Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE Miss Gwladys Jones, B.A., o Bodfeiny, Mon, yn myned allan ar fyrder i'r India i wasanaethu fel cenhades o dan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. DYCHWELODD yr Henadur Haydn Jones i'w gartref yn Nhowyn, Meirionydd, dydd Gwener o Ddehau Lloegr, lie y buasai yn gorphwys am beth amser oblegid fod ei iechyd wedi ei wanhau drwy orlafur ym mrwydr Addysg y sir. LLAWEN genym ddeall fod Mr. Herbert Lewis, AS., yn gwella yn foddhaol ar ol y driniaeth feddygol lem y bu dani yn ddiweddar. Mae eisoes wedi gwella yn ddigon da i fyned i Brighton, lie yr erys er mwyn adgyfnerthiad am ychydig amser. MAE Merthyr Tydfil yn methu penderfynu pa un ai Syr William Thomas Lewis neu Mr. D. A. Thomas, A.S., a ddylai gael yr anrhydedd o fod yn Faer cyntaf o dan y freinlen newydd. Buwyd unwaith yn amheu a allesid ethol un o'r ddau, ond y mae y pwnc hwnnw wedi ei settlo. Ceir enw pob un o honynt ar restr y bwrdeisiaid. AR ol cydfyw yn ddedwydd am dros driugain, mlynedd, a chyrhaedd oedran mawr, y naill yn 79 ar Hall yn 81, bu Evan a Mary Richards, Penrhos, Llanbedr, Meirionydd, farw yr wythnos ddiw- eddaf o fewn ychydig oriau i'w gilydd, a chladd- wyd y ddau yr un diwrnod yn mynwent Trawsfynydd. DRWG genym ddeall fod y gweinidog a'r ysgrifenydd adnabyddus, Emrys ap Iwan, yn bur wael, ac yn gwbl analluog i wneyd dim gwaith. Yn ol cyfarwyddyd ei feddyg erys yn awr yn Ninbych-y-Pysgod, ond bwriedir ei anfon am fordaith i For y Canoldir pan gryfha ychydig. DYMA y personau sydd ar y rhestr fer" o blith y rhai y dewisir Cofrestrydd Prifysgol Cymru :—Yr Athraw Angus, Aberystwyth; Mr. James Evans, Cofrestrydd Bwrdd Amaeth Mr. W. John Evans, o Swyddfa Cyngor Sir Llun- dain Mr. W. Hill, o'r Ysgol Llyngesol Fren- hinol, Caint; Mr. John Sturton, Edinburgh; ar Parch. J. Owen Thomas, M.A., Menai Bridge. YN Eisteddfod y Rhyl y flwyddyn ddiweddaf rhoddwyd gwobr o £5° a medal aur am gyf- ieithu i'r Saesneg yr hen waith Cymreig a elwir De Carolo Magno." Ennillwyd hi gan y Parch. Robert Williams, M.A., curad Llan- dudno. Mae Cymdeithas y Cymmrodorion, mewn undeb a Chymdeithas yr laith Gymraeg, yn awr yn dwyn y cyfiethiad drwy'r wasg, a disgwylia llenorion Cymru am dano gydag aidd- garwch. DAW tysteb Mr. T. Gwynn Jones, y bardd a'r nofelydd ieuanc Cymreig, ymlaen yn dra bodd- haol. Dengys eisoes fod yng Nghymru lawer calon sy'n caru lien yr hen Gymraeg, ac yn parchu athrylith lenyddol ein gwlad. Gorlafur sydd wedi tori iechyd Mr. Gwynn Jones i lawr; ond dywed ei feddygon y bydd iddo wella trwy fyned i'r Aifft am y gauaf, a chymeryd seibiant hir oddiwrth bob gwaith. Y mae yntau wedi penderfynu myned yn ol eu cyngor, er mor anodd yw gadael ei briod a'i dri phlentyn bach ar ol. Gall unrhyw un sy'n caru chwyddo'r dysteb anfon at Mr. Robert Bryant, Caernarfon. YNG Nghymanfa Ddirwestol Lleyn ag Eifion- ydd, a gynhaliwyd yr 2il a'r 3ydd cyfisol, dygodd brawd i sylw y priodoldeb o wneyd gwrthsafiad cryf ac unol ar aelwydydd y wlad yn erbyn yr arferion anheilwng ynglyn a'r cigarettes a'r myglys. Cefnogwyd ef yn wresog dros ben gan amryw o wragedd, a merched ieuainc. Pasiwyd y penderfyniad canlynol gydag unfrydedd a brwdaniaeth: Ein bod yn anog yn ddifrifol holl wragedd a merched ieuainc Cymru i arfer eu dylanwad ymhob modd er darostwng ac atal yr arferion isel a gwastraffus ynglyn a'r cigarettes a'r myglys ac yn gwahodd yn daer arweinwyr crefyddol a chymdeithasol Cymru i'w cynorthwyo." "MAE ysgolfeistriaid Arfon," ebe rhyw ohebydd yn y Goleuad, "yn hel eu harfau ynghyd i wrthryfel a'r Awdurdod Addysg. Asgwrn y gynen yw'r ysgol nos y llynedd. Arferent gael pum' swllt yr awr am gynnal ysgol nos am ddwy noswaith yn yr ysgol, yr hyn olygai oddeutu pum' swllt ar hugain yr wythnos o dal i'r ysgolfeistriaid yn ychwanegol at eu cyflogau arferol. Eleni mae'r awdurdodau wedi gostwng y tal i bedwar swllt yr awr sef punt am y ddwy noswaith yr wythnos. Yna streic. Mae rhywamgylchiadau yn dangos gwir egwyddor pawb. Beth amser yn ol nododd y Pwyllgor Addysg na roddent ond gwerth hyn a hyn y pen o lyfrau i'r ysgolfeistriaid ar gyfer y plant. Buont yn cwyno a chwyno am rai pethau eraill, ond neb am streicio. Wrth ddarllen areithiau ein hysgolfeistriaid, chwi dybiech mai'r plant yw pobpeth, ac y dioddefant unrhyw beth er mwyn y plant. Y fath hymbyg. Gostwng swllt yr awr yn eu cyflogau yn unig a bair iddynt wisgo arfau. 0 leiaf hyn yn unig sydd wedi ei brofi." COLLED ddirfawr i sir Gaernarfon, ac i Borth- madog ar cylch yn enwedig, fydd marwolaeth Dr. W. Jones-Morris; yr hyn a gymerodd le bore dydd, Sadwrn yn Llundain, lie y buasai o dan driniaeth feddygol. Yr oedd yn un o lywodraethwyr Coleg y Gogledd, yn aelod o Bwyllgor Addysg sir Gaernarfon, yn un o reol- wyr Ysgol Ganolraddol Porthmadog, ac yn gadeirydd y Cyngor Dosbarth. Yr oedd hefyd yn un o brif golofnau Cymdeithas Ddirwestol y sir. Bu am lawer blwyddyn yn ysgrifenydd Cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas y Meddygon. Ni cheid neb mwy amlwg nag ef gyda phob mudiad crefyddol a dyngarol, a bydd hiraeth mawr am dano. Annibynwr selog ydoedd o ran crefydd, a Cheidwadwr yr un mor selog mewn gwleidyddiaeth. Sonid am dano fel ymgeisydd Ceidwadol posibl am gynrychiolaeth Lleyn ac Eifionydd yn yr etholiad nesaf.

WELSH EDUCATIONAL MATTERS.

WELSH EDUCATION BOARD.