Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

,.N050N YN Y TV.

News
Cite
Share

N050N YN Y TV. Gan Ymwelydd. Nid yn ami yr wyf yn dod i Lundain ond pan y deuaf, yr wyf yn gwneyd ymdrech arbenig i gad awr neu ddwy yng nghwmni'r Seneddwyr. Beth yw'r achos o hynny nis gwn, ond y mae rhyw barchedigaeth cysegredig yn fy nheimladau tuag at y gwr a wisga'r A.S. ar ol ei enw, fel y credwyf nad oes yr un gwr o'i fath mewn bod. Dydd Mawrth yr oeddwn yn darllen y papyr dyddiol ac yn sylwi fel yr oedd Mr. Balfour yn gorfod cydnabod nas gall gyflawni hanner ei waith am y tymhor presenol, a hynny yn benaf am fod yr Wrthblaid yn gwrthod cytuno ag ef i adael i fesurau fynd gyda rhwyddineb i Dy'r Arglwyddi. O'r naw mesur a addawodd ar ddechreu'r tymhor nid oedd wedi llwyddo i basio rhagor nag un. Yr oedd y datganiad yna yn fy synu pan wyddwn tod ganddo y fath fwyafrif o'r tu cefn id do. Nid peth bach yw cael pedwar-ugain o fwyafrif i chwareu ag ef, ac nis galhvn ddirnad paham na wnai ein Prifweinidog ddefnyddio y mwyafrif hwnnw gyda chysondeb er 'gwthio y cyfan drwocld. I Yr oedd awydd arnaf, felly, i daro i mewn ddydd Mawrth er gweled beth oedd achos ) r holl wastraff hyn, a phan gyrhaeddais y lie deallais ar unwaith fod diwrnod pwysig i gael ei dreulio er siarad ar waith Y Bwrdd Addysg am y flwyddyn sydd newydd orphen. Os oes un pwnc y cymeraf ddyddordeb arbenig ynddo Addysg yw hwnnw. Fel hen ysgolfeistr, yr wyf yn gorfod ennill fy mywoliaeth drwy addysgu eraill, ac er fod fy nghyflwr ar hyn o bryd yn lied ansicr--fel pob ysgolfeistr dan Gynghorau Sirol Cymru—yr oeddwn yn dyheu am glywed beth a ddywedai Syr W. Anson ar yr helynt anfFodus presenol, a sut yr oedd yn myned i'n diogelu rhag gorthrwm y Cynghorau Sirol. Cyrhaeddais y Ty yn gynar yn y prydnawn. Cyn pen ychydig funydau yr oeddwn wedi cael cyfle i siarad a Mr. Yoxall—ein meistr Sen eddol-ac addawodd yntau gael mynediad helaeth i mewn i mi, ond ar yr un pryd dywedai mai noson Gymreig fyddarr noson, gan ofyn i mi geisio dod o hyd i aelod o Gymru er rhoddi'r allwedd neillduol i mil Ond bu'n well na'i obaith cefais yr agoriad ganddo, a ffwrdd ami i gyfeiriad stol y gwrando." Yno yr oedd haid graffus wedi dod ynghyd, a gwyddwn oddiwrth eu gwynebau mat Cymry oedd y mwyafrif. Wrth fy ochr eisteddai Mr. Ernest Rhys y bardd, a cherllaw iddo amryw o wyr a gymer- ent ddyddordeb yn yr areithiau. Wrth daflu cipohvg ar lawr y Ty gwelwn mai gwag iawn ydoedd. oherwydd yr oedd Syr W. Anson wedi codi i draethu ei genadwri, a siaradwr hynod o ddiaddurn -yw penaeth y Bwrdd Addysg. Wedi siarad yn faith a llafurus eisteddodd Syr W. Anson i lawr, a rhaid i mi gyfaddef i hyn fod yn fath o ryddhad i'r dorf oherwydd areithiwr pur gyffredin yw. Yn wir, mae ami i ddadl geir mewn cwrdd llenyddol yn llawer gwell na'r hyn a gaed gan Anson y noson hon. Agorydd y condemniad ar Fwrdd Addysg oedd Mr. Lloyd = George, ac yr oedd mor fywiog a llym nes cael sylw y Ty ar unwaith. Dilynai Syr W. Anson gyda phob achwyniad, a dangosai yn eglur nad oedd -Bwrdd Addysg wedi ymddwyn yn deg tuag at Gymru, ac mai anwiredd noeth oedd fod y Ddeddf yn gweithio yn hwylus trwy'r deyrnas. Yn ychwanegol at hyn daeth a chyhuddiadau difrifol yn erbyn Syr W. Anson yn gyntaf o gelu'r gwir oddiwrth y Ty, ac yn ail o ymddwyn )n anheg at y Cynghorau Sirol. Yr oedd wedi gwrthod talu arian priodol i sir Feirionydd pan oedd y sir honno wedi gwneyd ei goreu i gyfarfod pob gofynion. Dangosai yn eglur fod y ddeddf wedi troi allan yn hollol fel yr oedd efe a'i blaid wedi prophwydo, a cheryddai Syr W. Anson a'r Weinyddiaeth yn hallt am geisio gorfodi'r wlad i dderbyn yr hyn oedd yn groes i'w daliadau a'i chrefydd. Yr oedd yr araeth yn un alluog iawn, yn llawn ffeithiau, a'r traddodiad yn gampus o'r dechreu i'r diwedd. Yr oeddwn yn gobeithio ar hyn byddai'r gwyr Cymreig yn cadw'r ddadl i fynd ond fe'm siomwyd, ac i ddilyn Mr. Lloyd-George wele Syr John Gorst yn codi o sedd flaenaf y Llywodraeth ac yn ceisio ateb yr aelod tros Feirion trwy ychydig wawdiaith. Yna a'i ymlaen i ddangos fod angen am wella addysg yn Lloegr, ac ni chaed erioed y fath doraeth o ffolineb ar bwnc addysg mewn haner awr o amser nag a draddodwyd gan y gwr hwn. Yr oedd ei draddodiad yn sal, ond wfft i gynwys yr araeth. Ni wnai'r tro mewn cwrdd plwyf yn Nghymru, eto wele Senedd Prydain yn gorfod treulio dros haner awr i wrando arno. Nid rhyfedd fod Mr. Balfour yn fethiant os mai dyma'r fath bobl gaiff i'w gefnogi yn y Ty. Z, n Aeth y ddadl ymlaen hyd hanner nos, ac ar ol llawer o siarad cadarnhawyd gwaith Syr W. Anson gan fwyafrif o 30

YR AELOD ANNIBYNOL.

Gohebiaethau.