Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

IGERAINT AC ENID.

News
Cite
Share

GERAINT AC ENID. TLYSNI A SWVN AWDL GADEIRIOL MACHRETH. I l Gan W. Llewelyn Williams.] HONAI Caledfryn nas gallai neb farnu barddoniaeth ond y rhai allent greu barddoniaeth. "Felly," ebai Kilsby, "nis gall dyn farnu ceffyl! Mae Mr. Stead wedi mynd i'r eithafbwynt arall. Myn ef ei fod yn well beirniad ar y ddrama am na fu erioed, cyn eleni, tu fewn i chwareudy. Nis gallaf fi ddod i fyny a safon Caledfryn na'r eiddo Mr. Stead. Ar un llaw, darllenais awdlau lawer yn y dyddiau gynt, er nad wyf wedi trafferthu darllen Awdl Eisteddfodol ers llawer blwyddyn bellach. Ond ar yr ochr arall, ni cheisiais gyfansoddi awdl fy hun ond unwaith. Yr oedd ynddi bob un o'r pedwar mesur ar hugain,—Gwawdodyn Byr a Gwawdodyn Hir, Hir a Thoddaid a Hyppynt, Byr, Cyrch a Chwta, ac hyd yn oed Gorchest y Beirdd. Nis anghofiaf fyth mor falch yr oeddwn pan ysgrif- enais Finis" ar y gwaelod. Tybiwn na welodd un eisteddfod y fath orcheswaith o'r blaen. Adwaenwn y beirniaid, cawn bob chwareu teg," a breuddwydiais lawer y byddwn cyn pen hir yn Fardd Cadeiriol. Ond nid felly y bu. Nid i mi y dyfarnodd Watcyn Wyn y wobr, ond taerodd ar air a chydwybod" mai dyma'r awdl waelaf y bu raid i un beirniad orfod ddarllen erioed II Mae'n hen ddiareb ymysg y Saeson mai bardd wedi ei siomi yw'r beirniad gwychaf. Ac, yn wir, ambell i fardd sydd wedi dangos ei fod yn feirniad da. Credai Milton fod Paradise Regained yn well gwaith na'i Goll Gwynfa," a haerai Byron fod Rogers yn well bardd na Crabbe. Ond pwy eisieu siarad sydd ? Yn y gyfrol o "Gyfansoddiadau Eisteddfod Rhyl," yn yr hon yr ymddengys Awdl Fuddugol Machreth, mae Elfed ac Eifionydd yn gosod englyn grymus Dewi Medi ar "Y Dwyrein- wynt" yn gydradd ag englyn llipa Eifion Wyn. Os mai gwaith beirniad yw pigo beiau, mae'n ddilys ddigon nas gallaf fi feirniadu Geraint ac Enid" Machreth. Fod y gynghanedd yn gywir nid oes eisieu dweyd,—mae'r ffaith fod J. Morris Jones, Elfed, a Berw wedi dyfarnu'r gadair iddi yn ddigon i brofi'r pwnc. Yr hyn a'm cysurodd oedd nad oedd y bardd wedi gorfod chwilotan yng ngeiriadur Doctor Owen Pughe er mwyn dod o hyd i eiriau sydd wedi mynd ymaith o wybodaeth ac ymarfer y werin a'u Uusgo i mewn "gerfydd eu clustiau," fel pe tae, er mwyn gwneyd ffordd y gynghanedd yn rhwydd a di-fai. Nid wyf yn cofio gweld na "mefl," na "mad," na "gwefr;" na "gwawl," na "dawr" na "dir," nac un arall o'r haid fritii nk w'elwyd tho hbnynt ond tu fewn i gloriau geiriadur ac awdlau' cadeiriol a gweithiau'r cynfeirdd. Naturioldeb yw prif nodwedd, a gogoniant awdl Machreth. Mae ganddo stori i'w had- rodd, ac fel yr oil o ystoriau'r Mabinogion, stori dIos, fyw, ramantus. Nid yw'r bardd wedi aros i bregethu na siarad am ei destyn. Dweyd stori yw ei amcan, ac y mae wedi llwyddo i'w dweyd yn dyner, yn ddestlus, yn farddonol. Nid yw, chwaith, wedi ceisio ehedeg fel eryr i entrych nen. Nid testyn mawr, tragic, sydd ganddo; ond "stori garu" swynol a phrydferth, Y PARCH. J. MACHRETH REES. ac felly mae ei awdl yn fwy o delyneg nac o arwrgerdd,-a dyna ddylai fod. Ond pan fo eisieu, medd y bardd y gallu Homeraidd o ddarlunio ymgyrch mewn un llinell neu air byw. Nid yw ei ddesgrifiad o'r ornest, fel engraifft, ond byr, ond mae pob gair yn ei Ie, ac ystyr ac amcan i bob gair. Nis gall y darllenydd, gwanaf. ei ddychymyg, beidio a gweled yr holl orchest hyd nes y gorchfygodd Geraint yr Iarll, A'i fwrw o'r cyfrwy eurwawr Yn welw a hurt i'r gwyrdd lawr. Ac yna gwel yr ymgyrch rhwng y ddau ar y llawr. Do, bu llymdost ddidostur Glwyfo dwfn a gleifiau dur Rhudd abieroedd o burwaed, Ffrydiau chwys gymysg a gwaed.—■. ♦ K\ Mae'r desgrifiad i gyd, yn ei greulonder noeth,. a'i rym di-drugaredd, yn deilwng o Iolo Goch ar ei oreu. Hyfryd oedd genyf wel'd fod Machreth wedi deall gwir ysbryd y Mabinogion, oblegid dywed, ar ol i Geraint agor a'i gleddau gwridog, wahanglwyf mawr y' mhenglog. ei elyn," Rhoi nawdd yn dirion iddo--a orug Geraint, a llw arno Na oedai'r iawn am ei dro-anghynnes I'r wiw frenhines a'r forwyn honno. Yn dirion "-ar ol hollti ei benglog-dyna i chwi ddull a modd cainc y Mabinogi. Nid yw'r bardd yn hoff o eiriau llanw,—pan y defnyddia hwy, gofala i wneyd hynny mewn rhanau o'r awdl lie na wnant rwystro ffordd yr ymadrodd. Ond pan ddaw'r climax, mae eisieu pob gair ddefnyddir. Rhydd hyn nerth a syml- rwydd a directness i'r desgrifiad nas ceir ond mewn gw.ir farddoniaeth. Beth all fod yn well na'r desgrifiad hwn o Eraint yn dadebru o'i haint ac yn lladd Limwris Gwaedd ei Enid o'i lewyg ddihunodd Eraint, o'i glefyd dybryd dadebrodd Y'mhlyg ei darian ei arf feddianodd, Hydr megis cadarn o'i drwmgwsg cododd Wedyn i'r llawr fe neidiodd—yn sydyn, A'i eiddig elyn rhagddo a giliodd Ei gleddyf fry a chwyfiodd,—er dycned Mawr iasau'i ludded, Limwris laddodd. Yr unig welliant ellir awgrymn yw y dylid trawsnewid y drydedd a'r bedwaredd linell. Anhawdd fyddai gwella symlrwydd Hometaidd y diwedd Ei gleddyf fry a chwyfiodd » Limwris laddodd. Gwelir yr un gallu desgrifiadol, yr un syml- rwydd, yr un directness yn fynych yn yr Awdl:— Rhag ei lid Enid grynai, Heb arni fai, mewn braw'n fud. Gan ado'r priffyrdd a'r llwybrau gwyrddion Draw y trodd Geraint i'r tiroedd geirwon, Lenwid o ofnau,-i'r glynau dyfnion Oedd froydd tryblith, lledrith, a lladron, A phydewau seirph duon.- Nid yw desgrifiad Bunyan o Lyn Cysgod Angeu yn fwy byw, nac yn fwy syfrdanol, -ac eto mor rhwydd, mor syml, mor ddiymgais yw'r cyfan Hawdd a phlesurus fyddai dethol cant a mwy o linellau grymus, gafaelgar. Pa deithiwr na wyr rywbeth am brofiad Geraint mewn tref ddi- eithr Gyda'r hwyr daeth i deg dref—or-brysur, Heb roesaw'n ei goslef; Ni wyddai'am un haddef A ryddhai'r ddor iddo ef.. Ni wenai arno wyneb A mwyn air ni roi min neb. Yma a thraw ceir ambell linell—wedi syrthio, fel pe tae, yn ddiarwybod i'r bardd ar yinyl y