusen i hyrwyddo rhyw achos Cymraeg ymlaen, ac adroddant y frawddeg, Oes y byd i'r iaith Gymraeg yn uchel-wyliau y genedl, tra hwy eu hunain yn def- fiyddio eu holl allu a'u dylanwad i'w lIadd. Mor ddiystyr yw cymeradwyaeth y dorf i'r bradwyr hynny. Defnyddiodd Owain Jones filoedd o bunnau 0'1 ennillion er lies llenyddiaeth Gymraeg. Casglodd, ysgrifenodd, ac argraphodd ar ei draul ei hun lawer o hen ysgrifau oeddent yn llwydo yn y llwch ac yn cael eu bwytta gan bryfaid. Y fath oedd ei gariad at ei iaith a llenyddiaeth ei famwlad fel y penderfynodd i drefnu a chyhoeddi hen lawysgrifau Cymraeg o'r burned ganrif i fynu hyd Elizabeth. Yn y flwyddyn 1772 sefydlodd Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, yr hon a fu o wasariaeth mawr i gefnogi Eisteddfodau a llenyddiaeth yn Llun- dain a Chymru. Ceir enwau yr aelodau a chofnodion gweithrediadau ei phwyllgorau, y rhai ydynt ddyddorol i ni yn yr oes hon. Tyfodd ffrwyth toreithiog o gynyrchion addfed meddyliau diwylliedig y Gymdeithas hono, y rhai y buasai yn werthfawr i'w cael yn yr oes hon-mae ynddynt ysglyfaeth. Cyhoeddodd ar ei draul ei hun gyfrol drwchus o Farddoniaeth Dafydd ab Gwilym," yn 592 o dudalenau, yn y flwyddyn 1789. Ysgrifenodd y Cymro pybyr, Dr. William Owain Pughe, ragair i'r gyfrol. Cyhoeddodd tua'r un amser argraffiad newydd o Ddyhewyd y Cristion," llyfr roddodd fel i brofiad miloedd yn yr oes brin honno mewn llenyddiaeth grefyddol. Yn Alban Hefin, 1805, dygodd allan gylch- grawn Cymraeg dan ei olygiaeth ef ei hun. Argraffwyd ef gan S. Rousseau, Heol-y-Coed, Ffynon Feusydd, Llundain, ac ar werth gan Dafydd Prys, 25, Walbrook, a Morys Jones, i, Paternoster Row. Enw y cylchgrawn oedd Y Greal." Cynulliad o orchestion ein hynafiaid, a lloffion o amryw fan-gofion y cynoesoedd, ynghyd a chynyrchion ei gyfoedion ydyw. Cawn Thomas Jones (Bardd Cloff), Hugh Maurice (Bardd Cwsg), nai Owain Jones, Thomas Roberts (Llwynrhudol), Poultry, ac eraill, yn ysgrifenu llawer i'r Greal." Ceir ynddo hefyd waith Jack Glanygors, Goronwy Owen, &c. Ond bu farw "Y Greal" ar derfyn y gyfrol gyntaf. Gresyn fod yn rhaid i lenyddiaeth Gymraeg uchelryw ddioddef drwy ddiffyg cefnogaeth y Cymry. Hyn yw profiad gofidus golygwyr a chyhoeddwyr llenyddiaeth Gymraeg pob oes. Gorchest lenyddol benaf oes Owain Jones oedd dwyn allan ar ei draul ei hun y Myfyrian Archseotogy of Wales" yn 1801 hyd 1807. Mae y gwaith hwn yn dair cyfrol wyth plyg, ac yr oedd lolo Morganwg, a'r Dr. William Owain Pughe yn gydolygwyr ag ef i'r gwaith; ond efe dalodd yr holl draul. Costiodd yr anturiaeth iddo dros fil o bunoedd. Y mae yn gofgolofn a saif i ddywedyd am ei gariad at ei iaith, ei wlad, a'i genedl pan fydd cofgolofnau milwyr a brenhinoedd Prydain wedi malurio yn llwch. Llawysgrifau y Genedl Gymraeg o'r bumed hyd y drydedd-ganrif-ar-ddeg yw eu cynwysiad. Heblaw y tair cyfrol werthfawr yma gwariodd dair mil o bunoedd o'i gyfoeth i gasglu, adysgrifenu, a dosbarthu yr holl lawysgrifau Cymraeg o'r drydedd-ganrif-ar-ddeg hyd amser Elizabeth y Frenhines. Bwriadai gyhoeddi yr oil o honynt ar ei draul ei hun pe cawsai fyw. Ond goddiweddwyd ef gan lesgedd, byrhawyd ei nerth ar y ffordd, cyn iddo orphen ei waith ynglyn a chyhoeddi llawysgrifau Cymraeg. Gadawodd hwy ar ei ol i'w wraig. Cynwysent saith-a-deugain cyfrol o farddoniaeth, yn un-fil- ar-bymtheg o dudalenau, a thair-ar-ddeg-a- deugain cyfrol o Ryddiaeth, yn bymtheg-mil-a- thrichant o dudalenau. Prynwyd y cyfryw oddiwrth ei weddw i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig lie y gorweddant yn llonydd hyd heddyw. Enw llenyddol Owain Jones oedd Owain Myfyr," oddiwrth Glyn Myfyr, enw ei blwyf genedigol yn sir Ddinbych. Hynafiaethydd, detholydd, a chasglwr di-ail ydoedd; ac yr oedd ei gariad at ei iaith, a'i wlad a'i genedl yn angerddol. Gresyn na syrthiasai ei fantell ar rai o gyfoethogion y genedl yn y dyddiau hyn, pan y mae Addysg wedi codi rhai o feibion y genedl i safle y gallant roi i'r byd gynyrchion ein beirdd a'n meddylwyr o'r cynoesoedd. Pe ceid arian ceid y llyfrau. Angen mawr Cymru yn y dyddiau hyn yw llenyddiaeth Gymraeg fydd yn cwrdd a dyhead ein meibion a'n merched diwylliedig. Bu farw Owain Myfyr yn ei dy ei hun yn Thames Street, E.C., dydd Gwyl Mihangel, nawdd sant eglwys ei blwyf genedigol, Medi 29, 1814, yn 74 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys All Hallows, Upper Thames Street. Nid yw yr Eglwys honno mewn bod yn awr. Y mae y City of London Brewery wedi meddiannu bron yr oil o'r tir perthynol iddi. Mae meirw y fynwent wedi eu hadgyfodi, ond megis Lazarus i'w hail-gladdu drachefn mewn mynwent arall. Saif bedd Owain Myfyr wrth y fynedfa i mewn ar yr aswy. Dyma sydd ar y beddfaen uwch ei ben Sacred to the memory of Owen Jones, who departed this life September 26, 1811, aged 74 years." Ochain byth och awen ber:—collwyd Y calla'n ei amser Bwrdd a nawdd y beirdd, a'u ner, Pawl a gem epil Gomer." "Ynad y gân enaid Gwynedd-eí chalan Dymchwelwyd o'i orsedd Owain fwyn, mae yn ei fedd, Enwog wr—yma gorwedd." 'Roedd y garreg fedd yn fwy cyssegredig i goffadwriaeth Owain na Hannah Jane, ei Weddw, oherwydd priododd hi yn fuan a dyn o'r enw Robert Roberts. Bu hwnnw farw Mai 5, 1821, yn 64 oed; a bu y weddw Hannah Jane Roberts farw Ebrill 23, 1838. Claddwyd hi a'i dau wr yn yr un bedd. Gadawodd Owain Myfyr dri o blant ar ei ol, sef dwy ferch a mab. Owen Jones oedd enw y mab, yr hwn ddadblygodd yn adeiladydd enwog. Rhagorai fel lluniedydd a galofydd eithr ni cherddodd yn ffordd Owain ei dad i garu llenyddiaeth ac addysg y Cymry. Bu Owain Myfyr yn noddwr cyson i lenorion y genedl megis y tystia Iolo Morganwg am dano ef a'r Dr. William Owain Pughe. Trwy ei ymdrechion ef cafodd nifer o feibion glewion Gwalia sefyllfaoedd cyfrifol ym masnachdai Llundain. Dichon nad oedd et yn gymaint o feirniad ag ydoedd o garwr hynafiaethau ein cenedl. Cawn ef yn galw Llyfr Aberpergwm," yr hwn a elwir gan Aneurin Owen The Gwentian Chronicle," yn Brut y Tywysogion yn "Y Myfyrian Archaeology," gan gwbl gredu mai hwn oedd cronicl gwreiddiol Caradoc o Lancarfan. Dichon i'r camsyniad hwn o'i eiddo fod yn foddion i arwain Carnhuanawc i rai camsyniadau yn ei Hanes Cymru." Brut y Tywysogion gwirioneddol a ysgrifenwyd yng nghaneniaith Dyfed yn Tyddewi. Cyfieithiad yw ei ranau blaenaf o'r Cronicl Lladin a elwir Annaeles Cambrian." Ni wnaeth un Cymro fwy na Owain Myfyr er diogelu y llawysgrifau Cymraeg o ddifancoll. Erys y Myvyrian Archaeology of Wales yn gofgolofn i'w lafur a'i aberth mawr dros lenydd- iaeth Cymru. Ai tybed nad ellir diogelu ei fedd ef drwy roi cofgolofn arno fydd yn deilwng o serch y genedl i'w Goffadwriaeth Fendigedig ? Mae beddau Glanygors; John Jones, y Strand; Dr. Davies, Broad Street; Oliver Cromwell, ac eraill, wedi eu colli dan heolydd ac adeiladau y ddinas. Bydd beddau Vavasor Powell, Owain Myfyr, ac ereill nad oedd y byd yn deilwng o honynt, wedi eu colli yn fuan os na wna rhywrai ofalu am osod meini arnynt i ddangos y manau y cysgant yn llwch y ddaear. Beiir y Llywodraeth am adael rhelyw y Light Brigade enwogodd ei hunan yn Balaclava, Hydref 25, 1854, i nos- wylio yn y tlottai; ond pa faint mwy beius ydym ni i adael Beddau Gwroniaid crefydd, rhyddid, ac addysg i syrthio i ddifancoll o ddiffyg ymdrech i osod meini i nodi manau eu beddau. Buasai ymweled a'r manau yn ysbrydoliaeth i feib Gwalia ym mrwydrau rhyddid drwy yr oesoedd. Mae hanes eu hystormus hynt, Fel swn y mor, fel swn y gwynt, Yn siarad nerth Gwirionedd." IGIAN.