Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Pobl a Phethau yng Nghymru.

News
Cite
Share

Pobl a Phethau yng Nghymru. MAE Mr. L. D. Jones (Llew Tegid), Bangor, wedi cyfieithu "Christmas Carol" Dickens i'r Gymraeg. Ymddengys y llyfr yn fuan. MAE Mr. Rudyard Kipling wedi bod yn aros yn Maesllwch Castle, yn sir Benfro, a dywedir ei fod yn edmygu y golygfeydd. MAE Cymdeithas Ddirwestol Gwynedd yn chwilio am wr cymwys i fod yn ysgrifenydd, y cyflog yn £40 y flwyddyn, a'r ceisiadau i fyned i law Mr. J. Herbert Roberts, A.S. AGORWYD eglwys Babyddol yn Abermaw gan Esgob Mostyn yr wythnos o'r blaen. Costiodd yr adeilad tua ^5,000, a chynhwysa eisteddle- oedd i 200. Darperir yr eglwys ar gyfer ym- welwyr. BWRIEDIR gosod careg i fyny i nodi man genedigaeth Ieuan Glan Geirionydd, yn mhen- tref Trefriw. Symudiad newydd yw hwn, i gadw enwau enwogion Cymru ar gof. Yn araf fe ddaw yn boblogaidd. MAE tarw byr-gorn o eiddo Mr. David Morgan, Lodge Farm, ger Aberystwyth, wedi ei werthu am gan' gini, er nad yw eto yn ddwy- flwydd oed. 1'r Argentine, yn Neheudir America, y danfonir ef. RHODDIR cryn sylw yn Ffestiniog y dyddiau hyn i'r syniad o wneud defnydd ymarferol o rwbel y chwarelau. Mae porth y fasnach hon wedi ei ail-agor, a chredwn fod y dydd yn agos pan y troir y tomenydd yn fara i gannoedd o deuluoedd. APELIODD Canon Fairchild am ddeng mil o bunau at adgyweirio ysgolion dyddiol yr Eglwys Sefydledig yn Esgobaeth Bangor. Drwy gym- orth Bazaars a chyfroddion personol mae tua haner y swm wedi dyfod i law. Dywed y Canon fod yr ysgolion yn ddiogel yn awr TALODD y Maeslywydd yr Arglwydd Roberts ymweliad a Deheudir Cymru yr wythnos ddiw- eddaf i ddadorchuddio cofgolofnau yn y Fenni a Llanelli i'r milwyr a syrthiasant yn y rhyfel yn Neheubarth Affrica. Nid oes eisieu dywedyd iddo gael croesaw o'r fath fwyaf brwdfrydig. TEIMLIR anfoddlonrwydd mawr yn y cylch- oedd milwrol Cymreig oherwydd anwybyddu yn y trefniadau ar gyfer y tatto milwrol yn Llundain. Nid yw y Welsh Fusiliers, y South Wales Borderers, na'r Welsh Regiment yn cael eu cynrychioli, ond cynrychiolir Cymru gan y Royal Fusiliers, catrawd Seisnig. YR wythnos ddiweddaf, cymerwyd pleidlais o fwnwyr Maesteg ynglyn a'r mater o redeg ymgeisydd Llafurawl dros etholaeth Morganwg (Canol) yn yr etholiad cyffredinol nesaf; a dydd Llun, gwnawd yn hysbys y pleidleisio. Wele y ffigyrau :-Dros y mudiad, 2,025 i yn erbyn, 1,450 mwyafrif dros, 575. MAE pryddest Bryfdir ar Ann Griffiths," yr ail oreu yn Eisteddfod Genedlaethol Aber- pennar, yn y wasg. Gresyn na chyhoeddasid y cyfansoddiadau buddugol yn yr Eisteddfod mor ddiymdroi ag y cyhoeddir y rhai ail oreu. Awgryma rhywun fod y brys gyda pha un y cyhoeddir yr ail bob blwyddyn yn arwyddo anfoddlonrwydd i'r dyfarniadau O'r braidd y mae'n deg dod i'r cyfryw gasgliad. Mae amryw resymau eraill ellid gael. MAE y Prifathro John Rhys wedi cychwyn ar daith i Ffrainc i chwilio am ragor o dystiolaeth mai cywir yw ei ddamcaniaeth am darddiad yr englyn Cymreig a'r mesurau perthynasol. Fe gofir i'r Prifathro dysgedig ddarllen papyr ar y pwnc gerbron Cymdeithas y Cymmrodorion dro yn ol, ac i'w ddamcaniaeth dynu tipyn o sylw. Ni ddychwel i Rhydychen nes y bydd ymlaen ym mis Hydref. TALODD Cymro ymweliad a Rhufain yn ddiweddar ac aeth i gyngherdd a gynhelid yno gan fintai o delynorion. Yr oedd y darnau a genid oil ond un o gasgliad Pencerdd Gwalia. A dywedodd arweinydd y fintai delynol wrth y Cymro mewn ymddiddan ar y diwedd mai gwaith y Pencerdd yw yr unig ddarnau o un- rhyw werth ar gyfer y delyn sydd wedi eu cyhoeddi yn un man. Go lew, Hen Wiad y Delyn. Bu achos doniol o flaen yr ynadon yn un o lysoedd Ceredigion yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd organydd eglwys blwyfol ac un o'r warden- iaid wedi syrthio allan. C-I y canu a achosodd y ffrae mae'n ymddangos, ac aeth pethau mor ddrwg nes i'r naill wysio y Hall am ymosodiad. Yn ystod gwrandawiad yr achos caed arddangosiad hwyliog o ddawn y tafod- au." Ond taflu y ddau achos allan fu diwedd yr helynt. YR ychwanegiad diweddaf at "Gyfresy Fil" Mr. O. M. Edwards yw "Gwaith Glan y Gors." Glanygors, fel y cofir, a roes yr enw "Die Shon Dafydd" gyntaf i'r Cymro a anghofia iaith ei fam cyn dysgu yr un iaith arall. Bu y Cymro talentog a doniol hwn yn byw am y rhan fwyaf o'i oes yn Llundain. Cadwai westy y King's Head yn Ludgate Hill, ac yno y bu farw ar yr 2 iain o Fai, 1821, yn 54 mlwydd oed. Cladd- wyd ef yn Mynwent Eglwys St. Gregory. A all rhywun o'n darllenwyr ein hysbysu pa un a oes carreg ar ei fedd neu beidio ? DYDD Iau, yn Nhredegar Newydd, sir Fynwy, mewn trengholiad ar gorph mwnwr a fu farw o niweidiau a dderbyniodd bythefnos yn ol, dywed- odd Mr. J. S. Martin, Prif Arolygydd Mwnfeydd y Rhanbarth Orllewinol, mai dychrynllyd yw rhif y marwolaethau damweiniol yn Nyffryn Rhymni. Yr oedd y rhif yn y cant, fodd bynag, yn fwy ar yr ochr orllewinol nag ar yr un ddwyreiniol yn y dyffryn. Y ddwy flynedd ddiweddaf oeddynt y rhai gwaethaf o'r deunaw mlynedd y bu efe yn Ne Cymru. Rhoddid i'r Dywysogaeth yr enw gwaethaf o unrhyw ran- barth am gwympiadau nenfwd. Bu y Tad Ignatius—mynacb Llanthony—yn pregethu yn Aberystwyth y Sabbathau diweddaf. Yr oedd yn llawdrwm iawn ar yr uchel-eglwyswyr hyny sydd yn derbyn cyflogau mawrion oddi- wrth y Wladwriaeth am ddysgu crefydd burlan i'r bobl ond ydynt yn lie hyny yn eu gwenwyno a gau-athrawiaethau. Condemniai yr ymgais i gyfaddasu Cristionogaeth i wybodaeth yr oes. Yr oedd hanfodion Cristionogaeth yr un heddyw ac yn dragywydd ond yr oedd gwybodaeth ddynol a darganfyddiadau gwyddonol yn cyf- newid yn barhaus. Nid oeddent yr un fath mewn unrhyw oes. Pa ynfydrwydd, felly, ceisio cyfaddasu egwyddorion Cristionogaeth i gyfarfod darganfyddiadau dynol! Mawr ofidiai fod y Sabbath yn colli ei gysegredigrwydd ymhlith gwerin y wlad hon. Cododd ef ei lais ddeugain mlynedd yn ol yn erbyn cynal cyngherddau ar y Sabbath. Tonau cysegredig yn unig a genid ar y cyntaf; ond cenid pob peth yn awr.

Advertising

Y METHODISTIAID CALFINAIDD…