Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

SASSIWN CAERNARFON.

News
Cite
Share

SASSIWN CAERNARFON. Yr wythnos ddiweddaf cynhaliwyd Sassiwn Chwarterol y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaernarfon, o dan lywyddiaeth y Parch. John Pritchard, Birmingham. Yr ysgrifenydd ydoedd y Parch. J. Owen Thomas, M.A., Porthaethwy. Pregethwyd nos Lun yng Nghapel Siloh gan y Parchn. Edward Roberts, America, a J. Tudno Williams, M.A., Llundain (gynt). Prydnawn dydd Mawrth cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y cynrychiolwyr yng Nghapel Moriah. Yr oedd nifer fawr o weinidogion a blaenoriaid wedi dod ynghyd. Derbyniwyd gwahoddiad eglwys Heol Catherine, Lerpwl, i gynal y Sassiwn nesaf ym mis Tachwedd. Mabwysiadwyd adroddiad Pwyllgor Athrofa y Bala. Dangosai yr adroddiad fod yn yr athrofa hanner cant o fyfyrwyr, pump yn fwy nag oedd yno y tymor diweddaf. O'r rhai hyn y mae tri-ar ddeg wedi graddio. Yr oedd hefyd dri-ar-hugain yn yr ysgol barotoawl. Bu cryn drin ar y pwnc o wario casgliad y ganrif. Yn y diwedd pasiwyd ei fod i'w wario oil yn ystod ugain mlynedd, fel na chai neb unrhyw esgus dros edrych arno fel gwaddol. Nos Fawrth traddododd y Parch. J. Puleston Jones, M.A., anerchiad dyddorol ar Arwyddion yr Amserau," a phregethodd y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Y prif gyfarfod dydd Mercher ydoedd gwas- anaeth yr ordeinio, yr hwn a gynhaliwyd yng Nghapel Moriah, am ddeg o'r gloch. Dyma enwau y rhai a ordeiniwyd :—Meistri Owen Thomas (Penucheldref, Mon), W. Lewis Jones (Llanaelhaiarn), Owen Lloyd Jones, M.A., B.D. (Brynaerau), David Watkin (Dyffryn Clwyd), J. Lloyd Jones, B.A. (Bwlchgwyn), John Roberts, B.A. (Aberdyfi), William Griffith, M.A. (Tal- sarnau), David Percy Jones (Trefaldwyn Uchaf), Samuel Owens, B.A. (Trefaldwyn Isaf), Philip Oliver Williams (Henaduriaeth Trefaldwyn), D. W. Morgan, B.A. (Henaduriaeth swydd Lan- caster), John Hughes, B.A., B.D. (Lerpwl), Rowland J. Jones (Manceinion). Traddodwyd araeth ar Natur Eglwys" gan y Parch. J. Pryce Davies, Caer; holwyd y gofyniadau ar- ferol gan y Parch. David Jones, Garegddu; a thraddodwyd y siars gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A., Bangor. Yr oedd hwn yn gyfarfod nodedig o ddyddorol ac effeithiol. Brydnawn dydd Mercher rhoed hanes yr achos yn Arfon gan y Parch. R. W. Hughes, Bangor. Cyfrifid fod y Diwygiad wedi ychwan- egui, 500 o leiaf atyreglwysi, rhif yr aelodau yn awr yw 18,343, ynghyda 500 ar brawf. Yr oedd cyfartaledd y presenoldeb yn yr Ysgolion Sul yn fwy o 700. Effeithiasai y Diwygiad i beri cynydd mawr yn holl gynulliadau yr

Advertising

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERNARFON.

Y DYFODOL

IPREGETHWYR Y 5ABBOTH NESAF.

SASSIWN CAERNARFON.