Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Yr Eisteddfod.

News
Cite
Share

Yr Eisteddfod. GWYL FAWR ABERPENNAR. Dydd Mawrth. Agorwyd y gweithrediadau yn rheolaidd y dydd hwn trwy gynhal yr Orsedd ym mharc Arglwydd Aberdar. Cadfan oedd yn cynrych- ioli'r Archdderwydd, ac 'roedd amryw o feirdd ac hen eisteddfodwyr yn absenol-megis Watcyn Wyn a Dyfed, &c. Caed hin ddymunol i gynhal y gweithrediadau, ac erbyn 11 o'r gloch yr oedd y llu yn dechreu tyrru tua phabell yr Eisteddfod. Arglwydd Aberdar oedd y llywydd heddyw, a Chynonfardd a Gomer yn arweinyddion. Mabon oedd wedi ei benodi, ond oherwydd afiechyd yr aelod tros y glowyr nis gallai fod yn yr Wyl eleni. Y prif fuddugwyr am y dydd oeddent:— Adroddiad Seisnig, The Falls of Lodore," Miss Maggie Bevan, Forth. Adroddes ieuanc o gryn fri. Coroni'r Bardd. Nid oedd y dyddordeb ynglyn a choroni'r bardd gymaint eleni ag arfer, ac nid doeth oedd i'r pwyllgor ei osod yn un o atdyniadau cyntaf yr Wyl. Caed y feirn- iadaeth gan Gwili, a beirniadaeth faith ydoedd ED. EVANS) Conductor^ Brynammanf Choral Society. Photo by IV. Pees] [Brynamman, South Wales. hefyd. Y testyn oedd pryddest ar "Ann Griffiths," a'r gwr a ennillodd y gamp oedd y Parch. T. Mafonwy Davies, gweinidog yr Anni- bynwyr yn Solfa Coronwyd Mafonwy gyda'r rhwysg arferol a chanwyd can y coroniad gan Miss R. Thomas. Canu pennillion, Mr. John Donnald, Merthyr Vale. Unawd tenor, Lord of the Fatherless," Mr. Alfred Dunlop, Llandaff. Ail oreu, Mr. T. Roberts, Abertawe. Chwech telyneg, Cymru Fu." Bryfdir, Ffes- tiniog, yn oreu. Hir a thoddaid, Beddargraff i Dr. Joseph Parry." Parch. W. Griffiths, Ystradgynlais, yn oreu. Deuawd soprano ac alto, Miss Hall, Ferndale a Miss Cove, Treorci. Unawd baritone, Mr. J. Amos Jones o Lanelli. Unawd contralto, Miss Eva Hall, Ferndale. Canu ar y berdoneg, Miss Grace Morgan, Casnewydd. Corau plant. Daeth no gorau i'r gystadleu- aeth, am y wobr o £ io ac ar ol cystadleu- aeth galed aeth Cor Waunarlwydd a'r brif wobr, a Chor y Tabernacl, Abertawe, yn ail. Cor bechgyn. Daeth unarddeg o gorau'r bechgynos eto i'r maes, a dyfarnwyd y wobr flaenaf i Gor Shiloh, Aberdar, a'r ail i Gor Miskin. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd amryw- iaethol pryd y dadganwyd gan Misses Agnes MAFONWY, the Crowned Bard. Photo by Herve Homer] [New York, U.S.A. Nicholls, Nannie Tout, Mabel Braine, a'r Mri. Evan Williams, lyor Foster, a C. Haydn Gunta, y crythor. Dydd Mercher. Dyma ddydd y corau mawr, ac am y tro cyntaf caed cynulliadau teilwng o'r eisteddfod. Cyn cael y corau aed ymlaen a nifer o fan gystadleuaethau ar ol cael can yr eisteddfod gan Miss Gwladys Roberts. Unawd mezzo soprano, Miss Maggie Morris, Tonyrefail. Unawd crwth, Miss Jessie White, Casnewydd. Canu pennillion, Mr. John Donnald, Merthyr Vale. Cadwen o englynion. Goreu, Eifion Wyn, Porthmadog. Unawd ar y berdoneg, Miss Gertie Thomas, Manselton, Abertawe. Y Prif Ddarn Corawl. Cymerwyd y prydnawn i fyny yn llwyr gyda'r gystadleuaeth yma, ac yr oedd brwdfrydedd ar ei uchelfanau yn ystod yr holl amser. Y darnau Mr. T. HOPKIN EVANS, Resolven. Photo by H, A. Chapmaii] Swansea. oeddynt, "The Challenge of Thor" (Elgar), I "Now the Impetuous Torrents Rise" (D. I Jenkins), ac "O Gladsome Light" (Sullivan). I Danfonwyd enwau chwech cor i fewn, ond I tynodd Pontypridd yn ol. Canodd y pump cor I ddaeth i'r frwydr yn y drefn ganlynol:— I (1) Mid-Rhondda(arweinydd, Mr. E. Hughes). (2) Portsmouth (Mr. W. E. Green). (3) Caerdydd (Mr. R. Williams). (4) Casnewydd (Mr. A. Sims). (5) Brynamman (Mr. E. Evans). Erbyn hyn yr oedd y neuadd eang yn orlawn, a rhoddwyd croesaw neillduol o wresog i'r corau oll-yn enwedig i Gor Portsmouth. A sylwodd y beirniad nes yn mlaen nad aiff hyny yn anghof yn rhwydd ganddo ef fel Sais, nac ychwaith gan y Cor Seisnig-fod y Cymry wedi rhoddi croesaw tywysogaidd i'r cor ddaeth dros Glawdd Offa. Wrth roddi ei feirniadaeth, dywedai Syr Walter Parratt fod yna ddau fath o ganu yn bod-un math He ceir y gerddoriaeth yn yr ymenydd, a'r Hall ceir yr ymenydd yn y gerddor- iaeth ond fod y Cymry, meddai ef, a cherddoriaeth yn y galon yn ogystal. Yr oedd y gystadleuaeth yn un aruchel; ac er mwyn cael o hyd i'r goreu, yr oedd yn rhaid bod yn fanwl. Ac yn ol eu barn hwy fel D. OWEN, Conductor of Rhymney Choir. Photo by John Lawrence] [ Cardiff- beirniad, safai y corau buddugol yn y drefn ganlynol (I) Brynaniman. (2) Mid-Rhondda. (3) Caerdydd. Yna gwobrwywyd yr arweinwyr-Mri. B. Evans (Alawydd Aman), Ted Hughes, ac R- Williams, gan Arglwyddes Aberdar. Anhawdd desgrifio yr olygfa erbyn hyn, a gorphenwyd dydd mawr" Eisteddfod Aber- pennar 1905 mewn hwyl digymhar. Dydd lau. Diwrnod o somiant fu dydd lau. Aeth y beirniaid yn galed iawn ar y cystadleuwyr, a QU yno lawer o atal ar y pres. Unawd trio, Miss Maggie Morris, Tonyrefai, a'i chyfeillion. Unawd soprano, Miss Maggie Morris etc. Unawd bass, Mr. Thomas Lewis, Hengoed. Hanes Aberpergwm, Parch. D. D. Williams, Caersws. -i m Llengwerin Pabyddiaeth, Parch. Gwilym Lewis, Tonyrefail. r Corau Cynulleidfaol, Cor Zoar, Mer Tydfil.. Vipr Unawd crwth, Mr. W. T. Richards, ADer tawe. Unawd ar y delyn, Mr. Tom Bryant.