Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

YNG NGWLAD Y GORLLEWIN.

News
Cite
Share

YNG NGWLAD Y GORLLEWIN. MIS YN CLEVELAND A LORAIN. [Gan Miss Ellinor Williams, Castle Street.] Mawr oedd fy awydd i gael gweled dinas odidog Cleveland, 0. Yr unig adnabyddion feddwn yma ydoedd y Parch. William Jones, a'i riaint, o'r Bala. Nid oedd ffyddlonach cyfeillion na'r brawd James Jones a'n diweddar dad-y ddau pan yn ieuainc wedi bod yn pre- gethu gyda'r Wesleyaid, a'r naill fel y llall wedi eu meddianu gan ysbryd tanllyd yr enwad hwnnw. Gyda'r parodrwydd mwyaf y darfu y Parch. William Jones a'i eglwys garedig agor drws i mi eu hanerch. Mae rhai o'r hen gewri Cymreig yn aros yn yr eglwys Annibynol; hawdd oedd deall hynny drwy y modd yr oedd- ynt yn gwrando; a deallaf eu bod yn cael gweinidogaeth rymus gan y brawd o'r Bala, yr hwn sydd yn fawr ei barch fel gweinidog da i Iesu Grist. Y noson cyn fy nyfodiad i Cleveland yr oedd y Parch. W. Jones wedi priodi Miss Eva John, Bissell-street. Mae tad a mam, taid a nain Mrs. Jones yn golofnau cryfion yn yr eglwys Gymreig ar Jones Ave. Mae pawb ddaw i'r lie yn adwaen Mr. a Mrs. Thomas D. Jones, cartref gweinidogion pob enwad. Mae y ddeuddyn oedranus wedi dathlu eu priodas euraidd, ac yn wahanol i bob teulu arall a gwrddais, nid oes yr un bedd ym meddiant y teulu-y plant a'r wyrion yn fyw; "Duw wedi eu digoni a hir ddyddiau." Anerchais noson yn eglwys y Bedyddwyr ar Homestead Street. Y diwrnod y cyrhaeddais Cleveland yr oedd Cymanfa y Bedyddwyr Seis- nig yn cymeryd lie. Galwodd yr hen Gymro caredig. D. T. Morgan, am danaf i fyned yno, ac heb dybio dim drwg aethum, ond buan y deallais fod yno Gymry yn gwylio fy symudiadau er pan wyf yn y wlad. Adnabuwyd fi yn fuan a bu raid i mi anerch yn y gynhadledd. Teimlwn fod drwg wedi dod am fy mhen i mi orfod siarad yn iaith yr estron i dorf o ddoctoriaid, ond mae y son am y diwygiad yng Nghymru wedi rhoddi urddas ar ein cenedl. Cyn i mi allu myned allan yr oedd y Parch. Llewelyn Brown wedi fy sicrhau i anerch ei gynulleidfa ef ar Broadway, nos Sul, a phan oeddwn yng nghwrdd Cymraeg ar Jones Ave. daeth Dr. Lemon i ofyn i mi anerch ei eglwys efyn y ddinas y bore. Rhwng bodd ac anfodd aethum, a throdd yn Sul bendigedig. Mae llawer o'r elfen Gym- reig yn yr eglwysi hyn. Yn neillduol yr eglwys ar Broadway. Rhifa yr Ysgol Sul rhwng 400 a 500 o nifer; ac yr oedd tua 600 yn yr oedfa nos Sul. Canwyd yno un emyn Cymreig yn lied hwyliog, a chyn i mi symud o'r pwlpud gwnaeth y gweinidog a'r gynulleidfa i mi addaw wythnos o'm gwasanaeth iddynt, pryd y cawsom gyrddau bob nos. Mae llawer o wahanol genedloedd yn cwrdd yn y Trinity-du a gwyn. Brodor o Canada yw y Parch. LI. Brown. Bu y brodyr Seisnig yn dirion wrthyf. Cartrefwn gyda Mr. a Mrs. Lodwitk. Mae y Lodwicks yn enwog fel cerddorion, ac yn hen drigolion yn Cleveland. Ni bu dyddiau segur i mi yn Cleveland. Darfu yr eglwys Fedyddiedig ar Homestead ofyn am ddau Sul, am nad oes ganddynt wein- idog ar hyn o bryd. Gresyn gweled yr hen fam yn gwaelu. Y hi sydd wedi mamaethu llu o'r rhai sydd yn yr eglwysi Seisnig; ac eto mae ychydig enwau yn Sardis, yn aros yn ffyddlon iawn a llu o blant yn yr Ysgol Sul. Yn yr wythnos, aethum i Lorain, South Lorain yn neillduol, lie newydd yn cael ei boblogi yn benaf gan bobl o Johnstown, Pa., y rhai a ddaethant i sefydlu y Steel Plant mawr sydd yn rhoddi gwaith i gannoedd o bobl. Bydd South Lorain yn un o'r trefi prydferthaf yn America yn fuan. Mae yno ddwy fil o dai newyddion bron a'u cwblhau. Ar hyn o bryd torrir yr heolydd yn llydain drwy ganol y coed. Mae 13th Ave. yn 200 o droedfeddi o led o dy i dy, a'r tai, er mai gweithwyr a'u pia, fel palasdai, yn addurnedig gan blanhigion a blodau amryliw. Nid oedd y lie ond anialwch diffaeth tuag wyth mlynedd'yn ol. Mae "Cascade Park," ger Elyria, yn un o'r golygfeydd mwyaf rhamantus o'i faintioli yn y _n_ rhan hon o'r wlad, a'r rhaiadr lie disgyna yr afon ddu yn ei chyflymdra dros ei war serth yn adgofio dyn am y Niagara. Mae yno rai ogofeydd tywyll, ac ol mwg ar y ceryg, lie y bu yr Indiaid yn trigianu, a'r cregyn brithion bach prydferthaf i'w cael ar lanau yr afon ddu. Nid oes gapel Cymreig yn y cylchoedd, a dyna golled yw hynny i'r Cymry. Ond benthycwyd capel yr Annibynwyr Seisnig, a chafwyd oedfa Gymreig ar Short Ave., a chanu ardderchog, ag ystyried mai yn Babilon yr oeddym. Arweiniwyd gan y brawd W. Lewis un noson. (I'w barhau).

Advertising

Y DYFODOL

[No title]

PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.