Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
VOTING OF WELSH MEMBERS.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
VOTING OF WELSH MEMBERS. The Session of Parliament just closed has been noticeable for two things--the extra- ordinary number of divisions and the little business done. There have only been three or four Government measures passed, yet the divisions numbered 364. The number of divisions was in inverse proportion to the actual business done. Our members voted as follows W. Abraham, Rhondda 132 Alfred Davies, Carmarthen District 73 M. Vaughan Davies, Cardiganshire 168 Frank Edwards, Radnor 225 S. T. Evans, Glamorganshire (Mid) 141 E. J. Griffith, Anglesey 203 J. Keir Hardie, Merthyr Tydfil 255 A. C. Humphreys-Owen, Montgomery 25 D. Brynmor Jones, Swansea District 212 W. Jones, Carnarvonshire (Arfon) 301 Hon. G. T. Kenyon, Denbigh Boroughs 202 General J. W. Laurie, Pembroke and Haverfordwest 237 J H. Lewis, Flint Boroughs 223 D. Lloyd-George, Carnarvon District 172 J. Lloyd Morgan, Carmarthenshire (West) 181 C. Morley, Brecknockshire 80 S. Moss, Denbighshire (East) 155 Sir G. Newnes, Bart., Swansea 93 J. Wynford Philipps, Pembrokeshire 78 Colonel E. Pryce-Jones, Montgomery District. 295 Sir E. J. Reed, Cardiff District 62 J. Bryn Roberts, Carnarvonshire (Eifion) 157 J. H. Roberts, Denbighshire (West) 238 Samuel Smith, Flintshire. 187 Abel Thomas, Carmarthenshire (East) 78 Sir Alfred Thomas, Glamorganshire (East) 169 D. A. Thomas, Merthyr Tydfil 232 J. A. Thomas, Glamorganshire (West, Gower) 66 Osmond Williams, Merionethshire 175 Colonel W. H. Wyndham-Quin, Gla- morgan (South) 136 Sir Joseph Lawrence, Monmouth District 150 R. M'Kenna, North Monmouth. 2Q9 Colonel the Hon. F. C. Morgan, South Monmouth — Thomas Richards, West Monmouth 178
[No title]
News
Cite
Share
Glamorgan Worthies.—Mr. Ernest Rhys, the well-known critic, writes:—In pursuing the chronicle of the recent National Eisteddfod one must regret to see that Sir Marchant Williams was not able to award the prize for a handbook of Glamorgan worthies. Here was particularly a subject full of interest, rich in local material, to be turned to good account in the prose side of a great, popular, itinerant university. And though the prize was not magnificent, it was quite large enough to tempt the prose competitor who had already reached saturation point and was ready to express himself. If one turns for consolation to Professor Anwyl's paper on the literature of the Eisteddfod, read before the Cymmrodorion section, one finds there a wel- come suggestion that more attention should be given to prose works. No doubt there ought to be, so that there were not too much overlapping of coincident subject-matter and consequent waste of labour, a range of alternative subjects open to the competitors. This plan has been resorted to iatterly by several eisteddfod com- mittees, and although its direct issue be not at once appreciable, it is the only rational way of both stimulating and economising the intellectual energies of potential workers in history, literature' and the rest.
Advertising
Advertising
Cite
Share
WYBROW & SON, 222, Coldharbour Lane, Loughborough Junction, S.W. INEXPENSIVE AND MODERN FUNERALS In Town or Country, at stated charges which in all ca ses are moderate.. PRICE LIST ON APPLICATION. Distance no object
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, 1905.
News
Cite
Share
Dyna englyn campus; fe ddeil y llinell olaf i'w chymharu a llinell Pope, I lisped in numbers for the numbers came ond gan ei fod yn son am y mesurau gwell fuasai pe dywedasai im yn lie imi er cael yr orffwysfa yn ei He, sef ar y pumed sillaf, a'r toddaid yn ei hyd priodod sef Igeg. Ond a'r bardd ymlaen, bron mor nerthol Wyf fab a garaf ei bywiog eiriau, A swyn arialus ei hen reolau Caed beirdd cenhedloedd eu hieithoedd hwythau Y wisg fo ddilys i'w gwiw feddyliau 0 rhowcb i feddylddrychau-iawn reol I lamu'n daniol o'm henaid innau Ymhellach ymlaen fe ddywed Er a wnai'r estron o erwin rwystrau, Sain y ber heniaith sy yn y bryniau 0 hedd aelwydydd, o addoliadau, Mae enaid gwerin yn mynd i'w geiriau. Mae dinam iaith ein mamau—puredig A'i graen tyfedig ar ein tafodau. Y mae pedair llinell cyntaf y pennill olaf yn odidog; ond y mae'r graen tyfedig" yn dinistrio'r pennill. Awgryma ryw ddafaden Wyllt ar dafod dyn. Dyma ddrwg y bardd hwn nid oes ganddo ddim hunan-feirniadaeth; y mae ei hoffder o'r gynghanedd yn peri iddo roi rhyw wrthuni i lawr, os caiff drwy hynny groes o gyswllt gywrain. Y mae ei chwaeth hefyd yn ddigon ansicr; y llinell nesaf at y rhai a ddyfynnwyd yw- Dicsioniaid cas o'u heniaith. Er atgased y giwed, ni wellheir cerdd drwy ei hanurddo a rhyw lysenw sothachus fel hyn. Y darnau a nodwyd yw'r pethau goreu yn yr awdl hon; ac fe sylwir nad oes a wnelont fawr a'r testun. Slarad y mae'r bardd am Gymru, a'i chynghanedd a'i hiaith,—a siarad o safle gwladgarwr. Pan geisia son am Gymru o safle addysg, nid yw ei waith ond ail neu drydedd radd; a phan draetha am yr iaith fel pwnc o ddysg, am Oronwy a Dafydd ap Gwilym fel clasuron, y mae ei ymdriniaeth a'i bwnc yn lied druenus. Wrth son am hen ysgol y plwyf, y mae'n ein hadgoffa o gywydd adgofion Eben Fardd, ac nid i'w fantais ei hun. Canys yma, fe ddengys ei duedd i arfer dulliau anghoeth o ymadrodd, ac i aberthu i'r gynghanedd Nid delfrydol fu'r Eden Drwy gais y brawd a'r groes bren. Os nad delfrydol paham y geilw hi'n Eden ? A pha beth a ddywedir am yr arferiad yna o'r gair brawd ond mai slang ydyw, a slang o'r fath waethaf gan mai gwyrdroad yw o ystyr grefyddol y gair ? I ba beth y mae cat's yn dda yn y llinell olaf? Drachefn, wrth son am y dyrnu fu arnynt, fod amcan buddiol iddo fel i ddyrnu yd, dywed Os da i was dywysen A stwr y ffust ar ei phen. Pa dda yw tywysen a stwr y ffust ar ei phen ? Byddai perygl am fys y gwas hwnnw. Gallasai'r bardd ddywedyd TVedi rhoi ffust ar ei phen, neu rywbeth cyffelyb ond gwell ganddo ffiloreg mewn croes o ddwbl gyswllt na synwyr mewn cynghanedd symlach. Wrth son am ddiwylliant bore'r hil ddynol nid yw weithiau heb lawer o bertrwydd. Dengys fel y gall dyn drwy ei wybodaeth ofalu am dano 'i hun Ond dyn pan yn dihunaw-o'i eni Fedd anian wisg iddaw ? Aer y deyrnas rhad arnaw — Y mae yn llwm yn ei llaw. I wisgo'i hun onis gall— Was gerwin-ddiosg arall ? Anrhydedd pob creadur A ddaw dan ei nodwydd ddur Y mae yn hyf yn mwynhau DiUad drud y lladradau. E wyra lew o'i orhoen, A dyd am gryd ei dwym groen. Y mae ganddo benillion llithrig ar yr hen syniad 0 dalent gudd o ddiffyg dysg- Pa ryw Homer mawr awenber Oesa'n ofer is y nefoedd ?- sef mute inglorious Milton y bardd Gray. Wrth geisio athronyddu a son am y gwyddon- laethau yr a arddull yr ymgeisydd yn fwyaf candryll. Fel hyn y ceisia ddywedyd mai rheswm ac nid teimlad sydd i reoli: Gresyn i ddyn gorysol—afradu'i Ferwedydd teimladol; Berwedydd! Dyna air barddonol. Meddyl- iwch am fardd Saesneg yn dywedyd It is a pity for a too ardent man to waste his emotional boiler"! Ond fe a ymlaen Ba dda i neb ddaw'n ei ol Ar bwys synwyr absenol ? Ar bwys peth absennol! Er enghraifft, eistedd ar gadair absennol. Yna— Natur rydd ddeunydd ynom—i lwydd hael Hi waddola arnom Ond tra dwl feddwl fyddom,-annhringar Ryw bethau anwar byth ddaw o honom. A fu erioed y fath ddirdynnu ar iaith ? Y mae ganddo bennill da i'r atom, oedd gynt yn rhy ddiddim i'w rannu, ond sydd yng ngoleu'r ddysg newydd, megis teml. Yna dywed Pwy fydd wyddonydd annuw I Wei yn agor dd6r ei Dduw ? A than gwyrth—un euog o !— Dyma Radium i'w wrido. Here is radium to blush him." A dyna'r hen syniad mai euogrwydd sydd wrth wraidd pob amheuaeth; yr oedd Tennyson ymhellach ym- laen drigain mlynedd yn ol. Un engraifft eto Di wifr gelfyddyd wefrol Pa swyn a champ sy'n ei chol! Cwblhai dysg ohebol dan,—derch foddion Drychfeddwl i hedfan I'w bwynt pell, yn llinell Mn Athroniaeth awyr anian. Pwy a ddeongl yr englyn hwn ? Know- ledge completed the fire of correspondence in the fair line of the philosophy of the air of nature." O'r groes o gyswllt! Ond dyma'r englyn nesaf: Melldithia mellt iaith amhur—" milldiroedd Yn mhellderau antur; Orlais i daith chwaith ni chur Yn eu gwridog eiriadur. Y syniad, mae'n debyg, yw fod mellt yn difodi pellter. Ond os yw milltiroedd felly yn air anghymwys, pa reswm yn y byd ond rheswm y groes o gyswllt sydd dros ei alw yn "iaith amhur." Ac os yw mellt yn diystyru ymadrodd fel milltiroedd, pa reswm eto ond rheswm y groes o gyswllt sydd dros ddywedyd eu bod yn ei felldithio ? Sylwch ar esgyll yr englyn. Y mae gan y mellt eiriadur, ymddengys; a hwnnw'n un gwridog ond nid oes cloc yn curo yn y geiriadur hwn. A oes cloc yn curo mewn rhyw eiriadur ? Nid oes mwy o reswm dros ddywedyd fod geiriadur yn gwrido, na phe dywedid fod cerrig yn caru. Gelynion pennaf y gynghanedd ydyw'r rhai a fyn daro ar lawr bopeth ffol ac ofer a awgrymir ganddi. Y mae'r rhan fwyaf o'r awdl wedi ei chyfansoddi yn y dull diofal, esgeulus, dibris hwn. Dengys rhai darnau ynddi y gall Gideon, pan fynno, ganu'n well ddengwaith na hyn; ond ni chymerth drafferth i wneuthur fel y gallai; ac nid iawn rhoi cadair yr eisteddfod genedlaethol i neb am lai na'i oreu. Y mae'r testun yn un anodd ond nid yw'n un na ellir cael ynddo well barddoniaeth na'r cy- ffredin bethau a geir gan mwyaf yn yr awdlau hyn. Y mae cynnydd mawr dysg yn y blynyddoedd a aeth heibio yn rhamant ynddo 'i hun. Prif offeryn y cynnydd fu'r dull newydd o weithredu, o sicrhau pob cam cyn cymryd y nesaf-y dull a elwir y scientific method; dyna arf dysg na wyr yr ymgeiswyr hyn ddim am dani. Drachefn, nid oes ganddynt fawr o amgyffred am y gyfeillach sy rhwng meddwl y myfyriwr a medd- yliau oesoedd a fu ;-fel yr edwyn hwynt yn well na'i gymdogion nesaf. Dyma beth eto o ramant y testun. Ond nid am ddefnydd yr awdlau y cwynwn fwyaf; er y gellir dywedyd ar fyr nad yw gwreiddyn y mater ynddynt. Eithr y mae'r testun, yn anad un y gellid meddwl am dano, yn gofyn ymdriniaeth gelfydd ac iaith ddiwylliedig a choeth; ac nid yw hyn i'w gael yn yr awdlau. Drwg gennyf orfod datgan fy marn fod yn rhaid i'r gadair fod yn wag eleni, am nad yw'r un o'r rhai a'i ceisiodd yn deilwng o honi. J. MORRIS JONES,