Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

AWEL 0 FRYNIAU'R HEN WLAD.

News
Cite
Share

AWEL 0 FRYNIAU'R HEN WLAD. Talywern: 1885=1905. 0 gwm Llanbrynmair y teithiais i Dalywern eleni. I fyny heibio Brondrwgoed, a thrwy gil- fach noethlwm, gul, yn ngolwg Dolgadfan a meusydd breision Llanbrynmair, bron na thyb- iwn weled Vavasor Powell, ac S.R., a J.R., yn rhodio fraich-yn-mraich, ar hyd ei hen lwybrau, a Mynyddog a Thafolog mewn dadl frwd ar bwnc yr Eisteddfod. Ymddangosai y cymylau uwchben yn dew o ffurfiau y cedyrn gynt, tra'r brain a'r defaid yn ymddangos fel pe yn y baradwys berffeithiaf. Nol dygn ddringo a dyfal gasglu llonaid cadach gwyn o "gaws llyffant fel y geilw gwyr mawr Mon y mushroom, daethpwyd i'r bwlch yn mhen y mynydd, ac i'r ffordd fawr lydan sydd yn arwain o'r Llan i Fachynlleth a'r mor. Cyn gwneyd y rheilffordd, ar hyd yr hen dramwyfa hon y dygid plwm y Tyisa i'r porthladd ac y cludid calch o'r Dder- wenlas i'r wlad. Erbyn hyn, tyf y glaswellt yn drwch ar hyd-ddi, a phora y defaid mewn tawelwch, ar hyd yr ochrau rhedynog, ar bob llaw. Wrth gerdded ar garped yr hen heol, lydan, difyr oedd gweled ambell wningen yn croesi o'm blaen ac yn dianc i'w ffau, a'r defaid dof yn codi eu penau i fyny dros y rhedyn i gael golwg ar y teithiwr dieithr a dorrai ar eu heddwch. Gwelais wenci main yn rhedeg yn gyflym ar draws y ffordd ac yn ymguddio mewn eiliad o'm golwg. Arosais hefyd i syllu ar y pryfyn bychan tlws hwnnw, yr arferem fel plant ei alw yn "shini flewog ac yn "deiliwr." Y fath dlysni oedd yn ei wisg o ddu a melyn a choch. A phwy oedd yno i edmygu ei ogoniant a mawrygu ei wneuthurwr ? Rhwydd y gellid dweyd, Mor lliosog yw dy weithredoedd, 0 Arglwydd! gwnaethost hwynt oil mewn doeth- ineb llawn yw y ddaear o'th gyfoeth." Wedi gadael y mynydd-dir a'r rhedyn a'u trigolion lliosog ac amryfal, daethum i bentref bychan Dolyronen, rhyw ddeucant neu dri o latheni o Dalywern. Yng ngwaelod y pentref llifa yr Ednant ac afon Gwydol i'w gilydd. Gorphwysa tagnefedd paradwys ar y fan. Y mae y cwm yn hynod gul a'r coedwigoedd yn dewion, ond yn llawn harddwch a swyn, tra dyfroedd yr afonydd a nodwyd fel y grisial pur. Yn Dolyronen y cyfanedda yr Hybarch John Tibbott, saer-maen a phregethwr o gryn wasanaeth a pharch. Cefais amser difyr yn gwrando arno yn adrodd ei adgofion am seraphiaid (ac ereill) y pwlpud Cymreig. Yno hefyd y triga yr hen fam, Mrs. Evans (Trannon a Chwmmawr gynt) yn iraidd a bywiog ei hysbryd, ac yn llawn adgofion am yr hen Belican, Isaac Jones, y Stay, a degaij eraill o hen weision y Brenin. Unwaith etto cyrhaeddais Dalywern. Yr oedd y ty, yr afon, y perthi, y coedydd, y capel a'r fynwent yr un fath, ond fod y ty yn wacach a'r Fynwent yn Llawnach. Daeth tonau o hiraeth drosof wrth feddwl fod yr hen fam Mrs. Lloyd, fu mor dyner ohonof lawer gwaith, wedi huno, ac wedi ei symud o swn y byd i'r hen fynwent gyssegredig sydd yn ymyl ac yngolwg y ty. Y mae y ferch, Miss Lloyd, yn llanw yr hen gylchacyn dwyn ymlaen draddodiadau y teulu mewn symledd ac urddas, a'r mab Mr. Lloyd, yntau hefyd newydd gael ei fedyddio ac felly wedi coroni bywyd o foesol- deb prydferth a llwyr ymroddiad i Grist. Er hyn oil y mae "can yn eisiau," a theimlir fod un yn absenol o hyd. Melus fydd y fwyn gyfeillach yn y bur ogoniant." Ar ddiwedd y dydd wele fi etto yn yr hen ystafell wely y bum ynddi ugain mlynedd yn ol. Yr oedd mor gynes a diddos ag erioed. Ni pheidiodd ei swynion, ond cynyddent o hyd. Deuai enwogion newyddion o hyd i anrhydeddu y lie ac i dderbyn o'i fendithion. Y llyfr ddaeth i'm llaw oedd Cofiant Robert Jones, Llanllyfni, ac yno y bum yn darllen drosodd drachefn hanes y syrthio trwm yn yr ystafell hono. Yng nghanol cyfaredd hen adgofion anwyl, a chan wrando ar yr afon sydd yn myned trwy y buarth, yn murmur ac yn ymswllian, y syrthiais i gysgu. Melus yw hun y gweithiwr," ac felly y teimlwn inau, os oeddwn yn teimlo o gwbl. Deffroais ar fore y Sabboth etto a'r Gwydol yn canu ar ei thaith, yr adar yn pyncio, yr haul yn gwenu, a'm calon inau yn gwaeddi am y Duw byw, ac yn ysgafnu wrth syllu ar y cyssegr bach oedd yngolwg y ffenestr. Cenais i mi fy hun Y Sabbath hyfryd wyl yw hon, Na flined gofal byd mo'm bron, Ond boed fy nghalon i mewn hwyl Fel telyn Dafydd ar yr wyl." Gwelais eisieu ambell wyneb yn y capel. Y mae yr hen dad Tibbott yn absenol trwy gys- tudd, ac Humphreys, hen arweinydd y gan am flynyddoedd meithion wedi ei gaethiwo i'r gornel. Pasiodd y Sul yn ddymunol. Y mae y gynulleidfa yn llawn o bobl ieuainc a'r hen yn brin. Gwisga yrYsgol Sul agwedd lewyrchus, a chyfarfyddwyd a rhai cedyrn yn yr Ysgryth- yrau yno. Cawd yr eglwys fechan wrthi yn ddyfal yn trefnu i adgyweirio a phrydferthu' y capel. Bore Llun rhaid oedd ymlwybro tua'r fynwent a rhoi tro i blith y beddau. Gwelais fedd un wraig ieuanc iawn, a gludwyd gartref o Lundain i'w chladdu; un arall debyg a ddyg- wyd o Birmingham. Safais enyd uwchben bedd Mrs. Lloyd, ac yna yn ymyl bedd y diweddar Barch. Wm. Evans, Cwmllwyd. Saif yr olaf mewn congl o'r fynwent yn ymyl taken y capel, ac ar y garreg-goffa yr argraff Coffawdwriaeth am William Evans, Gweinidog y Bedyddwyr Yn y lie hwn, a fu farw, Mai 16eg, 1841, Yn 51 mlwydd oed. Bu yn weinidog diwyd a llafurus, Am bedair-ar-hugain o flynyddoedd. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig. Hefyd am Esther, merch y diweddar Barch William Evans a Jane ei wraig Yr hon a fu farw, Rhagfyr 8fed, 1838, yn 23 mlwydd oed. Nid oes hir na dwys eiriau,—na golud Na gwiwlan drysorau, A geidw ddyn briddyn brau 0 fol ing afael angau Hefyd Jane Evans, Gwraig y rhagddywededig. A fu farw Gorphenaf 27ain, 1864, yn 79 oed." Gwr cadarn a phregethwr melus oedd William Evans. Bu farw yn Llanidloes, ar ei daith i bregethu ym Mhenfforddlas (neu Staylittle). Yr oedd iddo ddau o feibion yn pregethu, ond buont farw yn ieuanc a gorweddant yn ymyl adfeilion hen gapel Cwmllwyd, ger Carno. Gofidiais weled y mieri a'r chwyn yn gorchuddio bedd gwr Duw; ond y mae Twm Talywern (Twm bach ugain mlynedd yn ol) wedi addaw cymeryd ei gryman i'w symud. Caffed fendith wrth y gorchwyl O'r fynwent aethum i weled bwthyn bychan llwyd a gwag a saif yn ymyl y capel. Pasiais ef yn ddigon difeddwl ugain mlynedd yn ol. Nid rhyfedd hynny, oblegid wedyn y daeth bri arno. Yma y ganwyd un o brif-feirdd, ac un o feddyl- wyr craffaf Cymru un a saif ymhlith cedyrn y pwlpud Cymreig, un a ennillodd Gadair Meirion dair blynedd yn olynol, ac a osododd Gymru dan ddyled drom iddo, trwy ei erthyglau i'r Geninen ar "Tom Ellis," Dr. Lewis Edwards,' Yn Mwthyn Cymru," ac yn Y Traethodydd ar "Brudd-der y Cymro," &c., &c. Y Parch. Rhys J. Huws, Bethesda, Arfon. Tybiwn weled rhyw debygolrwydd rhwng y bwthyn a'r gwr enwog a anwyd ynddo ffenestri bychain, muriau isel, cedyrn, trwchus, yn cudd- lechu yn y coed, dyna'r ty. Byr, cydnerth, cadarn, ymguddgarheb ddim ymfflamychu, dyna'r dyn. Yn ol eto i Dalywern at orchwyl arall. Fel yn mhob ty lie byddo hen deuluoedd crefyddol yn byw, felly yma, ceid hen stor o lyfrau, cyhoeddiadau a llyfrynau, yn ymestyn yn ol am oesoedd. Clywais fod Dr. Owen Davies, Caernarfon, wedi bod yno o fy mlaen. Gwyddwn trwy brofiad beth olygai hynny. Ond cefais Fynegiad Coleg Hwlffordd am 1848, ac ami i hen ddalen werthfawr arall, heblaw rhifynau 1-4 o'r Gzcyliedydd Amddiffynol (1833). Casgl- wyd yr yspail, canwyd yn iach i Mr. a Miss Lloyd, Tom, ac i'r lodes fach o Lundain, merch Mr. a Mrs. Humphreys, yr hon sydd well ganddi ddolydd glanau Gwydol nag ystrydoedd stwrllyd glanau y Thames. Galwyd > n Dolyronen i ffar- welio a Mrs. Evans. Cefais gwmni yr Hybarchus Tibbott i fyny y mynydd nes dod i blith y rhedyn etto. Difyr oedd ei stori: cyfodwyd llawer i hen yspryd. Ysgydwyd llaw a rhoddwyd ffarwel. Gan chwysu, dan wenau poethion yr haul, a chan gacglu mushroollls, ymdeithiais yn ol i Benfforddlas drachefn. E. K. JONES. Brymbo, Medi, 1905.

"Y GENINEN" AM HYDREF.

[No title]

Advertising

[No title]