Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Am Gymry LIundain.

News
Cite
Share

Am Gymry LIundain. CYNONFARDD.-Aeth Cynonfardd ar ym- weliad a Chymdeithas y Cymmrodorion yn Nghaerdydd ar derfyn ei ymweliad a Llundain. Yno, ddiwedd yr wytbnos ddiweddaf, bu'n rhoddi hanes ei deithiau yn ngwlad Canaan, a'i brofiad yn Jerusalem. Y DEFODWR.—Crefyddwr defosiynol iawn yw'r Arab, meddai Cynonfardd wrth bobl y Tabernacl y Sul o'r blaen. Gedy bob gorch- wyl er mwyn addoli ar yr awr briodol, ond pan ar ei weddi ceidw un llygad yn gil-agored er gweled a oes rhywbeth gerllaw iddo y gall ei ladratta heb i neb ei weled. CYNGHERDD WALHAM GREEN.-Mewn colofn arall gwelir hysbysiad am y cyngherdd uchod sydd i'w gynnal ar yr 28ain. Mae cyngherddau Walham Green yn arfer bod yn hynod lwydd- ianus ym mhob ystyr, ac yr oedd un y llynedd yn rhagori ar bob un a gafwyd o'i flaen. Ond a barnu oddiwrth y rhaglen bydd yr un eleni yn rhagori arno. Gyda'r fath unawdwyr ag a fydd yno, a chor fel Cor y Cymric, dylai y neuadd fod yn orlawn. Ac yn ychwanegol y mae amcan y cyngherdd yn un ddylai apelio at holl Gymry y rhanbarth. HANES EMYNWYR.—Yr wythnos nesaf mae'r bardd a'r emynydd Elfed i ddechreu ar gyfres o ddarlithiau arbenig yn y Tabernacl ar Hanes Emynwyr ac Emynau Cymru." Nid oes neb a wyr fwy am emynyddiaeth ein cenedl na Elfed,

Advertising

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.,

Y DYFODOL

Notes of the Week.

Am Gymry LIundain.