Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CYRDDAU MAWR.-Mae son am y cyrddau mawr yn profi fod tymhor y gwyliau drosodd am eleni eto. Boed i'r holl eglwysi gael cyn- hauaf llawn am y misoedd dyfodol. DIOLCH.—Diolch am y cynhauaf fydd Eglwys St. Benet yn ystod y Sul, yfory a chynhalia pobl y Tabernacl eu gwyl bregethu flynyddol hwythau. PERERINDOD.- Yr wythnos hon aeth Mr. Vincent Evans gydag ychydig gyfeillion Cym- reig ar ymweliad a dinas Rhufain ac ardaloedd glan Mor y Canoldir. Ai AT Y PAB ?—Ond ai tybed mai mynd am dro at y Pab ydoedd Feallai ei fod am wneyd penyd am dario mor hir bob blwyddyn gyda chyfansoddiadau'r beirdd, neu'r peth tebycaf yw ei fod am iddo gadeirio yn un o gyfarfodydd yr Eisteddfod fawr yn 1909 GWAITH Y BEIRDD.—Tra'n son am waith y beirdd mae'n ddyddorol nodi fod cyfrol y Rhyl" allan o'r wasg, ac mae'n un o'r cyfrolau mwyaf trwchus sydd wedi ei throi allan hyd yma o dan nawdd Cymdeithas yr Eisteddfod. Rhoddir 226 tudalen wythplyg am y swllt eleni, ac os nad yw'r farddoniaeth o un gwerth, wel, mae'r papyr yn llawn digon am y pres Y CYNWYS.—Yn y gyfrol rhoddir awdl fudd- ugol Machreth ar Geraint ac Enid," a phryddest faith Machno ar y diweddar "Tom Ellis," a llawer iawn o ddarnau barddonol ereill. Yn ychwanegol at hyn argreffir y ddwy ddrama a gyhoeddwyd yn gyfartal yn yr wyl honno, a dwy ramant wir dda ydynt hefyd; a byddai yn werth gwneyd ymgais i'w chwareu yn rhai o'n neuaddau mawr. Y BEIRNIAID.—Mae'r beirniaid yn cael lie anrhydeddus yn y gyfrol. Curant weithiau yn ddidrugaredd ar y cystadleuwyr heb amcanu at eu cyfarwyddo. Mae beirniadaeth y Proff. J. Morris Jones yn ddarllenadwy ddigon, ond fe gondemnia lawer o ddulliau ieithyddol a ganiateir gan ramadegwyr yn gyffredin, fel mae'n anodd iawn i fardd wybod pa reol i'w dilyn. Pan geir geiriadur a gramadeg addawedig y proffeswr yna bydd genym le i redeg am gyfarwyddyd. EISTEDDFOD BOXING NIGHT.-Mae rhaglen yr wyl flynyddol hon eisoes wedi ymddangos, ac er fod y pwyllgor ychydig yn ddiweddarach eleni nag yn y blynyddoedd o'r blaen y mae digon o amser wedi ei roddi i'r cystadleuwyr i wneyd y gwaith a ofynir ganddynt. Dylanwad y Diwyg- iad yw mater y prif draethawd, a rhoddir gini i'r merched am y chwedl oreu. Mae'r adran farddonol yn well nag arfer, a rhoddir gwobr- wyon hael am gyfieithu ac am adrodd. CERDDOROL.-Ond wedi'r cwbl yr adran gerddorol yw'r adran sydd i dynu'r bobl ar noson yr Eisteddfod, ac i hon y mae'r pwyllgor wedi rhoddi ystyriaeth canmoladwy. Addewir gwobrau digon mawr am yr holl destynau gan mai darnau lied hawdd sydd wedi eu dewis. Mae un nodwedd newydd yn yr adran hon, sef gwobr am ganu'r delyn ac un arall am ganu penillion gyda'r delyn, ond paham yr atelir y wobr os na fydd cystadleuaeth ? Os del ym- geisydd i'r maes dylid rhoddi cyfle iddo i ddangos beth a all wneyd, a thrwy hynny rhoddi tipyn o gefnogaeth i'r hen offeryn. Gellir cael y rhaglen oddiwrth Mr. J. O. Davies, 28, College Row, Walthamstow. PRIODAS.-Dydd Mercher, igeg o'r mis hwn, unwyd mewn glan briodas yng nghapel y Bedyddwyr Cymreig, Tottenham, Mr. John E. Davies, o'r Morlys, a mab y diweddar John Davies, o Groesoswallt, a Miss Margaret J. Davies, merch Mr. a Mrs Davies, 49, Northum- berland Park, Tottenham. Y Parch. J. Henry Davies, Cefn Coed, ynghyd a'r Parch. W. W. Sidey, fu'n rhoddi'r cwlwm priodasol, a daeth torf ynghyd i ddymuno'n dda i'r par ieuanc ar yr uniad. Y GWAHODDWYR.—Gwasanaethwyd ar Miss Davies, fel morwynion y briodas, gan Miss Polly Davies, Hatherley Grove a Miss May Richards, Sun Street, a bu Mr. Tom Bunting, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Ted Jones, Commercial Road, yn gweini fel gweision ar y gwr ifanc. Caed croesaw-wledd yn nhy rhieni y ferch ieuanc, ac ar ol y dymuniadau arferol aethant am dro i Landudno i dreulio eu gwyl fel. 'Roedd Miss Davies, yn awr Mrs. Davies, yn aelod blaenllaw o Gor Merched y Kymric, ac mae'r gweddill o'r merched hygar yn bwriadu dilyn ei hesiampl dda cyn bo hir. PRIODAS ARALL.—Ar yr un dydd aeth un arall o wyr y gan o flaen allor Hymen, a bu'r amgylchiad yn fath o uchel wyl yng nghapel Castle Street Y gwr ifanc yn y lie hwn oedd Mr. John Owen, King Street, Camden Town, bachgen sydd yn adnabyddus iawn i gylch cerddorol y ddinas fel trefnydd rhai o gyng- herddau goreu Castle Street yn ystod y tair blynedd diweddaf hyn. Ei gydmar oedd Miss Emma Jones, Park Street, Park Lane, a gweinyddwyd ami fel morwynion gan Miss Emily Webb, Miss Annie Owen, a Miss Florrie Richards, tra'r ymwrolodd Mr. Owen Richards, Islington, ddigon i fod yn best man" am y tro. Y CWlVINI.- Y Parch. D. C. Davies, Caerdydd, fu'n rhoddi'r cwlwm, ac ar ol y gwasanaeth rhoddwyd derbyniad croesawus i'r gwahodded- igion gan Mrs. Thomas, yn Park Street, pryd y daeth ynghyd Mrs. a'r Henadur T. H. W. Idris, Ysw., J.P., L.C.C., Mr. a Mrs. John Hinds; Mr. a Mrs. Joshua Davies, Caerdydd, Mr. S. Hewett, Llandudno, a Mr. D. C. Owen, Aberystwyth, &c. Yn ystod y prydnawn aeth y par ifanc i Ilfracombe i dreulio eu mis mel. Yr oedd rhestr yr anrhegion yn amrywiol, gwerthfawr a lliosog iawn, a derbyniwyd yn ystod y prydnawn nifer o longyfarchiadau o bell ac agos. UN ARALL.—Wythnos brysur ym myd y priodi oedd yr wythnos ddiweddaf. Dydd Mawrth, y i2fed, priodwyd yn eglwys Seisnig Notting Hill, Mr. R. T. Jones, o Bramley Road, Notting Hill, a Miss C. T. Starsmeare, o'r un ardal. Un o fechgyn Glandyfi, Cered- igion, yw Mr. Jones, ac yn aelod yng nghapel Shirland Road, ac un o ferched hygar Llun- dain yw ei ddewis-wraig. Ar ol y croesaw yn Testerton Street, ymadawsant am Aberystwyth i dreulio y mis mel. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog yma eto, a gofod a balla i ni eu cofnodi. Bywyd gwyn fo rhan y tri par ded- wydd hyn yw dymuniadau eu gwahanol gyfeillion ac ewyllyswyr da. AFIECHYD MEDDYG.—Drwg genym ddeall fod Dr. D. L. Thomas, Swyddog Iechydol Stepney, wedi ei gymeryd yn bur wael, ac ofnir y bydd raid iddo fyned o dan operation. Yn ei gartref yng Nghastell-Newydd-Emlyn yr erys ar hyn o bryd. CERDDOROL.—Y Battersea Borough Band ennillodd y wobr yn Bromley (Kent) y Sadwrn diweddaf. Y mae y seindorf llwyddianus hwn wedi dod yn bur boblogaidd ac yn feistri yn y gelf o dan arweiniad ein cydwladwr, Mr. Tom Morgan. CYRDDAU'R DYFODOL.—Fel y gwelir oddi- wrth golofn Y Dyfodol," y mae rhagolwg am dymhor prysur ym myd y cyrddau, ac os am eu gwneyd yn llwyddiant, anogwn ysgrifenydd- ion ac eraill i'w gwneyd yn hysbys drwy gyfrwng y WELSHMAN, yr hwn sydd yn myned yn awr i bob teulu Cymreig drwy'r ddinas. Fe dal yn dda iddynt.

Y DYFODOL

Advertising