Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. YR EISTEDDFODAU.—Rhoddir lie amlwg i'r Diwygiad a'i hanes yn ein rhagleni eisteddfodol eleni, ac yn ystod y gauaf dyfodol ceir oyfle gan ein traethodwyr i ddweyd eu barn am y mudiad byd, glodus hwn. EMYNAU.— Addawa'r Parch. Elvet Lewis gyfres o ddarlithiau arbenig ynglyn a Chym- deithas Lenyddol y Tabernacl ar Hanes Emyn- wyr ac Emynau Cymru, yn ystod y gauaf presenol. Daw'r manylion allan ar fyrder, a bydd cael barn Elfed ar yr emynwyr yn sicr o fod yn dra dyddorol i bawb a gar hanes crefydd ein gwlad. Y LLAETHWYR.—Yr wythnos hon oedd wyth- nos fawr yr Arddangosfa Laethyddol. 'Roedd yr Agricultural Hall yn llawn o lestri llaeth, ymenyn, a buchod, ac aeth Cymry'r ddinas yno wrth y miloedd er cael allan pa newydd- bethau sydd wedi eu darganfod yn ddiweddar ynglyn a'r fasnach. Ceir y manylion mewn rhifyn dyfodol. RHYBUDD.—Yr ydym wedi derbyn amryw lythyrau yng nghylch y foneddiges (?) honno y dywed ei bod o Lanberis, yr ysgrifenodd y Parch. J. Crowle Ellis yn ei chylch bythefnos yn ol. Bydded ein darllenwyr ar eu gocheliad rhagddi. Byddai yn dda gan yr heddgeidwaid gael gair o'i hanes hefyd, ond hyd yn hyn aflwyddianus ydynt hwy i ddod i gyffyrddiad a hi. Pwy all eu helpu ? CYNONFARDD.-Un o wyr mawr yr areithfa yn y 'Merica yw'r Dr. Cynonfardd Edwards, a chyfrifir ef yn safon ar areithyddiaeth ym mhob gwlad. Bydd a'r ymweliad ar ddinas yma yn ystod y Sul (yfory), a cha'r Llundeinwyr gyfle i wrando arno, nid yn unig fel areithiwr, eithr fel duwinydd hefyd. TROS Y DON.-Tra yn son am y 'Merica, dylem nodi fod ein cydwladwr ieuanc poblogaidd, Mr. Evan Griffiths, King's Road, Chelsea, wedi hwylio am dro i lanau'r Tawelfor, yr ochr draw i gyfandir yr America, dydd Mercher diweddaf. Aiff Mr. Griffiths drwy y prif leoedd yn yr Unol Dalaethau, a bydd yn absenol o'r wlad hon hyd tua Mai yn y flwyddyn nesaf, pryd y daw yn ol drwy Japan a'r India. Pob Ilwydd a mwyniant iddo ar ei daith ddyddorol. Y BRYTHONWYR.—Cyll y Gymdeithas hon wasanaeth un o'r ffyddloniaid eleni yn absen- oldeb Mr. Griffiths, ond deallwn fod y cyfarfod- ydd i'w cynal fel arferol ar ol mis Hydref. Mae'r ysgrifenyddion, Mri. Winton Evans a Goronwy Owain, yn prysur drefnu y rhaglen am y tymhor, a gall y sawl a hoffo ymuno a hi ond gohebu ag un o'r ddau wyr hyn. MARWOLAETH.-Nos Wener, y Isfed, yn nhy ei chwaer, yn Idris Terrace, Dolgellau, bu farw Mr. W. Thomas Lloyd Roberts, Fulham. Mab hynaf y diweddar Mr. Robert Roberts, Glan Wnion, o'r dref honno, oedd yr ymadawedig, a brawd i'r Parch. Hugh Roberts, Treffynon, a W. Lloyd Roberts, argraphydd, Llanrwst. Dioddefodd gystudd poenus am amryw fisoedd. Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol ym Myn- went Salem, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. R. Ernest Jones, R. Morris, B.D., ac Evan Roberts. ORDEINIO CENHADWR.-Bydd yn ddyddorol gan lawer o Gymry'r ddinas wybod fod Mr. Emlyn H. Davies, B.A., B.D., yr hwn fu gynt yn masnachdy Mr. Ashton Evans, Earl's Court Road, ac yn aelod yng Nghapel Radnor Street, ac wedi hynny yn fyfyriwr yn New College, wedi ei ordeinio i fyned allan yn genhadwr i Calcutta o dan Gymdeithas Genhadol Llundain. Yng Nghapel y Graig, Machynlleth, y cymerodd hynny Ie, dyddiau Mercher a Iau yr wythnos ddiweddaf. Gweinyddwyd gan y Parchn. Josiah Jones, Machynlleth; Job Miles, Aberystwyth (Cadeirydd Undeb yr Annibynwyr); R. Wardlaw Thompson, o'r Ty Cenhadol; Proff. J. M. Davies, M.A., Bangor, ac eraill. Y mae gyrfa athrofaol Mr. Emlyn Davies wedi bod yn hynod ddisglaer, a disgwylir pethau mawrion oddiwrtho yn y maes cenhadol. Y PARCH. G. HARTWELL JONES.-Y mae llyfr ein cydwladwr talentog, Rheithior Nutfield, ar Wawr Gwareiddiad yn Ewrob," yn tynu sylw mawr, nid yn unig yn ywlad hon ond mewn gwled- ydd eraill. Cymer arweinwyr y Diwygiad yn Rwssia ddyddordeb neillduol ynddo, ac y maent yn barod yn ymgynghori a Mr. Jones ar faterion pwysig. Ar sail y llyfr anfonwyd hefyd i'r awdwr wahoddiad i gadair athrawol, mewn rhan yn glasurol ac mewn rhan yn dduwinyddol, yn un o golegau America. Digon tebyg fod en- wogrwydd cynyddol Mr. Hartwell Jones yn poeni tipyn ar y rhai fuont yn offerynol i'w gadw allan o swydd yn un o sefydliadau addysgol ei wlad enedigol. EGLWYS SHIRLAND ROAD.-Gwasanaethwyd yr eglwys hon am rai Suliau yn ddiweddar gan y Parch. J. E. Davies, Treffynon. Mae Mr. Davies nid yn unig yn bregethwr rhagorol ond hefyd yn ddarlithydd penigamp. Un noson, i gynulliad lliosog, traddododd ei ddarlith ar Thomas John, Cilgerran," a chafwyd portread byw iawn o'r hen bregethwr, a theimlad pawb oedd eu bod wedi cael un o'r darlithiau mwyaf hyawdl a dyddorol a gawsant erioed. Gwnaed casgliad er budd Cangen Ysgol Kensal Rise. Byddai yn werth i bob eglwys sydd yn cymeryd dyddordeb yn yr hen bregethwyr fu yn ysgwyd Cymru fynu clywed y ddarlith hon. CHARING CROSS ROAD.-A most enjoyable evening was spent on Wednesday, September 27th, at Charing Cross Road Welsh Chapel, a .crowded house, testifying to their love for their pastor, Rev. Peter H. Griffiths, whose return was fully welcomed, after his serious illness and bereavement. The occasion was the opening the Temperance Society. An excellent pro- gramme was gone through, consisting of songs, of the winter session, in connection with duetts, and a glee by the young people attached to the chapel. Mr. Griffiths gave a short address dwelling chiefly on temperance, and earnestly exhorting the audience to become abstainers. A pleasant feature of the evening was the playing on the clarionet by a young Russian, who was loudly applauded. Mr. E. Evans gave two very telling recitations in capital style. Refreshments being served to the company present, and the singing of Hen Wlad fy Nhadau," brought to a close a most pleasant evening. The secretary, Mr. Dewi Evans, has a splendid programme of events for the session.R. UNITARIANISM.-For the second time, Mr: Delta Evans, editor of the Christian Life, has received a unanimous and pressing invitation from the Southend Unitarian Church to under- take the pastorate there. He has the matter under consideration, and if arrangements can be made whereby he may still carry on his editor- ial work in London, he will in all probability accept the call. The church at Southend was established about fifteen years ago as an out- come of the efforts of the late Rev. Robert Spears, founder of the Christian Life and editor of that organ up to the time of his death seven years ago. DARLITH.- Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol bydd yr Hybarch Ddr. Cynddylan Jones yn darlithio nos Wener nesaf yng nghapel Clapham Junction. Nid oes angen canmol y darlithydd, a diau y bydd y ddarlith yn deilwng o honno. Eos DAR.-Nid yn ami y ceir cyfle i glywed y gwr enwog hwn, ond rhoddir y cyfle yn fuan, gan y bydd yr Eos yn canu pennillion yng nghyngherdd blynyddol Falmouth Road, nos dydd yr Arglwydd Faer (Tach. 9fed). Ceir y manylion eto. FUNERAL OF THE LATE MR. ARNOLD.-It is with deep regret we have to announce the death of David Lewis Arnold, who was taken away suddenly on the 18th September, at the early age of thirty-six years. The deceased resided at 3, Tyndale Place, Upper Street, and was a member of Wilton Square Welsh Chapel, the pastor of which attended at the house and conducteda short but impressive service before the sad procession left for Euston, en route for his old home, Portmadoc, where the interment took place on Friday, 22nd September. At Euston a number of Welsh friends were gathered together, many from a distance, to show their respect for the departed, and their loving sympathy with the bereaved. Messrs. Cooksey and Son, of 266, Upper Street, and 52, Amwell Street, carried out all the arrangements efficiently. The plate of inscription contained the following :— "David Lewis Arnold; bu farw Medi 18fed, 1905, yn ei 36 mlwydd oed."

[No title]

Advertising

Notes of the Week.