Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Nodiadau Golygyddol.

News
Cite
Share

Nodiadau Golygyddol. GWYLIAU HAF. Y pwnc sydd yn cael mwyaf Q le ym mhob meddwl y dyddiau hyn ydyw y gwyliau. Mae y naill hanner o'r bobl naill ai ar y ffordd i ryw hafle neu gilydd, neu ynte yn trefnu i gychwyn; a'r hanner arall yn edrych arnynt yn myned gyda llygaid eiddigus ac mewn ysbryd anniddig ddigon. Nid oes obaith i unrhyw bwnc arall gael nemawr sylw pa mor bwysig bynag y dichori fod. Bu yn argyfwng gwleidyddol wythnos yn ol, ond rhyfedd mor lleied o gyffro a achosodd. Taflai pobl gil olwg ar hysbysleni y papyrau newydd a geisient eu goreu gynyrchu panic, er eu mwyn eu hunain wrth gwrs, ond dyna i gyd. Yr oedd yn amlwg arnynt mai i ffwrdd ymhell yn rhywle yr arosai eu meddylau. Ni fedd helyntion yr Ymherodraeth, na thynged gwein- yddiaeth, un siawns yn y gydymgais a gwyliau haf. Os daw y tywydd i mewn am ryw gymaint o sylw, yn ei berlhynas a'r gwyliau y daw. Mae pawb am gael tywydd braf i fynd i'r wlad neu i lan y mor, a cheir pobl a wgent wrth orfod sychu dyferynau o chwys yn yr wythnos gyntaf o Orphenaf yn gwenu yn foddhaus o dan droch- ion tonnau o chwys yn yr wythnos olaf, pan yn prysuro tua'r stesion i gychwyn i'w gwyliau. Ac y mae hyd y nod y pregethwr sy'n achwyn ar deneurwydd ei gynulleidfa bob amser arall yn edrych yn llawen ar seti gweigion y Sabbothau hyn. Gall ymgysuro mai nid ei amhoblogrwydd ef sy'n cyfrif pa'm y mae cyn lleied ynghyd. Na, ar eu gwyliau y mae'r bobl. Y lleoedd mwyaf dyddorol yn Llundain y dyddiau yma yw y stesions. Y fath gyffro sydd yno Gymaint o waeddi, a Iluchio, ac ym- wthio, a holi! Y fath amrywiaeth o wynebau- o wyneb cul, llwyd-welw yr enethig sy'n dychwelyd adre i farw, hyd at wyneb Ilydan, fflamgoch y tafarnwr sy'n mynd i'r mynyddoedd i fyw'n ddirwestwr am bythefnos. Dylifa y teithwyr i'r porth yn ddidroi, rhai mewn cab, eraill mewn omnibus, eraill ar draed ond pawb yn ofni;colli'r tren serch na chychwyna am yn agos i ddwy awr. A'r fath amrywiaeth clud a welir O'r llawflwch bychan ysgafn hyd at y trwnc mawr cadarn—digon trwm i ysigo ys- gwydd Goliath a digon mawr i ddal dillad angenrheidiol deugain mlynedd. Y peth rhy- feddaf yw hir amynedd swyddogion a gweision cwmni y rheilffordd. Mae'r holi a'r gorchymyn a'r dwrdio sydd arnynt yn ddigon i beri i Job golli ei dymher yn ami; ac ni fedrent gadw heb wylltio'n gandryll ar unrhyw adeg arall. Yn wir, gwelir y swyddog a roddai ateb digon sarug i un ymholydd gwylaidd ddeu-fis yn ol ynghanol dwsin o ymholwyr clochaidd eu lief y 1 dyddiau hyn mor hunanfeddianol a Sant ar ddydd ei ferthyrdod. Mae ysbryd y gwyliau yn ddigon cryf i ail-eni hyd yn nod railway porter. Pe na wnai y gwyliau unrhyw ddaioni arall y maent yn gwneyd i bobl fod yn naturiol cyhyd ag y parhant. Teflir pob rhodres i ffwrdd o'r foment y dechreuir pacio i fynd i ffwrdd. Siaradant a'u gilydd yn rhydd a dilyffethair serch na chawsant erioed introduction. Ni ofal- ant am ymddangosiad ychwaith. Gwelir dynion yn cerdded ar hyd heolydd y ddinas ac yn teithio yn y bus y diwrnod y cychwynant i'w gwyliau mewn dillad ysgeifn goleu a het lwyd na chymerent Lundain i gyd am fynd dros y trothwy unrhyw adeg arall oddiderth mewn frock coat ddued ag angau a het silc loewed ag eboni. Mae'r masnachwr, ac yn enwedig y gwasanaethwr sydd yn arfer bod mor daiog wedi ymddatod o'r rhwymau, ac fel dynion eraill am bythefnos neu fis. Teflir ffug-sancteiddrwydd a ffug-foneddigeiddrwydd i'r pentwr cyn cychwyn, ac ni feddylir am danynt nes dod yn ol. Mae llygaid y diacon sydd byth a hefyd yn gosod y bobl ieuainc ar eu gocheliad rhag hudoliaethau chwareuon yn gloewi o'r foment yr a i'r tren yn y rhagolwg am chwareu croquet yn Llandrin- dod o fore hyd hwyr. Ac mor bell ag y mae mwyafrif mawr Cymry Llundain yn y cwestiwn teflir llediaith Seisnig ymaith hefyd. Mae Cymraeg glan, llydan, yn rhy boblogaidd yng Nghymru heddyw i neb fynd yn ol yno a blewyn ar ei dafod. Y mae gweled pobl yn rhydd o efynau rhodres am ychydig ddyddiau yn destyn diolch. ac yn brawf nad yw y natur ddynol wedi llygru'n llwyr er pobpeth a ddywed y duwinydd- ion. A diau y buasai natur Llundeinwyr, beth bynnag, yn llawer mwy llygredig nag ydyw oni bae gwyliau'r haf sydd yn rhoddi cyfle i fynd allan am ychydig amser o fywyd arwynebol, peirianol, y ddinas i gymdeithas anian sydd a'i blodau, a'i hawelon, a'i hafonydd a'i mynyddoedd yn gorphoriad o symledd dirodres, ac i gwmni cymeriadau gwladaidd mor onest a'r goleuni ac mor dryloew a'r aberoedd.

Notes of the Week.