Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Enwogion Cymreig.-XXXV. Mr.…

News
Cite
Share

Enwogion Cymreig.-XXXV. Mr. J. Bryn Roberts, A.S. Y MAE mwy nag un ystyr i'r enw Aelod — Annibynol" yn Nhy y Cyffredin. Yr un fwyaf cyffredin efallai yw yr un a gysylltir a gwr fo wedi digio wrth ei blaid am ryw achos neu gilydd, yn fwy na thebyg oherwydd na roddwyd iddo swydd y credai ei fod yn meddu mwy o gymhwysder na neb arall i'w llanw. Gellid enwi dau neu dri a ennillasant gryn hynodrwydd fel aelodau Annibynol" yn yr ystyr hon yn ystod y chwarter canrif diweddaf. Yr engrhaifft oreu efallai ydoedd y diweddar Mr. Joseph Cowen, o Newcastle. Ond def- nyddir yr enw hefyd mewn ystyr arall, llawer mwy anrhydeddus. Dynoda yr aelod sydd yn gwbl ffyddlon i'r blaid y perthyna iddi, ac ni wna o'i fodd ddim i'w drygu. Ond y mae ei onestrwydd mor ddidderbynwyneb, ei argy- hoeddiadau mor ddyfnion, ei ffordd o feddwl mor neillduol, a'i gydwybodolrwydd mor ddi- lychwin, fel na phetrusa fyned yn erbyn ei blaid ac yn erbyn ei gyfeillion anwylaf pan nas gall gydweled a hwy. Cydnabyddir ef yn ddyn cryf a phenderfynol, a pherchir ef gan y rhai a wrthwvnebir fwyaf ganddo. Nid ellid cael yn y Senedd bresenol engrhaifft uwch o'r Aelod Annibynol yn yr ystyr hon na Mr. J. Bryn Roberts, yr aelod anrhydeddus dros Eifion. Y mae ef wedi bod yn Nhy y Cyffredin bellach am bron Ugain mlynedd, ac er nad yw ei gydaelodau Cymreig ag yntau wedi cydweled ar bob pwnc, na'i gefnogwyr goreu yn yr etholaeth heb hanner digio wrtho ar fwy nag un achlysur, eto cyd- nebydd pawb fod ynddo liaws o elfenau sydd yn anrhydedd i ddynoliaeth, ac ni fedd unrhyw ran o Gymru gynrychiolydd sydd yn uwch ei barch a phurach ei ddylanwad. Faint bynag a anghytunwyd ac a anghytunir ar safle a gymer ar rai pynciau nid oes neb yn amheu ei onest- rwydd a'i gydwybodolrwydd. Ganwyd Mr. Bryn Roberts yn y flwyddyn *843. Hanna o rai o deuluoedd mwyaf cyfrifol Arfon a Meirion. Amaethwyr Cyfrifol oedd ei Hynafiaid, yn Bryn Adda, ar ystad y Faenol, gerllaw y ■^elinheli a Bangor, y preswyliai ei rieni. Yr oedd y teulu yn Ymneillduwyr cedyrn; meith- rmwyd yntau yn nhraddodiadau ei dadau, ac y Ihae wedi parhau yn ffyddlon iddynt drwy ei oes. Ym Mryn Adda y lletyai bron bob pre- §ethwr Methodus a ddeuai i'r gymydogaeth, a gadawodd eu cymdeithas a'u hymddiddanion hwy argraff ddofn arno pan yn blentyn. Cafodd yr addysg oreu a ellid roddi iddo. Pasiodd yn Syfreithiwr, ac ymsefydlodd ym Mangor, lie y Slcrhaodd practice eang ac ennillfawr. Ystyrid ef yn un o'r cyfarwyddwyr diogelaf yn yr holl wlad. o bymtheg i ddeunaw mlynedd yn ol penderfynodd fyned yn far-gyfreithiwr, ac y mae yn un o'r prif ddadleuwyr ar gylchdaith Gqgledd Cymru. Er yn bur ieuanc cymer ddyddordeb mawr mewn symudiadau gwleidyddol cartrefol a thramor. Yn adeg rhyfel y Crimea yr oedd yn yr ysgol ym Mangor, a'r fath oedd ei awydd un diwrnod am wybod helynt y brwydro fel y prynodd rifyn o'r Times, er gorfod talu chwe- cheiniog am dano. Wedi ymsefydlu ym Mangor daeth yn fuan i gymeryd rhan amlwg yn symudiadau cymdeithasol a pholiticaidd Cymru, ac ystyrid ef yn un o golofnau Rhyddfrydiaeth yn y Gogledd. Cofir yn dda am yr hyn a wnaeth ym mrwydrau Dadgysylltiad, a chafodd Mr. J. BRYN ROBERTS, A.S. y diweddar Ddeon Edwards achos i gofio mai nid gwr i'w ddiystyru ydoedd the lawyer who is no theologian." Yn 1885 dychwelwyd ef i'r Senedd fel Cynrychiolydd Cyntaf Rhanbarth Eifion. Yr oedd ei fwyafrif y pryd hwnw yn fwy na phymtheg cant, a chwyddodd gymaint yn 1892 fel nad aflonyddwyd arno yn y ddau etholiad diweddaf. Prin efallai y gellir dweyd fod nodweddion na neillduolion Celtaidd yn Mr. Bryn Roberts fel mewn amryw o'i gyd-aelodau, yn enwedig fel y maent yn y ddau aelod arall dros sir a bwrdeisdrefi Arfon. Nid yw yn feddianol ar yr unrhyw hyawdledd, ac nid yw ychwaith yn cael ei boeni gan freuddwydion delfrydol. Nid oes dim yn chwyldroadol yn ei lywod-ddysg. Yn yr ystyr hon gellid efallai ei alw yn Rhydd- frydwr o'r hen ysgol. Nid yw yn credu llawer yn yr hyn a elwir yn "Ddeffroad Cymreig." Yn ol ei syniad ef y mae Cymru wedi bod er's amser maith yr un mor Ryddfrydol ag yw heddyw, yn unig na feddai ei phobl yr un cyfle ag a feddant yn awr i roddi mynegiad i'w hargyhoeddiadau. Y Ddau Beth sydd wedi Effeithio Mwyaf ar Gymru yn ol ei farn ef ydyw, y balot ac estyniad yr etholfraint. Cred fod Ymneillduwyr Cymru yr un mor Ryddfrydol hanner canrif yn ol ag ydynt heddyw, ond eu bod yn pleid- leisio fel arall rhag dinystrio eu hamgylchiadau eu hunain a'u teuluoedd. Ac ni fedr eu beio am hynny. Byddai disgwyl iddynt wneyd yn wahanol yn ddisgwyl mwy nag y mae y natur ddynol yn barod iddo. Ac y mae ei syniad ynghylch y pwnc yna yn gystal dangosiad o safle wleidyddol Mr. Bryn Roberts ag a ellir gael. Erys ei feddwl gyda'r ymarferol-yr ymarferol o safbwynt dyn pwyllog, yn edrych ar bethau o bob cyfeiriad. Os dim, edrych o ormod o wahanol gyfeiriadau y mae. Cred mewn Ymreolaeth i'r Werddon am ei bod yn ymarferol. Gwrthwyneba Ymreolaeth i Gymru am ei bod yn anymarferol. Gwrthododd ymuno a'r aelodau Cymreig i bwyso ar y Llywodraeth i wthio ymlaen Fesur y Dadgysylltiad yn 1893 a '94, am y credai fod hynny yn peryglu dyfodol y blaid Ryddfrydol. Owrthwyneba y Polisi Cymreig presenol o ymladd brwydr Addysg Cymru am y cred nad yw yn bosibl ei gario allan i'r terfyn eithaf. Er mwyn gwneyd hynny byddai yn angenrheidiol cael mwy o hunanaberth yn y genedl nag y mae y natur ddynol yn abl iddo. Ond y camgymeriad mwyaf fyddai tybied fod Mr. Bryn Roberts oherwydd ei fod yn anghytuno a 'polisi a ddichon gael ei fabwysiadu yn ddi- fraw ynghylch y pynciau y cymer Cymru ddyddordeb ynddynt. Ni fedd Dadgysylltiad, Diwygio Deddfau Tir, Addysg, &c., gefnogwr mwy pybyr. Ond nid yw yn barod i godi baner gwrthryfel a chwyldroad o dan unrhyw amgylchiadau. A'i farnu yn ol y syniad mwyaf cyffredin gellid Ei alw yn Wrth=Genedlaetholwr, ond mewn ystyr arall y mae yn genedlaetholwr i'r earn. Ni fedd Ymherodroldeb (Imperial- ism) wrthwynebwr mwy egniol. Safodd fel craig yn erbyn y rhyfel yn Neheubarth Affrica, a hynny am ei fod yn argyhoeddedig fod cenedl fechan yn fwy o help i ddyrchafiad dynoliaeth nq. chenedl fawr, falch, drahaus. Yn