Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

TAITH DRWY OHIO.

News
Cite
Share

TAITH DRWY OHIO. Gan Ellenor Williams, Castle Street. 0 Cleveland, Ohio, yr ysgrifenais ddiweddaf. Pan ar gychwyn oddiyno cefais y pleser mawr o gyfarfod a'r Parch. William R. Edwards, Gran- ville, N.Y., un o hen gyfeillion y dyddiau gynt, pan oedd yn fyfyriwr yn athrofa y Bala. 0 Cleveland aethum i Akron i wasanaethu yr eglwys Gymreig. Nid oes yno weinidog, ond mae gan y frawdoliaeth y capel bach mwyaf dymunol. Mae yn grwn fel theatre; mor hawdd siarad ag anadlu ynddo. Drwg oedd genyf weled can lleied o Gymry yn cymeryd dyddordeb yn yr achos mawr. Arosais am rai dyddiau yn y lie i weled y cleifion a'r hen bobl. Cefais groesaw calon i aros gyda Mr. a Mrs. Thomas Richards yn eu cartref hyfryd. Yno y treuliais y Fourth of July, a dyna dawel oedd yn yr ardd yn tynu y currants duon, cyn i'r robin goch helpu ei hunan a'i deulu a hwynt. Yn min yr hwyr aeth Carlo, y ci du mawr, a minnau i'r gwernydd coediog oedd gerllaw i chwilio am wningen wen, ond ni fedrai Carlo na minnau redeg yn ddigon buan i ddal yr un o breswylwyr y tyllau. Cefais groesaw mawr gan y blaenor Thomas Griffiths a'i briod ac eraill o deuluoedd yr eglwys fach. 0 Akron aethum ar ail ymweliad ag East Greenville. Dyna y diwrnod poethaf aeth dros fy mhen erioed, yn croesi y gwastad-dir i East Brookfield. Dyna falch oeddwn o weled y brawd Thomas Rees, a Harri, y ceffyl du, yn fy nghwrdd; yn lie bod raid i mi gerdded dwy filltir a haner drwy y gwres angerddol. Hyfryd o le i aros sydd gyda Mr. a Mrs. James Thomas, y Store. Da 3th y Sul, a dyna ddydd a gwlith y nefoedd arno—y ddwy eglwys Gymreig yn uno, a daeth llawer o Gymry Massillon a'r cylchoedd i gyn- orthwyo. Anerchqdd y Parch. Mr. Long a chanodd chwaer, nes oedd y gwrandawyr oedd wedi myned allan yn gorfod aros wrth y drysau i wrando. Credwn y bydd ol y Sul hwnw ar eneidiau yn East Greenville. Garw oedd genyf fod yr hen frawd Thomas Thomas yn rhy sal i fod yn y capel. Nid oes ei ffyddlonach ef a'r anwyl Mrs. Thomas. Gwelais golled yn y capel am bresenoldeb Mrs. Rees Harris, trwy afiechyd, a Mrs. William Thomas, yr hon oedd wedi myned i Gymru i weled ei mam oedranus. Mae yr hen frawd Thomas Lewis yn llawer gwell. Efe a'r brawd James Thomas ddarfu gychwyn yr achos Cymreig yn East Greenville. Nid oedd modd mesur nac amgyffred faint mae yr hen Gymry wedi wneyd i helpu gwareiddiad a Christionogaeth i gymeryd meddiant o'r wlad leuanc fawr hon, trwy gadw eu Berhelau bach yma ac acw. Drwg mawr y lie yw fod dim gwaith i bobl, ond gyda ffermwyr. Mae cnydau toreithiog ar y meusydd. Yr oedd yn gynauaf gwenith ar y brawd Rees Harris yn y Grove. Hyfryd oedd genym gwrdd a'r cyfreithiwr ieuanc addawol Tom Davies. Mae wedi pasio yr uchaf ar y rhestr yn Columbus ar derfyn y ieuanc crefyddol ac yn bregethwr cymeradwy gyda'r Bedyddwyr. Itymor. Heblaw hyn, mae Mr. Davies yn ddyn ieuanc crefyddol ac yn bregethwr cymeradwy gyda'r Bedyddwyr. I Sommerdale yr oeddwn i fyned o East Greenville, ac i mi gael diwrnod da wrth fyned, aeth y brodyr Thomas Rees a David Davies, gynt o Cefn Mawr, gyda mi i Massillon, er mwyn i mi gael gweled y dref brydferth hono, sydd yn cynyddu toor gyflym. Mae yr achos Cymreig wedi marw J"1* Sommerdale, ond mae yno ychydig deulu- pedd Cymreig. Ar gais Mr. a Mrs. J. H. Thomas, o East Greenville gynt, a Mrs.' ^ottomy, merch Mr. a Mrs. John James, o Alliance, yr aethum i Sommerdale am ddwy noson. Digwyddodd fod yn ystormus iawn y ddwy noson, er hyn daeth cynulliadau da. Seisnig oedd y cyrddau ag eithrio ambell i brofiad Cymreig gaem gan yr hen bobl. Can- wyd yno rai o emynau y diwygiad o dan ^rweiniad Mrs. Rottomy. Y wraig ragorol hono sydd yn arwain fwyaf y gwaith da, am nad oes gweinidog sefydlog yn y lie. Dyna drueni yw fyny. Cynhyrfwyd fy enaid y noson olaf wrth yr oeddwn i fyned o East Greenville, ac i mi gael diwrnod da wrth fyned, aeth y brodyr Thomas Rees a David Davies, gynt o Cefn Mawr, gyda mi i Massillon, er mwyn i mi gael gweled y dref brydferth hono, sydd yn cynyddu toor gyflym. Mae yr achos Cymreig wedi marw Yn Sommerdale, ond mae yno ychydig deulu- oedd Cymreig. Ar gais Mr. a Mrs. J. H. Thomas, o East Greenville gynt, a Mrs.- ^ottomy, merch Mr. a Mrs. John James, o Alliance, yr aethum i Sommerdale am ddwy noson. Digwyddodd fod yn ystormus iawn y ddwy noson, er hyn daeth cynulliadau da. Seisnig oedd y cyrddau ag eithrio ambell i brofiad Cymreig gaem gan yr hen bobl. Can- wyd yno rai o emynau y diwygiad o dan arweiniad Mrs. Rottomy. Y wraig ragorol hono sydd yn arwain fwyaf y gwaith da, am nad oes gweinidog sefydlog yn y lie. Dyna drueni yw hyny. Cynhyrfwyd fy enaid y noson olaf wrth weled tua dau ddwsin o ddynion ieuainc yn gadael y game o base-ball a dod i'r cwrdd i wrando yr hen stori am y groes, ac arosodd nifer fawr o honynt yn yr ail gyfarfod. Mae y meusydd yn wynion, ond pa le mae y medelwyr at y cynauaf mawr? Dyna gyfle i'r eglwysi cyfoethog i weithio fyddai helpu yr eglwysi bychain hyn i gael celadon da i ddysgu y genedl ieuanc sydd yn codi. Bu Mr. a Mrs. Thomas yn garedig iawn i mi er mwyn yr achos. Gadewais am Canton i gwrdd a Miss Ceridwen Thomas, i ni gael myned i weled y llanerch gyseredig hono lie gorwedd diweddar Lywydd America, William McKinley, ond yn lie myned yn mlaen dyna fi yn gorfod aros pedair awr a haner yn Navarre am drain, felly dyryswyd fy holl gynlluniau i gwrdd Miss Thomas. Ond cyrhaeddais Canton ryw dro, ac aethum am Westlawn Cemetery i weled bedd yr arwr. Yr oedd y lie yn dawel, neb ond y milwyr oedd yn gwylio y bedd, un o'r rhai hyny yn enedigol o Lundain, a dyna dirion fu y llanc hwnw i roddi pob hysbysrwydd allai i mi. Un o'r pethau cyntaf a ofynodd oedd am y diwygiad yn yr Hen Wlad. Cefais ganiatad i ymdroi gyhyd ag a fynwn o gwmpas y llanerch fydd yn gyrchfan cenedloedd sydd eto heb eu geni i'w gweled. Yr oedd rhyw swyn rhyfedd yn y lie i mi. Mae y fynwent fach wedi ei hamgylchu a choed tewion, a'r noson hono yr oedd yr haul fel pelen o aur yn ymgolli tros y gorwel pell, a'i belydrau euraidd yn ymwthio rhwng dail y coed ar y beddau tawel. Gwnai i mi feddwl mai dyna fel y nos- wyliodd yr arwr, gan daflu pelydrau ei gymeriad glan tros y byd, o goffadwriaeth fendigedig. (Tw barhau.)

THE WELSH UNIVERSITY PROBLEM.