Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y CLWB.—Mae argoelion yr agorir ysefydliad hwn tua dechreu mis Medi. TYSTEB.-Casglodd Dr. Dan L. Thomas dros hanner can punt ymysg Cymry Llundain tuag at y dysteb a fwriedir gyflwyno i'r Hybarch Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn. Y GWYLIAu.-Ar eu gwyliau mae pawb y dyddiau hyn, fel y mae'n amhosibl cael allan i sicrwydd unrhyw drefniadau ynglyn a'r bywyd Cymreig yn Llundain. GWEINIDOGION.—Mae ein pwlpudau yn newid 0 Sul i Sul, ac ni cheir enwau'r pregethwyr sydd i fod i wasanaethu yn y gwahanol eglwysi nes ei bod yn rhy hwyr i ni eu cyhoeddi yn ein newyddiadur. Daw pethau i well trefn gyda gwawriad Medi. EISTEDDFOD 1905.—Yn ol yr hyn a sibrydid nid oedd ond nifer fechan o Gymry'r ddinas ymhlith ymgeiswyr llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Yr oedd un neu ddau ar y prif draethawd, ond ni thybid hwy yn deilwng o wobr, tra y credai rhai fod Rhuddwawr yn gystadleuydd am y gadair. Wel, hai Iwc iddynt yn Steddfod Llundain, 1909. Y CANTORION.—Ni lwyddodd yr un o'r unawdwyr Cymreig i wneyd ei farc yn yr hen Wyl eleni. Nid yw hyn i'w synu ato oherwydd yn mysg yr ymgeiswyr yr oedd torf o hen wyr profedig a merched a ystyrir yn hanner pro- fessionals." Roedd rhai o'r goreuon eleni wedi bod yn fuddugol droion o'r blaen. GLAN Y MOR.-Ar ol ymweliad ag Aber- pennar aeth mwyafrif o aelodau y Cor Meibion ar ymweliad ag Aberystwyth, ac oddiyno ddydd Llun ar bererindod i hen ardal gysegredig Llangeitho. DYDDORI'R CARDIS.-Rhoddwyd cyngherdd mawr gan nifer o honynt yn neuadd blwyfol cartrefle Daniel Rowland. Yn mysg yr un- awdwyr yr oedd Miss Parry, Mri. Maldwyn Evans, Ted Jenkins, a Dewi Evans. Chwareu teg i'r Cardis hefyd daethant yno mewn hwyl i'w gwrando, a chaed cyngherdd boddhaus iawn. DR. WALTER DAVIES.—I'r meddyg ieuanc poblogaidd, Walter Davies, yr oedd pentref- wyr Llangeitho yn ddyledus am ymweliad y cor hwn. Mab Cwrtmawr, fel y gwyddis, yw'r Doctor, a saif y palasdy hwnw rhyw filldir neu ddwy oddiwrth gapel Llangeitho, ac mae'r teulu erioed wedi bod yn hynod o garedig tuag at bob achos daionus ynglyn a'r ardal hon. Efe oedd yn llywydd y gweithrediadau am y noson. MR. MADOC DAVIEs.-Da genym ddeall fod y cantor adnabyddus, Mr. Madoc Davies, bron wedi cael llwyr ymwared oddiwrth effeithiau yr anhwyldeb blin a'i goddiweddodd yn ystod y gauaf diweddaf. Wedi bod am wythnosau lawer yn orweddiog a cholli y gallu o ddefnyddio ei fraich y mae'r aelod erbyn hyn yn graddol adenill ei nerth cyntefig. FEL BEIRNIAD.- Dydd Mercher diweddaf cawsom y pleser o'i gyfarfod mewn cyngherdd gwledig yn nghanol Ceredigion yn gwasanaethu fel beirniad mewn cystadleuaeth gerddorol dra Phwysig. Y champion solo oedd y prif atdyniad, a daeth ugeiniau o wyr glew i'r maes i ganu y gwahanol alawon—Eidalaidd, Handelaidd, Pymreigaidd, a phob aidd arall. HELWYR CADARN.-Clywsom am dri o helwyr enwog wedi cael gwahoddiad cynes gan ^ymro doniol y dydd o'r blaen i ddod lawr i'w gartref ef yn y wlad er saethu cwningod a game. '-rbyn iddynt fyned allan i'r caeau synwyd hwy wrth weled y creaduriaid ar adar yn rhedeg tuag atyntyn hytrach na ffoi oddiwrth eu gynau. Creaduriaid dof oedd y gwr wedi roddi yn y lie a doedd posib cael un sport wrth geisio eu dyfetha,. a rhowd y gwaith heibio cyn saethu ergyd. YR ATHRO HENRY JONEs.-Deallwn fod yr Athro Henry. Jones, o Glasgow, wedi addaw traddodi darlith yn ystod y gauaf dyfodol o flaen Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig yn Llundain. Ar ol sicrhau gwasan- aeth gwyr o fri fel Henry Jones a'r Athro John Morris Jones ac ereill, dylai'r Undeb wneyd mawr les yn ystod y tymhor sydd ar ddod. PRIODAS.- Tra bu rhai o wyr y gan yn mynychu'r eisteddfod yr oedd un arall o honynt yn cynal gwyl hapus yn Llundain. Dydd Llun, Awst 7ed, unwyd y cerddor adnabyddus, Mr. Caradog Jones, Stewart"s Road, Clapham, mewn glân briodas, a Miss Mary Evans, 58, Abbey- ville Road, Clapham Park, yn ngwydd torf o edmygwyr ac ewyllyswyr da y par parchus. Yn nghapel y Boro y rhoed y cwlwm, a'r Parch. D. C. Jones fu'n cyflawni'r seremeni. Rhodd- wyd y ferch ieuanc ymaith gan ei brawd, Mr. D. H. Evans, Abbeyville Road, a gwasanaeth- wyd arni gan Misses Critchley a Porter fel morwynion y briodas. Y gwr mab ydoedd Mr. D. Williams, Regency Street, ac ar ol yr uniad rhoddwyd croesaw i lu o wahoddedigion yn Abbeyville Road, lie y datganwyd y dymuniadau goreu i'r par dedwydd mewn areithiau hapus, a thystiwyd hyny yn eglur hefyd yn y llu mawr o anrhegion drudfawr oeddent wedi eu cyflwyno iddynt ar yr amgylchiad. PRlODAS.- Yr wythnos ddiweddaf aeth un arall o wyr ieuainc y ddinas yma i'r hen wlad i mofyn cydmar bywyd. Y tro hwn Mr. Will Jenkins, Central Street, sydd wedi rhoddi ffarwel i'r clwb henlancyddol, ac yn nghapel Shiloh, Aberystwyth, ar y 1seg o'r mis hwn, unwyd ef mewn priodas a Miss Lizzie Evans, merch Mr. a Mrs. Evans, adeiladydd Tanreithin, Aberystwyth. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. T. Roberts, gweinidog y lie, a J. E. Davies, M.A., jewin-Ile y mae Mr. Jenkins yn aelod. Rhoddwyd y ferch ieuanc ymaith gan ei thad, a gwasanaethwyd arni gan ei chwiorydd fel morwynion y briodas. Ar ol y croesaw arferol yn nhy rhieni y ferch aeth y par ieuanc i Harrogate i dreulio eu mis mel. Pob llwydd ar yr undeb a dedwydd fo eu dydd. CAWSOM y fraint o glywed y Parch. T. Hugh Humphreys, Blaenllechau, y ddau Sul diweddaf, yng Nghapel Little Alie Street. Yr oedd yn dda genym ei weled ef a Mrs. Humphreys yn edrych mor iach a hoyw ag erioed. Mab iddo ydyw Mr. R. Humphreys sydd newydd agor siop draper yn High-street, Hornsey. DEALLWN fod Miss Ellinor Williams, Heol- y-Castell, yn cael derbyniad calonog iawn dros y Werydd, ac yn cael ei chadw mewn llawn waith yn anerch a phregethu i'n cydwladwyr yno. Y MAE Mr. Evan Roberts wedi rhoddi addewid bendant y bydd iddo ymweled a Llundain yn yr Hydref, a phan ddaw ein gweinidogion yn ol diau y dechreuir gwneyd y trefniadau ar gyfer ei ymweliad. ER fod cymaint o'n cyd-drefwyr ar eugwyliau a'r don ddiwygiadol wedi cilio i fesur mawr, parha y cyfarfodydd gweddiau yn eu gwres o hyd yn Hammersmith a Shirland Road. EISTEDDFOD HAMMERSMITH.—Gwelsom restr o destynau yr eisteddfod hon y dydd o'r blaen, ac yn wir cawsom bleser mawr wrth ganfod mai testynau Cymreig ydynt oil. Cydnabyddir gan bawb sy'n hyddysg a hanes, eglwys y Methodistiaid Cymreig yn Hammersmith fod cynydd dirfawr wedi ei wneyd yno yn ystod y blynyddau diweddaf mewn amryw ystyriaethau. Ond feallai mai ynglyn a'r eisteddfod flynyddol. o'r holl sefydliadau perthynol i'r lie, y mae'r cynydd amlycaf. Y mae cwrdd bach cystadleuol Southerton Road wedi dadblygu yn eisteddfod ddyddorol ac yn rhan bwysig o fywyd Cymreig Llundain a mwyach nid yw'r Bethel yn ddigon eang i'w chynhal, rhaid yw wrth Neuadd Drefol y rhanbarth. Cynhelir yr eisteddfod eleni ar nos Iau, y 30am o Dachwedd. Gellir cael y testynau ond anfon at yr ysgrifenyddion, David Lewis, 14, Bramley Road, Notting Hill, W., a G. O. Williams, 120, The Grove, Hammersmith, W. ST. BENET'S WELSH CHURCH.—AS a slight acknowledgment for services rendered in the matter of solo singing at both special and other services at St. Benet's, a very handsome silver- plated rose bowl on ebony stand was presented to Madame L. Teify Davies on the occasion of her marriage.

Advertising