Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XXXVII.…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXXVII. Y Parch. J. Cadvan Davies. YCHYDIG a feddyliem pan yn ysgrifenu y braslun o Hwfa Mon, yr Archdderwydd, bythefnos yn ol, y byddai ei le yn wag yn Eisteddfod Aberpennar, ac mai arall a fyddai yn llywyddu yn yr Orsedd, ac yng ngweithred- iadau y coroni a'r cadeirio. Ond felly y trodd pethau allan, Yn wyneb absenoldeb Hwfa gweinyddwyd fel Dirprwy-Arch- dderwydd gan y person y meddwn yr hyfrydwch o gyflwyno i'n dar- llenwyr ddarlun o honno yr wythnos hon- Y Parch. J. Cadvan Davies. A thystiolaeth gyffredinol y rhai oedd yn bresenol yn Aberpennar ydyw ei fod wedi cyflawni y dyled- swyddau a orphwysent arno gydag urddas ac effeithiolrwydd canmol- adwy. Mae ei ymddangosiad golygus a boneddigaidd, hylith- rwydd ei ymadrodd, a'i lais clir a chyrhaeddbell yn gymhwysderau neillduol i weinyddu ar ben y Maen Llog. Cafodd hir brofiad fel Dirprwy-Fardd yr Orsedd nes ei fod yn gwbl gyfarwydd a'i holl ddefodau. A mwy na'r oil, y mae ei gred yn henafiaeth a gwerth y defodau hynny bron mor gref a disigl ag eiddo yr Archdderwydd ei hun. Ni theimla yntau unrhyw anhawsder i droi y Maen Llog yn bulpud, ac y mae yr un mor ddifrifol wrth adrodd gweddi yr Orsedd ag ydyw wrth adrodd Gweddi yr Arglwydd. Nid difrifoldeb prudd a thrwmlwythog yw difrifoldeb Cadvan ychwaith, ond difrifoldeb siriol a hawddgar, sydd yn hynod ennillgar a deniadol; difrifoldeb Un yn teimlo mai hyfrydwch ac nid baich yw bywyd a'i waith. •J^el hyd yn nod ar ben y Maen ^og y mae pregethwr Cristionogol yr ugeinfed ganrif yn amlycach Ynddo na'r derwydd a arferai addoli yng ngwyll y goedwig ddwy o flynyddau yn ol. Ni raid dywedyd wrth neb a wyr rywfaint o hanes Cymru heddyw mai Uweinidog gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd y Parch. J. Cadvan Davies. Hanna o gyff Wesleyaidd, ac yr oedd ei daid a'i •nain ym mhlith y Cymry cyntaf a ymunasant enwad parchus hwnnw. Ganwyd ef yn Yr ym nihlwyf Llanddadfem, ar ucheldir jlaldwyn, ar y cyntaf o Hydref, 1846, "cyn ei Jyddh&u," ebe ef ei hun, ac arfera ychwanegu, 1] yn g°dwr bore byth." Nid oedd <\Wcr iawn o gyfleusderau addysg i'w cael rhwng bryniau Maldwyn o hanner cant i dri- ugain mlynedd yn ol; yr aelwyd a'r Ysgol Sul oedd y prif athrofeydd, gydag ysgolion elfenol o'r fath ag oeddynt. Ond gwnaeth y bachgen y defnydd goreu o'r manteision o fewn ei gyr- haedd, a dangosodd fod ynddo dalentau uwch na'r cyffredin. Dechreuodd bregethu ar y Y PARCH. J. CADVAN DAVIES. seithfed-ar hugain 0 I Fawrth, 1867, pan yn ychydig dros ugain oed. Y mae yn y weinid- ogaeth.er 1871. Teithiodd o bryd i bryd ym mhrif gylchdeithiau ei enwad yng Ngogledd Cymru, ac mewn amryw o honynt fwy nag un cyfnod. Y mae yn meddu llawer o ddoniau pregethwr poblogaidd a dylanwadol—syniadau efengylaidd, parabl hylithr, iaith gref a deth- oledig, a gwresowgrwydd ysbryd a chalon. Yn ystod y deng mlynedd-ar-hugain diweddaf darlithiodd law-er ar chwech neu saith o wahanol destynau. Bu ganddo un ddarlith, Cymru Fu, Cymru Fydd," yn hynod boblog- aidd, a chynyrchodd un traddodiad o honni ym Methesda elw o dros hanner cant o bunnau. Ond fel Bardd ac Eisteddfodwr y mae Cadvan yn fwyaf adna- byddus i'w genedl. Yr awen sydd wedi rhoddi iddo ei enwogrwydd. Dechreuodd gymdeithasu a hi pan yn ieuanc ar fryniau Llan- gadfan, ac y mae yr anwyldeb rhyngddynt wedi parhau yn gyncs o hyd. Cystadleuodd lawer iawn, ac ni bu odid neb mor lwyddianus i gario ymaith wobrau a llawryfon. Am gyfnod maith nid a'i odid Eisteddfod Genedlaethol na thal- eithol o bwys heibio heb iddo ef fod yn fuddugoliaethwr. Ym maes y bryddest a'r arwrgerdd yr ennill- odd ei Oruchafiaethau penaf, er ei fod wedi profi yn gampwr hefyd gyda'r riangerdd, y fugeilgerdd, a'r delyneg. Ei dri phrif cyfanscddiad arwrol ydynt Madog ap Owain Gwynedd," a fu yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884 Cystenyn Fawr," buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caer- narfon yn 1886; a "John Penri," buddugol yn Eisteddfod Genedl- aethol Llundain, yn 1887. Am yr olaf derbyniodd ddeugain punt, coron aur, a thlws aur, yr hwn a gyflwynwyd iddo yn bersonol gan y Brenin Edward VII—Tywysog Cymru y pryd hwnnw. Y mae wedi ennill cynnifer ag un-ar-bym- theg o dlysau aur ac arian, am- ryw gadeiriau, ac wedi ei goroni bedair gwaith. Gwelir na fu odid neb mor lwyddianus ag ef fel cystadleuydd. Ac nid llwyddo i gael gwobr megis a chroen ei ddannedd a fu ei hanes ef. Yn hytrach dygid y dystiolaeth uchaf i ragoroldeb ei waith gan y prif feirniaid eisteddfodol megis Llaw- dden, Ceiriog, Cynddelw, Gwalch- mai, Islwyn, &c. Cymerer sylw neu ddau o feirniadaeth Ceiriog ar y fugeilgerdd "Rhys Llwyd": Bugeilgerdd Gymraeg onest a dirodres. Yr iaith Gymraeg yn swnio fel yr iaith Gymraeg drwy yr holl gyfansoddiad, heb ddim 61 ysgolheigdod Saesneg, mursendod efel- ychawl, na choegedd annaturiol ag sydd mor gy- ffredin i'w gael mewn barddoniaeth a rhyddiaith eisteddfodol.- Bendith arno, cymered fy Haw." Mae Cadvan wedi cyhoeddi pedair cyfrol o'i