Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

NORTH WALES ONCE MORE.

IGERAINT AC ENID.

News
Cite
Share

ffordd-mor naturiol, mor darawiadol, mor bert, fel nas gall y darlienydd gredu nad diareb ydyw-" Carai fwynder hen arferion," hynny o fodd a wnaf fi," A gurai'n llawn o gariad," Oni wn y can honno Waetha nghur ymaith o ngho'. Yn lie hun, rhoed i'r llinos Wylo'n hallt drwy gydol nos. "Ni feiddiai ond ufuddhau," "am rywun arall mae arni hiraeth," buddiol yw nas gwybyddi," heb wybod mwy na baban dyna ychydig engreifftiau o'r hyn a nodais. Tra gall ein beirdd gynghaneddu mor rhwydd ac esmwyth a hyn, ni wiw i neb guro ar gaethni ein mesurau. Dengys brawddegau o'r fath fod y gynghanedd wedi codi'n naturiol o anianawd y Gymraeg, ac fod y bardd all eu gweu nid yn unig yn deall ei greffr, ac wedi ei urddo yn ol braint a defawd," ond ei fod wedi ei eni yn un o feib Ceridwen. Ond er fod swn rhyfel" lawer yn stori Geraint ac Enid, eto "stori garu" ydyw, fel yr awgrymais, ac yn y rhanau carwriaethol mae Machreth ar ei oreu. Mae mwy nac adlais o Ddafydd ap Gwilym yn ei ddesgrifiad prydferth o Enid:- Ei gwallt dros war fel arian Fwriai i'w gwasg ei frig aur, Nes cudrlio'i dwy ysgwydd dan Fawreddog lif o ruddaur. Anhawdd, mi gredaf, cael o hyd i dlysach canig yng ngweithiau neb o'n beirdd diweddar na honno ganodd Geraint cyn cysgu y nos ar ol gweled Enid am y tro cyntaf erioed. Dyma'r penriill diweddaf o'r pedwar :— Enid gu yn d'wydd nid gwyn Yw'r ceinwyn eira cynar; Neu'r ewyn ter ar gerhynt aig Rhag gem o wraig mor hygar Glod yr oes bydd gwel'd dy wrid Yn ofid i Wenhwyfar. Mor dyner y darlunia'r bardd drallod Enid wrth weled Geraint yn ymollwng i fywyd moethus ac esmwyth. Ar ol i Geraint enill mawr glod, Wedyn ei hewyd hoew a wanhaodd Ei feiddiol ynni a ymfoddlonodd Moethau di raid ac esmwythder hudodd Y gwr amlwg, ac o olwg ciliodd Ei lyswyr esgeulusodd-abywyd Tawel seguryd di-les a garodd. Ond er fod Enid yn canfod ac yn gofidio oherwydd ei ddirywiad- I ddwedyd rhy brudd ydoedd Llwfrhau rhag llefaru 'roedd. Er nas gwnaf eu difynu, nid yw'r llinellau treiddgar—hunan-ymddiddan Enid wrth ganfod yng ngoleu'r wawr degwch a chryfder ei gwr, a chofio mor ddi-les ei fywyd, a'i chri- Gwae im' os o'm hachos i-y mae'r haint Orug i Eraint fyw heb ragori- yn ail i ddim yn yr Awdl. Wrth ddarllen ac ail-ddarllen yr Awdl, hawdd oedd genyf gredu nad oedd, fel y dywedodd Morris Jones, angen i'r beirniaid "bryderu na phetruso un foment ynghylch y ddedfryd." Nis gallwn, yn wir, lai na gofyn, "Ai yw'r Awdl dlos hon yn nodweddiadol o'r bardd newydd' ? A geir ei chystal bob blwyddyn yn yr Eistedd- fod? Os felly, gwyn fyd yr Eisteddfod, a gwyn fyd y wlad a'i pia. Ni ddaeth awr tranc y Gymraeg eto, ac ni ddaw tra megir rhwng ein bryniau fardd all ganu fel y canodd Machreth am Eraint ac Enid." CYFANSODDIADAU BUDDUGOL EISTEDDFOD RHYL (1904) yn awr yn barod, yn un gyfrol, 226 tud. Pris Swllt. Cynwys y gyfrol:—Awdl "Geraint ac Enid," Pryddest Tom Ellis," y Fugeilgerdd, Cywydd, Caneuon, a'r Englynion goreu, &c., &c. Dwy Ddrama Gymreig, The Banner of the Red Dragon a Rhys ap Tewdwr Mawr," ynghyd a'r holl feirniadaethau. I'w chael oddi- wrth Mr. E. Vincent Evans, Ysg. Cymdeithas yr Eis- teddfod, 64, Chancery Lane, Llundain.