Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. NID GWAEDDI.-Nid yw gwaeddi—medd y Parch. S. E. Prytherch-yn unrhyw arwydd fod yr enaid wedi ei achub. Yr ydym wedi gwaeddi llawer yn y cyfnod presenol, ond os nad ydym yn cael y gwaith cyfatebol hefyd ofer yn wir fydd yr holl siarad a gwaeddi. GWYL ETo.-Dyma ddydd gwyl arall wrth y drws. Dewch i ni gael ei fwynhau yn Hatfield ddydd Llun wrth ein bodd. GLAN Y MOR.-Daw'r hanes o Landudno ac Aberystwyth fod y Llundeinwyr yno wrth yr ugeiniau. Ac mae'r tywydd wedi bod yn rhag- ZD orol hefyd yn ddiweddar. I'R WVL. Bydd nifer luosog yn tyrru tuag Aberpenar yr wythnos nesaf. Mae Cor Merlin Morgan bron i gyd wedi mynd, a gobeithiwn y caiff fantais i wneyd ei farc y tro hwn. FINSENT A'R "MAIL."—BU "Y Finsent" yn ceisio argyhoeddi'r Western Mail yr wythnos ddiweddaf ei fod yn anghywir. Ond er dangos y gwall iddo ni wnai addef ei anwybodaeth. CYHOEDDIADAU'R EISTEDDFOD.—Ynglyn a'r rhai hyn yr oedd y nodiad. Dywedai'r. Mail nad oedd rhyw draethawd arbenig wedi ei gyhoeddi, tra y dangosai Y Finsent" fod y gwaith yn gyflawn yn un o gyfrolau arbenig Cymdeithas yr Eisteddfod. FFRAE Y BEIRDD.- Tra yn son am yr Eisteddfod nis gallwn lai na rhyfeddu at rai o gwerylwyr newyddiadurol y genedl. Y ffrae ddiweddaf yw pun ai Elfed ai Morris Jones yw'r bardd mwyaf, ac mae clywed rhyw gorachod o feirdd ac eiddilod o lenorion yn traethu ar y mater yn ddigrif iawn oni bae ei fod mor ffol. ELFED.—Mae Elfed yn mynd yn hen Nis gall neb gredu hynny ychwaith wrth sylwi arno ond yr hyn a awgryma hynny yw'r ffaith ei fod wedi pregethu am 25 mlynedd yn ddi-aros. Y Sul diweddaf bu'n dathlu ei ben chwarter canrif trwy bregethu yn nghapel yr Annibynwyr Seisnig yn Bwcle, lie yr ordeiniwyd ef yn 1880. EI YRFA.—Yn Bwcle yr ordeiniwyd ef ar ei fynediad o Goleg Caerfyrddin, ac ar ol pedair mlynedd yno aeth i gymeryd gofal Eglwys Fleet Street, Hull. Yn 1891 aeth yn ol i Gymru i ofalu am Eglwys Seisnig Pare, Llanelli, ac wedi aros yno saith mlynedd daeth i Lundain i fugeilio Eglwys Harecourt, a'r llynedd caed ganddo i ymgymeryd ag Eglwys y Tabernacl Cymreig, yr hon sydd wedi cynyddu yn ddirfawr tan ei weinidogaeth effeithiol. ANNIBYNIA.-Mae'r pwlpudau Annibynol o dan newidiad yn ystod y mis presenol. Yn Nghymru mae Elfed, Machreth, a'r Parchn. D. C. Jones ac E. Owen, B.A., ac ni ddeuant yn ol tan ddechreu Medi. Pob llwydd iddynt sicrhau peth seibiant am dro. CYFARFOD MIsoL-Caed peth gwaith ynglyn a'r Cyfarfod Misol a gynhaliwyd Gorph. igeg yn Jewin Newydd, ac ar derfyn y busnes arferol penodwyd nad oedd y cwrdd nesaf i'w gynhal cyn Medi 27ain. Erbyn hynny bydd mwyafrif o'n gwyr blaenaf wedi dod yn ol oddiar eu gwyliau. ETHOL YSGRIFENYDD.—Prif waith y cyfarfod oedd ethol ysgrifenydd am y tair blynedd nesaf, a syrthiodd y coelbren ar y Parch. F. Knoyle, Hammersmith, un o weinidogion ieuainc a mwyaf addawol y Cyfundeb yn Llundain, a sicr y gwna ei waith i Iwyr foddlonrwydd yr eglwysi. MATERION EREILL.- Yn mysg pethau ereill gohiriwyd enwi ymddiriedolwyr ar y meddianau Cyfundebol yn Clapham Junction. Pasiwyd hefyd i ohirio cadarnhau ymddiswyddiad Mr. Clifford Evans fel swyddog yn Eglwys Shirland Road. Hysbysodd Mr. John Thomas, Walham Green, fod y Parch. J. Tudno Williams, M.A., wedi ymddiswyddo fel bugail yr eglwys yn y He hwnnw, ac wedi cael eglurhad pellach gan Mr. Williams ei hun, yn cynwys y rhesymau a'i harweiniodd i gymeryd y cam hwn, ac ymsefydlu yn Nghymru, pasiwyd penderfyniad brwdfrydig yn datgan gofid diffuant y C.M. am golli o'u plith frawd mor hynaws, pregethwr mor alluog, a gweinidog mor llwyddianus. Ar ol saith mlynedd o lafur cyson ond distaw, y mae yn gadael y ddeadell yn Walham Green mewn cyflwr nodedig o lewyrchus. Mawr eiddunid ei gysur ef a'r teulu yn y cylch gaiff y fraint o'u gwasanaeth yn y dyfodol. Datganwyd cyd- ymdeimlad dyfnaf y C.M. a gweddwon ac amddifaid y trueiniaid gyfarfyddodd a'u diwedd alaethus yn nhanchwa Wattstown, ac anogwyd yr eglwysi i ddangos y cydymdeimlad yn sylweddol trwy wneyd casgliad i gynorthwyo y rhai sydd mewn angen, a'i anfon i Drysorydd y C.M. Hefyd, cydymdeimlid yn ddwys iawn a Mr. Humphrey Hughes, Shirland Road, yn ei alar ef a'r teulu ar ol plentyn anwyl. Gwnaed y cyfnewidiadau angenrheidiol gogyfer a'r rhan a berthyn i'r Dyddiadur am 1906. Caniatawyd rhoddi llythyr cyflwyniad i Mr. D. T. Davies, B.A., i undeb a Chyfarfod Misol Sir Gaer- fyrddin, ac amlygwyd llawenydd wrth glywed ei fod wedi llwyddo i basio gydag anrhydedd Arholiad Cyntaf Prifysgol Cymry am y radd o Wyryf mewn Duwinyddiaeth. Hysbyswyd am ymsefydliad Mr. W. Richards, 9, Chambers Lane, Willesden Green, efengylydd ieuanc a chymeradwy, yn eglwys y lie hwnnw, a'i barod- rwydd i wasanaethu eglwysi bychain y cylch. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. Tudno Williams.

Y DYFODOL

Advertising

Notes of the Week.